Adlewyrchiad am Bumed ddydd Sul Y Grawys ac adeg y  Dioddefaint.

“ Bu llaw yr Arglwydd arnaf, ac a’m dug allan yn ysbryd yr Arglwydd, ac a’m gosododd yng nghanol dyffryn, a hwnnw oedd yn llawn esgyrn. 2 Ac efe a wnaeth i mi fyned heibio iddynt o amgylch ogylch: ac wele hwynt yn aml iawn ar wyneb y dyffryn; wele hefyd, sychion iawn oeddynt. 3 Ac efe a ddywedodd wrthyf, Ha fab dyn, a fydd byw yr esgyrn hyn?”

O Ezekiel 37:1-14, adroddiad heddiw o’r Hen Destament.

“Myfi yw’r atgyfodiad, a’r bywyd: yr hwn sydd yn credu ynof fi, er iddo farw, a fydd byw: 26 A phwy bynnag sydd yn fyw, ac yn credu ynof fi, ni bydd marw yn dragywydd. A wyt ti’n credu hyn? “ Ioan 11:1-45

“I lwyddo mewn bywyd, mae angen tri peth; asgwrn dymuniad, asgwrn cefn ac asgwrn doniol”. Reba McEntire, cantores gwerin o America.

Mae adroddiadau heddiw ynglyn a’r esgyrn sych a atgyfodi Lazarus yn rhai cyfarwydd ond yn cyseinio’n wahanol yma ym Mhennant Melangell, lle mae esgyrn sych ffesantod a defaid yn gorwedd o gwmpas y lle.

Bu esgyrn ddynol, a’u darganfuwyd yn ystod cloddio ym 1958 a 1979 wedi eu gosod yn y Shrin pan ei ailadeiladwyd yn y flwyddyn 1979.

Efallai fod y creiriau hyn yn perthyn i’r santes, neu ddim, ond dywedwyd iddynt fod yn perthyn i ddynes tua 5 troedfedd neu 1.52 medr o daldra.

Mae sawl pererin yn ymweld oherwydd y Shrin ond ni sylweddolais arwyddocad hyn yn llawn nes i mi fynd i mewn i’r eglwys yn fuan ar ol cymeryd y swydd, a gweld corff yn gorwedd ar lawr yn ymyl y Shrin.

Wrth i mi sefyll yno wedi syfrdanu, trodd y corff ataf a dweud “Bore Da!”, nes i mi ddallt mae Pererin Uniongred oedd yma’n addoli’r creiriau a mae’r  holl gardiau gweddi a symbolau o gwmpas y Shrin yn arddangos dylanwad Melangell ym mywydau bobol heddiw.

Efallai fod ei esgyrn sych yn gorwedd yma heddiw ond mae Melangell yn ymgorffori’r gwerthoedd o seintwar, gwellhad a croeso sy’n fyw yma yn ardal y Shrin.

Gofynwyd i Ezekiel “A feder yr esgyrn sych yma fyw?”

Yn y pen draw maen’t yn gwneud, a bywyd newydd yn dod i’r hyn sy’n sych ar ol colli gobaith.

Mae’r un peth yn wir pan gafodd yr Iesu wybod am farwolaeth Lazarus – mae E’n disgwyl deuddydd cyn mynd at Mair a Martha, sy’n drist gan fod yr Iesu heb ddod yn gynt.

Mae Martha hefyd yn pryderu am oglau, sy’n golygu fod Lazarus wedi marw ac nid yn unig ei fod yn anymwybodol.

Ta waeth, pryd mae’r Iesu yn gweld Mair a’r rhai o gwmpas yn wylo, mae Ef hefyd yn wylo.

Nid Duw estron yn defnyddio’r ddynol ryw fel y myn, mo hyn, ond Iesu ddynol yn dioddef colled, galar a phoen.

Wrth i Lazarus godi o’r beddrod, does dim arogl mae’n debyg – yn codi’n fyw o farwolaeth. Mae bywyd wedi adnewyddu ac mae geiriau’r Iesu i Martha yn cael eu defnyddio mewn angladdau Cristnogol hyd heddiw fel atgof o ailsefydlu gobaith wrth wynebu a trechu marwolaeth gan i’r Iesu gael ei atgyfodi nes ymlaen.

Gwelodd Ezekiel bywyd newydd yn tyfu wrth i anadl Duw ailfywiogi’r esgyrn sych, yn union fel i Lazarus ymateb i orchymun yr Iesu i godi o’r beddrod.

