Adlewyrchiad ar gyfer y 3’ydd ddydd Sul cyn y Grawys.

“Chi yw halen y ddaear. Unwaith y cyll yr halen ei flas, sut y gwneir ef yn hallt drachefn?”

Yr Iesu yn Mathew 5:13

‘ rydym yn creu “halen o’r ddaear” yn ogystal a “halen ar gyfer y ddaear”. Hysbys cwmni Blackthorn.

Tra roeddwn yn gweinyddu mewn eglwys yn Notingham, mi wnes erthyglon a sgyrsiau i’w darlledu ar yr orsaf radio lleol.

Mi oeddwn yn arbennigwr mewn torri tapiau i greu deunydd ar gyfer darlledu a cwrddais a pobol diddorol dros ben tra’n eu cyfweld ond ar un adeg clywais am yr ymarfer o chwalu halen dros y tir er mwyn cryfhau’r “signal” ar gyfer darlledu. Do, mi lwyddodd yn hynnu o beth ond gwnaeth dim lles o gwbl i’r coed gyfgos.

Mi ddigwyddodd rhywbeth tebyg yma yn eglwys Santes Melangell pryd gwasgarwyd halen o gwmpas y tir, i edrych fel eira, ar gyfer ffilm deledu. Yn anffodus wnaeth hynny ddim lles o gwnl i’r coed Ywen gyfagos. Heddiw fase hyn yn erbyn rheolau diogelwch a byth yn cael ei ganiatau.

Roedd yr Iesu yn gwybod hyn, gan fod halen yn cael ei hel o’r Mor Marw gyda ychwanegiant i wneud iddo barhau. Petai ormod o’r ychwanegiant yn cael ei gynnwys, bydde’r halen yn colli ei flas a’i ddawn a felly cael ei sathru dan draed. Bydde’r Iesu yn gyfarwydd a’r arfer yma ac yn defnyddio symbolau bydde’i gynlleidfa yn eu dallt.

Mae E’n egluro wrth ei ddilynwyr mae nhw YW halen y ddaear, nid fod hyn yn addewid am y dyfodol.

RWAN yw’r amser a mae ychydig o ronnynau yn gwella’r blas. Wrth gael ei adael mewn potun neu pecyn, mae halen yn ddiwerth. Rhaid ei wasgaru ar y bwydydd er mwyn gwneud gwahaniaeth.

Mae halen hefyd yn cael ei ddefnyddio fel cadwolun ac hefyd fel meddyginiaeth e.e. ar gyfer dolur gwddw. Mae e’n ddiheintydd hefyd, yn erbyn y bacteria sydd yr unig greaduriaid sy’n byw yn y Mor Marw. Ar ol deud hynny, pan es i yno, bron iddynt gael cwmni Profost Gweinidogaeth Southwell. Roedd yn darllen papur newydd tra’n gorwedd ar ei gefn yn y Mor Marw, pan gipiodd y gwynt ei bapur. Rhaid ei helpu’n ol ar ei gefn ar ol iddo fethy troi oddiar ei fol!

Heddiw mae halen yn cael ei osgoi gan y rhai gyda phwysau gwaed uchel a mae dewisiadau eraill ar gael er mwyn iechyd.

 Beth bynnag, mae unrhyw weinidog yn rhannu gwellhad eneidiau gyda’r Esgob, ac yn eu galw’n “curad” er mai “curad cynorthwyol” ydynt mewn gwirionedd.

Drwy gadw pysgod neu cig gyda halen, maen’t hefyd yn cael eu hamddiffyn rhag fynd yn ddrwg ac, wrth i’r Grawys agosau, mae geiriau’r Iesu yn ein atgoffa fod rhaid cadw’r enaid yn ogystal a’r corff, rhag mynd yn ddrwg.

Yn ogystal a’i amryw ddefnyddiadau, mae’r Iesu yn son am ddefnydd halen i wella blas y bwyd. Wrth iddo gael ei droi yn y bwyd, mae e’n diflannu ond ei effaith yn parhau.

Wrth son am halen – a goleuni hefyd, mae’r Iesu yn dangos i’w ddilynwyr  y medrid ddefnyddio pethau bob-dydd i wneud gwahaniaeth i fywyd pobol.

Rhaid i halen gael ei ddefnyddio ac yn yr adeg tywylll yma yn enwedig, mae yna sawl posibylrwydd o’i ddefnyddio yng nghymysg Teyrnas Duw yn y Creawd yma.

Fel mae hysbys Blackthorn yn awgrymu, er mwyn gwneud gwahaniaeth, neu argraff ar fywyd heddiw, rhaid i ni fod yn halen O’R Ddaear yn ogystal a halen AR GYFER y Ddaear.

Wrth fod yn gymysg a’r byd rwan ac yn y dyfodol, rhaid i ni fod yn ymgyrchwyr “haledig”!

Gyda fy Ngweddion, Pob Bendith,

Christine,

Gwarcheidwad.