Cyfrannwch

Sut mae Canolfan Santes Melangell yn cael ei hariannu

Mae Canolfan Sant Melangell yn dibynnu ar haelioni unigolion, eglwysi a sefydliadau er mwyn i’n gwaith allu parhau.

Mae angen eich help arnom er mwyn cynnal a datblygu’r gwasanaethau a ddarperir. Gallwch chi gyfrannu mewn nifer o wahanol ffyrdd:

  • Cofiwch am waith Canolfan Santes Melangell yn eich gweddïau
  • Ystyriwch gynnig eich sgiliau a’ch arbenigedd yn wirfoddol
  • Dewch yn Gyfaill i Ganolfan Santes Melangell
  • Cefnogwch waith y Ganolfan yn ariannol.

Os gallwch chi gyfrannu at waith y Ganolfan yn ariannol:

 

Cyfrannwch trwy’r post:

Anfonwch eich siec yn daladwy i ‘Canolfan Santes Melangell / The Saint Melangell Centre’ i: Canolfan Y Santes Melangell, Pennant Melangell, Llangynog, Powys SY10 0HQ

Cofiwch gynnwys eich enw a’ch cyfeiriad fel y gallwn ddiolch i chi.

Cyfrannu trwy ddebyd uniongyrchol

Mae’n bosibl cyfrannu trwy ddebyd uniongyrchol trwy gynllun Rhoddion Uniongyrchol Eglwys yng Nghymru, gan enwebu Eglwys y Gysegrfa Santes Melangell fel y plwyf yr ydych yn dymuno cyfrannu ato. Gellir gwneud hyn gyda neu heb Rodd Cymorth. Llenwch y ffurflen neu cysylltwch â’r cynllun trwy’r ddolen ganlynol https://www.churchinwales.org.uk/cy/clergy-and-members/gift-direct/start-donating-your-church-or-parish/

Gadewch rodd i Ganolfan Santes Melangell yn eich ewyllys:

Cysylltwch â’r Ganolfan i gael rhagor o fanylion 

Gwnewch i rodd i Ganolfan Santes Melangell fynd yn bellach gyda Rhodd Cymorth

Os ydych chi’n drethdalwr yn y DU, bydd Rhodd Cymorth yn golygu bod eich cyfraniad yn werth mwy fyth i ni. Am bob £1 a roddwch, byddwn yn derbyn 25c gan Gyllid y Wlad. Llenwch ac anfonwch y ffurflen ar y dolenni canlynol os ydych am wneud datganiad Rhodd Cymorth.

Mae rhagor o wybodaeth am Gynllun Rhoddion Uniongyrchol yr Eglwys yng Nghymru i’w gweld ar y daflen yma, https://churchinwales.contentfiles.net/media/documents/1798-Gift-Direct-English.pdf. Mae ffurflen ar dudalennau olaf y daflen os ydych am gymryd rhan. 

Gellir dod o hyd i ragor o fanylion am ein cynllun Rhoddion Uniongyrchol trwy ddilyn y ddolen hon i wefan yr Eglwys yng Nghymru. Dewiswch ‘Eglwys y Gysegrfa Santes Melangell’ fel eich plwyf enwebedig.

Cyfrinachedd

Ni fydd y manylion a roddwch i Ganolfan Santes Melangell yn cael eu trosglwyddo i unrhyw berson neu sefydliad arall.