Wrth i adeg y Dioddefaint gychwyn, mae llawer sy wedi sychu neu marw mewn bywyd heddiw ac weithiau mae’n anodd ystyried lle fedr gobaith fod. Be sydd angen marw a pha esgyrn sych sydd angen anadl newydd i’w bywiogi, a sut?

Seiniwyd y cwestiynnau yma dros y blynyddoedd ac mae’n ymateb ni’n holl-bwysig; “A fedr yr esgyrn yma fyw?”, “Ydych yn credu hyn?”.

Gyda fy ngweddion,

Pob Bendith,

Christine, Gwarcheidwad.

Adlewyrchiad am y 4ydd Ddydd Sul Y Grawys. Sul y Mamau.

45 “A phryd na chawsant ef, hwy a ddychwelasant i Jerwsalem, gan ei geisio ef. 46 A bu, ar ôl tridiau, gael ohonynt hwy ef yn y deml, yn eistedd yng nghanol y doctoriaid, yn gwrando arnynt, ac yn eu holi hwynt.”
O Luc 2:43-51, Efengyl heddiw.

“Yn ogystal a gwryw a benyw, mae yna 72 o rywiau eraill”. MedecineNet.

Mae efengyl heddiw yn canolbwyntio ar gyfarfod yr Iesu a’i rieni gyda Anna a Simeon, yr henoed sydd yn sylweddoli pwy yw’r Iesu.
Mae Simeon yn dweud wrth Fair fod yr hyn a ddigwyddith yn mynd i fod yn boenus iddi a mae delweddau, fel Pieta Michaelangelo, yn dangos hi’n dal corff ei mab ar ol sefyll o flaen y groes yn ystod y croeshoeliad.
Yn ogystal mae yna ddelweddau o Fair dedwydd yn dal ei baban ac mae hyn yn adlewyrchu sefyllfa rhieni heddiw yn profi’r boendod a’r llawenydd o fagu plentyn.

Awgrymwyd yn y cyfryngau heddiw na ddylid ddefnyddio “mam” neu “tad” a bydde “rhiant” yn well air.
Mae’r ymateb wedi bod yn gymysg iawn ond, gyda Llywodraeth Cymru yn gosod tampons yn llefydd chwech y Senedd a’r awgrymiad fod yna 74 o rywiau, tydi hyn ddim yn adeg hawdd i fod yn riant nac yn blentyn tra mae’r materon yma’n cael eu trafod.

Adlewyrchid y dryswch yma yng weddill adroddiad heddiw, lle mae Joseff a Mair yn mynd i Jerusalem am y Pasg, ond, yn anymwybodol iddynt, yn dychwelyd heb yr Iesu. Maen’t yn meddwl ei fod gyda teulu arall ar yr orymdaith ond mae E wedi aros yn Jerusalem a chymerwyd diwrnod iddynt sylweddoli hynny.
Pryd dychwelasant i chwilio am yr Iesu, mae’n cymeryd tridie iddynt Ei ddarganfod gyda’r Athrawon yn y deml, ac, wrth gwrs maen’t yn poeni’n fawr amdano erbyn hynny. Ond, pryd mae Mair yn Ei holi, mae’n gofyn paham a wnaethont chwilio amdano canys y bydde bob tro yn nhy ei Dad.
Pa effaith cafodd hyn ar Joseff a Mair?
Yn ol Luc mae E’n dychwelyd i Nazareth gyda’i rieni ac yn ufydd iddynt ond mae Mair yn cadw hyn oll yn ddiogel yn ei chalon tra mae Ef yn tyfu yn gorphorol ac mewn doethineb.

Er nid yn hawdd ar Fair ar y pryd, heddiw mi fase cwestiynnau mawr yn cael eu gofyn o’r rhieni petai plentyn ar goll am bedwar diwrnod.
Er hynny, efallai medrwn gymeryd cysur wrth sylweddoli fod magu plentyn yn anodd yr adeg honno, i gymharu a chymlethdodau magu plentyn heddiw, ac o ystyried mae llysdad mewn effaith oedd Joseff i’r Iesu.
Yn ystod encil, des ar draws pen mop mewn caej, gyda gwres, bwyd a diod wedi eu darparu gan ofalwr. O dan y mop roedd cywion bach – eu mam wedi ei lladd gan lwynog – nid yn ddelfrydol efallai ond yn ddigonol nes i’r cywion medru byw bywyd anibynnol.

