“ Ac wedi ei ddyfod ef i mewn i Jerwsalem, y ddinas oll a gynhyrfodd, gan ddywedyd, Pwy yw hwn? ”
O Mathew 21:1-11 Efengyl y Palmwydd.
“Roedd ymweliad y brenin Charles a Paris a Bordeaux i fod i gychwyn ar ddydd Sul ond roedd y ddwy ddinas yn dioddef a milendra ers ddydd Iau, ymhlith y gwaetha ers i’r protestiadau ddechrau.” O newyddion y B.B.C.
Weithiau mae defnyddio gweddi i ofyn i Dduw ein gwaredu rhag adegau o brawf neu treial yn ein temtio, er mwyn osgoi anhawster, camdriniaeth, neu cael ein gwrthod.
Mae ddydd Sul y Palmwydd, beth bynnag, yn pwysleisio fod yr Iesu yn gwynebu poendod a dioddefaint, ac yn rhodio ato, tra fod gymaint yn rhedeg i ffwrdd. Nes ymlaen mae ei ddisgyblion yn eu plith ond pwy fydde’n dychmygu fod mab saer coed ar gefn mul, gyda ychydig o bysgotwyr yn medru cael cystal dylanwad ar Jerusalem, y ddinas heddwch sydd mewn gymaint o dymhestl? Mwy na 2000 o flynyddoedd eisioes mae heddwch yn dal i fod ty hwnt i gyrraedd y ddinas yma, fel sawl un arall o gwmpas y byd.
Mae Paris a Bordeaux ymhlith y rhain, gyda aflonyddwch sifil a phrotestiadau yn erbyn newidiadau yr arlywydd Macron yn byrlymu drost Ffrainc.
Drwy ofyn yr arlywydd, mae’r ymweliad wedi ei ohirio nes fydd yr aflonyddwch wedi tawelu fel eu bod yn osgoi cael eu cynnwys yng ngwleidyddiaeth, a pherygl y sefyllfa.
Bydde eu ymweliad a’r ddinas, yn ogystal a gwledda yn Versailles, gyda’i atseiniau a’r wrthryfel Ffrengig a dienyddiad Louis XVI ddim o gymorth i’r sefyllfa presennol!
Yn gyferbynnol, mae cyrrhaeddiad yr Iesu ym mwrlwm Jerusalem wedi ei ddisgrifio fel “Buddugoliaeth”, wrth i’r ddorfa llawen ei groesawu gan osod canghennau palmwydd ar lawr, er y bydde’n cael ei groeshoeli dim ond pum diwrnod nes ymlaen. Y weithred syml o rodio mewn i Jerusalem ar gefn mul sy’n achosi y canlyniadau gwleidyddol fwyaf yn weinidogaeth yr Iesu, efallai, fel bod yr awdurdodau Rhufeinig a chrefyddol yn ceisio cael ‘madael ac O, gyda Judas, un o ddisgyblion yr Iesu, yn eu cynorthwyo.
Ond, er yn ymwybodol fod yr amgylchiadau yn berygl iawn iddo, mae’r Iesu yn camu ymlaen i’r lle sy’n cynnig ymraniad a goresgyniad, sibrydion a bygythiadau, o dlodni a chyfoeth, o rym gwleidyddol a chrefyddol. Mae’r Tywysog Heddwch yn herio hyn, dim ond drwy mynd i mewn i’r ddinas ar gefn ebol nid ar gefn stalwyn rhyfelwr neu brenin.
Drwy ddrysu a gwynebu’r Pharisiaid, Herod, milwyr a gwerin Jerusalem, bydd Brenin y Brenhinoedd yn cael ei groeshoeli ar orsedd pren a choron drain.
Er mi fydd y bradychaeth, y dioddefaint creulon a’r marwolaeth ofnadwy yn arwain, mewn amser, at atgyfodiad a gobaith newydd, i’r rhai sy’n dilyn yn ol traed yr Iesu.
Ond, am rwan, wrth i wythnos y Pasg gychwyn a llywodraethau ac awdurdodau’r wlad wynebu herion, mae efengyl Mathew yn son am ddinas byrlymus a’r cwestiwn “Pwy yw hwn?”
Ym mwrlwm y byd fel y mae, mae’r un cwestiwn yn cael ei ofyn heddiw yn ystod wythnos y Pasg; “Pwy yw Hwn?” Be fydd ein ymateb?
“Nawr i llidiart fy Jerusalem inne, dinas sanctaidd, gwyllt fy nghalon, mae’r Gwaredwr yn dyfod, ond a wnaf Ei groesawu?”
O Dydd Sul y Palmwydd. “Sounding the Seasons”, gan Malcolm Guite, Canterbury Press 2012.
Gyda fy ngweddion,
Pob Bendith, Christine, Gwarcheidwad