Gyda bywyd fel ffoadur yn yr Aifft am ddwy flynedd a Joseff, mewn effaith, yn lysdad iddo, yn dysgu sgiliau saer coed, mae’n amlwg fod teulu’r Iesu wedi gorfod gofalu dros eu hunain o bryd i bryd a bon’t yn ymgorphori rhai o’r heriau mae sawl teulu yn wynebu heddiw.
Serch hynny, a’i rieni wedi ei golli am gyfnod, ‘roedd magwraeth yr Iesu’n ddigonol Iddo, a mae’r un gobaith ganddom ninnau tra’n gwynebu holl amgylchiadau newidiol y dydd.
Nid oedd Mair a Joseff yn rieni perffaith a, tra fod Sul y Mammau hefyd yn cael ei adnabod fel Sul y Maeth, efallai medrwn ninnau gymeryd maeth i’n eneidiau drwy eu siampl!
.
Gyda fy ngweddion,
Pob Bendith,
Christine,
Gwarcheidwad.

Adlewyrchiad am 3’ydd ddydd Sul Y Grawys a hawl mynegi barn.

”39 Daeth llawer o’r Samariaid o’r dref honno i gredu yn Iesu drwy air y wraig..” O Efengyl heddiw Ioan 4:5-42

“Os yw rhyddid yn golygu unrhywbeth o gwbl, mae e’n golygu’r hawl i ddweud wrth bobol yr hyn nad ydynt eisiau clywed.”  George Orwell, awdur “1984” a chyn gynhyrchydd rhaglen “B.B.C. yn siarad”.

Mae trafodaeth heddiw rhwng yr Iesu a’r ddynes Samaraidd wrth ffynnon Iacob yn un hir, lle maen’t yn ymuno a chyfres o drafodaethau sy’n effeithio ar y ddau ohonynt.

Mae’r Iesu wedi blino, ac ar ben ei hun gan fod y Disgyblion wedi mynd i nol bwyd ac hefyd  mae’n andros o boeth am hanner dydd.

Mae E’n fregys, fel hithe, oherwydd mae gorfod mynd at y ffynnon yng ngwres y dydd i nol dwr tra fydde’r rhan fwyaf yn cysgodi yn arwyddocau na tydi hi ddim mewn safon uchel yn y gymdeithas.

Er syndod iddi hi, gan fod yr Iddewon a’r Samariaid “ddim yn rhannu pethau yn gyffredin”, p9, mae’r Iesu yn croesi ffin rhwng y ddau gymdeithas wrth ofyn iddi am ddiod, rhywbeth na fydde byth yn digwydd yn ol arfer yr  adeg heb achosi problemau i’r ddau ohonynt.

Adeg hynny, hefyd, er tristwch, adeg yma, roedd yr amgylchiadau hiliol, crefyddol a chymdeithasol yn golygu fod gelyndra ac anesmwythdod yn parhau yno, er fod nol dwr yn ddisgwyliadwy o ferched.

Cynnigodd yr Iesu iddi Dwr Byw, ffres nid merllyd, sef “ffynhonnell o ddwr yn ffrydio i fywyd tragwyddol” p14 ond mae hithe yn herian arno nad oes ganddo fo fwced ac er y gwahaniaethau rhyngddynt, yn crybwyll “ein cyndaid Iacob”. Ar ol gosod y sail perthnasol rhyngddynt mae hi’n gofyn am y dwr yma ac galw’r Iesu yn brophwyd ar ol iddo son am ei phum gwr. Mae’r Iesu yn dweud wrthi mai’r Messeia ydi O, a’r ddynes yn gadael ac yn siarad yn gyhoeddus am eu trafodaeth fel bod lawer o Samariaid yn tyrru ato ac yn gofyn iddo aros gyda hwynt. Mae Ioan yn sgrifennu fod llawer yn credu yn yr Iesu ond tydi o ddim yn dweud os yw’r ddynes yn dod i’r Ffydd gydag Ef. Er, drwyddi hi, mae gwasanaeth Iesu yn ymledu i’r Samariaid fel y bon’t yn dweud mae “Efe yw gwir Achubwr y Byd”. P 42.

Yr eironi yw fod y  ddynes dibwys yma yn cael llawn sylw wrth iddi adrodd beth a ddigwyddodd.

Ar ol i hynny ddigwydd ailsefydlwyd y drefn cymdeithasol wrth i’r Samariaid ddweud “Nid drwyddoch’di ‘rydym yn credu bellach ond clywsom dros ein hunain.” p42.

Beth a ddigwyddodd iddi? A wnaeth y ddynes droi at y ffydd gyda’r Samariaid eraill neu a aeth yn ol i’r anialwch i geisio’r “dwr byw” ar ol ei phrofiad anghyffredin?

Efallai y bod ninnau yr un fath ar adegau, yn gwynebu amgylchiadau anodd ac annisgwyl ac yn achosi ymmyraeth gan eraill.

Efallai bydde Gary Lineker a’r B.B.C. yn cytuno wrth drafod hawl y cyflwynwr pel droed i leisio barn ar fateron amheus a’r angen i’r B.B.C. fod yn ddiduedd, er i lawer un mae hyn  yn achos am rhyddid i fynegi barn. Mae sylwadau Lineker ynglyn a ffoadurion a’r ymatebion llednaith ynglyn a’i sylwadau yn dal i fwydo trafodaeth, er nid bob tro yn briodol i’r pwnc; er engraifft y rhai sydd a ddim bwys am sylwadau Lineker ond yn cwyno am ddiffyg ddarpariaeth teleduol peldroed.

Pwy yw’r pobol rydym wedi cwrdd a nhw yn annisgwyl, yn ein bywydau neu ar y newyddion a pha effaith cawsant arnom a ninnau ar nhwythau? A oedd ffiniau cymdeithasol wedi eu croesi neu ailsefydlu ac i bwy roedd y canlyniad yn anweledig, fatha’r ddynes Samaraidd a effeithiodd ar fywydau gymaint o bobol?

Wrth i daith Y Grawys barhau, a yw’n bosib fod sgyrsiau annisgwyl a phrofiadon “anialwch” wedi cael effaith bell-gyrhaeddol ar ddatblygiad  Deyrnas Nef yma ar y Ddaear?

Gyda fy ngweddion,

Pob Bendith,

Christine,

Gwarcheidwad.

Adlewyrchiad am Ail Ddydd Sul Y Grawys ac uniondeb yn y bywyd cyhoeddus.

“Sut a fedr y pethau yma fod?”
Nicodemus yn efengyl heddiw, Ioan 3:1-17.

“Dwi’n dda iawn yn beth dwi’n wneud. Dwi’n gwneud straeon o ddiddordeb cyhoeddus a dwi’n gwneud penderfyniadau.”
Y gohebydd Isabel Oakshott ar rhoi negeseuon Wattsapp cyfrinachol Matt Hancock i’r Daily Telegraph i’w cyhoeddi.

Mae Efengyl heddiw yn cymeryd lle ar ol y newid o dwr yn win gan yr Arglwydd yn y briodas yn Cana a’r Iesu yn glanhau y deml, pryd wnaeth sawl un gredu yn ei enw drwy weld arwyddion o’r hyn a wnaeth. P23.

Doth Nicodemus, arweinydd yr Iddewon, at Yr Iesu i’w holi ynglyn a hyn, ond yn ystod y nos, sef, o bosib ei fod eisiau i’w ymweliad fod yn gyfrinachol.
Tra’n derbyn fod gweithredion Yr Iesu yn gysylltiedig a weithredion Duw, tydi Nicodemus ddim yn rhoi ei gefnogaeth llwyr i’r achos.
Mae trafodaeth yn cychwyn ynglyn a “genedigaeth o’r Nefoedd”, lle mae’r Iesu yn herio Nicodemus, sy’n ymateb “ Sut fedr y pethau yma fod?” P9

Mae llawer yn digwydd heddiw i achosi i ni ofyn yr un cwestiwn. “Sut fod gymaint o achosion gwledig yn bodoli sy’n achosi ffwndr a dryswch, boed o’n ddiffyg tanwydd, streiciau, prinder bwyd mewn archfarchnadoedd
neu gweinidogion y Llywodraeth yn dweud clwyddau?”
Tra fod Isabel Oakshott yn amddiffyn ei phenderfyniad i gyhoeddi 100,000 o negeseuon cyfrinachol drwy honni eu bod o ddiddordeb cyhoeddus, mae Matt Hancock yn ei chyhuddo o fradychu ei ymddiriaeth, ac ef ei hun mewn perthynas a oedd yn chwalu ymddiriaeth mewn ddau briodas.

Mae’r negeseuon yn llewyrchu goleuni ar arbrofi mewn cartrefi gofal, polisi ar gyfer ysgolion, amharch at swyddogion undeb athrawon ac yn gwawdio’r rhai a oedd yn gorfod talu biliau gwesty yn ystod y pandemig, er fod y negeseuon, cyfartal a thri beibl St. Iago, hefyd yn dangos y pwysau aruthrol ar ysgwyddau gweinidogion ar y pryd.
Polisi’r llywodraeth yn cael ei wneud ar y cyd – sut fedr hyn fod? Ond wedyn sut fedr fod fel arall a Covid yn ein arwain i feusydd diathr?

Mae cwestiwn Nicodemus yn adlewyrchu un Fair yn Leuc 1:3-4 “Sut fedr hyn fod?”
Ateb yr Iesu i Nicodemus yw; “sut dy fod ddim yn deallt y pethau ‘ma a tithe yn weinidog crefydd ymhlith pobol Israel?”

Cafodd hyn oll effaith mawr ar Nicodemus, ac yntau yn ceisio amddiffyn Yr Iesu wrth i’r erlynaeth gynhyddu (7:50, 11:47)  a hefyd yn dod a pherlysiau
i’r beddrod ar ol y croeshoelio. (Ioan 19:39).
Drwy wynebu’r Gwir a gwneud penderfyniadau anodd mae Nicodemus cuddiedig yn dangos dewrder drwy gefnogi’r Iesu yng ngwyneb ei erlyniaeth gan yr awdurdodau crefyddol – a fydd yr un yn wir am ein gwleidyddion wrth i ganlyniadau Covid ymlwybro ‘mlaen?

Wrth i daith Y Grawys barhau, pa bethau yn ein bywyd personol ninnau fydde’n well ganddom gadw’n gyfrinachol ac efallai fydd gennym gwestiynnau anodd i ofyn am ein ymddygiad ninnau yn ystod adegau o brofi?
Sut fedr y pethau ‘ma fod, a beth fedrwn ni wneud, yn gyhoeddus, ynglyn a nhw?

Pob Bendith.
Gyda fyng ngweddion,
Christine, Gwarcheidwad.

Adlewyrchiad am Ddydd Sul cyntaf Y Grawys – Temtasiwn.

“  Yna yr Iesu a arweiniwyd i fyny i’r anialwch gan yr Ysbryd, i’w demtio gan ddiafol. 2 Ac wedi iddo ymprydio ddeugain niwrnod a deugain nos, ar ôl hynny efe a newynodd. O Mathew 4: 1-11. Efengyl heddiw.

“Nid yn unig mae Duw yn creu ffordd yn yr anialwch, ond yr anialwch yw’r ffordd.” Gideon Heugh. yn “Open”, llyfryn Tear Fund ar gyfer Y Grawys.

Mae’r gair Groegaidd am “temtasiwn” hefyd yn golygu prawf, ac efallai y bydde’n hawdd i gredu mae un waith yn unig mae’r Iesu yn goroesi temtasiwn yn yr anialwch wrth iddo ystyried y gweledigaethau a gafodd yn ystod Ei fedyddio.
Hefyd mae hyn yn dylanwadu ar y dyfodol.
Mae’r Iesu yn gwrthod y temtasiwn i droi’r cerrig gwastad, tebyg i pitta o’I gwmpas yn yr anialwch, yn fara, i fwydo Ei hun, ond yn y pen draw bydd yn dysgu ei Ddisgyblion i weddio am eu bara beunyddiol (Matt 6:11) a bwydo miloedd gyda ychydig o dorthau y physgod. (Matt. 14:17-21; 15:33-38).

Yn yr un modd a mae’r diafol yn dweud wrth Yr Iesu i lychio Ei hun oddiar uchelbwynt y deml, gan obeithio i angylion Dduw ei ddal, mae O hefyd yn dioddef gwawd gan Ei fod yn gwrthod achub Ei hun a dod lawr o’r Groes (Matt 27:38-44,46).
Hefyd, mae’n gwrthod cynnig y diafol i
lywodraethu dros deyrnasoedd y Ddaear ond yn son yn amal am Deyrnas y Nef wrth y rhai sy’n fodlon dilyn Ei arwaeniaeth Ef.
Nid yn unig dioddefaint i’w orchfygu yw’r temtasiynnau ond hefyd profion, sy’n Ei baratoi am bopeth a ddaw, yn sail I’w gysylltiadau a’r rhai sy’n llwgu, yn sal, ac mewn angen; gyda’r rhai fel y Pharasiaid a’r Sadusiaid, sydd yn defnyddio eu cysylltiadau grymus nes ymlaen I’w brofi (Matt 16:1, 19:3 etc); neu gyda’r rhai sy’n rhoi ormod o bwyslais ar fesurau materol o lwyddiant, ei ddilynwyr Ei hun yn eu plith (Matt 18:1-5).
Yn sicr, yr anialwch yw’r ffordd.
Yn gyson, mae’r Iesu yn crybwyll achlysuron tebyg o ysgrythur yr Hen Destament.

Mae’r 40 diwrnod yn yr anialwch yn adlewyrchu’r cyfnod a dreuliwyd yno gan Israel ar ol yr Exodus a mae Ei son am fara yn dod o’r adeg hwnnw yn  Deuteronomy 8:3.

Mae’r diafol ei hun yn crybwyll yr ysgrythur yn Salm 91 a temptio’r Iesu i lychio Ei hun oddiar uchafbwynt y deml ond mae’r Iesu yn gwrthod gyda’r ateb o Deuteronomy 6:16 pryd mae Moses yn atgoffa ei bobol am syt roeddynt wedi profi Duw ynglyn a’u sychder yn Massa, hyd yn oed ar ol iddo eu bwydo gyda manna.

Yr un peth sydd ar waith yn y temtasiwn olaf  – yr Iesu yn dibynnu ar yr ysgrythur am atebion i amgylchfeydd tebyg, sef Deuteronomy 6;13.

Fel yn ein siwrne ni, hyd Y Grawys, wrth ystyried be sydd wedi digwydd i ni, byddem yn gweld lle rydym wedi gorchfygu neu wedi plygu i temtasiwn. Be gafodd ei ddysgu ac ydyw wedi ein paratoi am ddigwyddiadau nes ymlaen?

Mi aeth yr Iesu o ddyfroedd yr Iorddonen i sychder yr anialwch, o swn y dorf i ddistawrwydd, o agoriad y Nefoedd i brofi ymosodiadau ysbrydol uffernol ond yr oedd yr Ysgrythur yn allweddol i’r hyn a wynebodd.

Wrth i ni wynebu profiadon tebyg yn ein bywydau heddiw, boed yn prinder bwyd yn yr archfarchnadoedd, grym dros rhannau o’r Byd, neu addoli grymmoedd eraill – mae’n debyg fod “cyfeillion y teulu” satanaidd yn recriwtio ar hyn o bryd!

Yn union fel a grybwyllodd yr Iesu yr Ysgrythur; yn ystod temtasiynau corfforol neu ysbrydol heddiw, pa ysgrythuron a byddem ni yn eu defnyddio?

Gyda fy ngweddion,
Pob Bendith,
Christine, Gwarcheidwad.

Adlewyrchiad ar y Ddydd Sul cyn Y Grawys a’r Gweddnewidiad.

“ Chwe diwrnod yn ddiweddarach, fe gymerodd Iesu Pedr, Iago ac Ioan, ei frawd, a’u harwain i ben mynydd uchel ar eu pennau eu hunain; ac yno yn eu gŵydd fe newidiwyd ei wedd, ei wyneb yn disgleirio fel yr haul, a’i ddillad yn wyn fel y goleuni.”
O Matthew 17:1-9k

“Rwy’n eich gweld – yn ystyried os mae dim ond tryloywder breuddwyd yw Duw”
O ‘Rumours of Light’ gan Gideon Heugh.

Mae Efengyl heddiw, ynglyn a’r Gweddnewidiad, yn digwydd ar ol i Seimon Pedr sylweddoli mae’r Iesu yw’r Messeia, yr hyn sydd yn groes i
fyrddallter yn ei ddealltwriaeth fod hyn yn mynd i arwain at Ei farwolaeth cyn Ei Atgyfodiad.
Ar yr un llaw mae Seimon Pedr yn gwneud naid mawr mewn ffydd, cyn gael ei alw yn Satan gan Yr Iesu am fod yn faen tramgwydd.
Diolch i Dduw am nam ddisgyblion, y sydd, ta waeth, yn cael eu galw a’u defnyddio gan Dduw er Ei wasanaeth, pobol cyffredin y medrwn uniaethu gydant.

Dim ond Pedr, Iago a Ioan sy’n dilyn Yr Iesu i fynny’r mynydd – tydi hyn ddim yn brofiad ar gyfer pob disgybl, oherwydd nid yw pob peth gan Dduw yn addas ar gyfer pob credadwr.
Mae Mathew yn daethom fod yr Iesu wedi gweddnewid o’u blaenau, ei wyneb yn tywynnu fel yr Haul a’i ddillad yn bur wyn. Gydag Ef mae Moses ac Eleias, yn cynrychioli y Gyfraith a’r Prophwydion ond, wrth i hyn ddigwydd, mae Pedr, tra bod yn ymarferol, eisiau nodi’r achlysur. Wrth iddo son am godi tri pabell dyma gwmwl gloyw’n taflu’i gysgod drostyn nhw, a llais yn dod o’r cwmwl: “Dyma fy Mab, fy anwylyd, sydd wrth fy modd; gwrandewch arno.”

Mae’n wir, amdan Pedr ac efallai amdanom ni, ein bod yn rhuthro drwy materon pwysig yn lle eu llawn profi – efallai hefyd fod yna adegau lle dylem wrando fwy a siarad llai.
Does dim yn cael ei ddeud am ymateb Iago a Ioan ond, wrth i’r goleuni rhyfeddol dywynnu, maen’t yn syrthio i’r llawr mewn ofn.
Mae’r Iesu yn dod atynt ac yn dweud wrthynt i beidio ac ofni, yn eu cyffwrdd yn gefnogol – yn ymateb i’w gofynnion nhwythau ac nid Ef ei Hun.
Wedyn mae’n eu gorchymun i beidio a son am hyn eto, ac mae’r pedwar ohonynt yn dychwelyd o’r mynydd, Yr Iesu yn gwella plentyn gydag epilepsi.
Mae’r profiad godidog yma yn arwain at wasanaethu y cyhoedd, mae llewyrch a’r Groes yn cymysgu, fel mae anffurfiad a thrawsnewidiad.
Efallai, wrth i ni sefyll ar drothwy Y Grawys, y dylem ninnau ystyried dylanwad y gyfraith a phrophwydion yn ein bywydau a’n cymunedau, ar adeg lle mae awdurdod o dan fygythiad o sawl cyfeiriad.
Yr wythnos yma, mae heddlu Sir Gaerhirfryn wedi cyfeirio eu hunain at ymchwiliad i’w trefniadau mewn achos Nicola Bulley, ac mae argyfwng yn yr Eglwys ynglyn a phriodasau unrhyw.
Mae gymaint dan her ac yn bryderus ond, yng nghanol y Trawsnewidiad mae’r Iesu yn sefyll, yn calonogi a chefnogi y rhai a fydd, yn y pen draw, yn ffoi rhagddo yn ystod Ei arest ond a fydd yn amlwg yn lledaenu’r Efengyl ar ol ei atgyfodiad.
A felly y mae i ninnau, boed yn ystod adegau “ar ben mynydd” yn ein bywydau neu “i lawr yn y dyfnderoedd”, mae’r Trawsnewidiad yn ein atgoffa i wrando am lais Yr Iesu ac i helpu’r rhai rydym yn cwrdd, fel a wnaeth Ef.
Mae adeg Y Grawys yn gyfle i ni edrych ar yr anialwch yn ein bywydau ac i edrych allan am ogoniant Duw a’i gyffwrdd mewn gweddi i ddangos i ni sut mae goleuni a gobaith yn trechu ofn – os yr ydym yn gadael iddynt.

Gyda fyng ngweddion;
Pob Bendith,

Christine,
Gwarcheidwad.

 Adlewyrchiad Dydd Sul y Creawd.

 “Dyna pam rydw i’n dweud wrthych chi am beidio â phryderu ynglyn a beth wnewch chi ei fwyta neu’i yfed, neu beth a wisgwch amdanoch“ Yr Iesu, Mathew 6:25

 “Rydym byth yn melltithio’r aer pryd mae o’n gynnes, na’r ffrwyth pan mae’n blasu mor dda…

 Rydym yn bendithio pethau hyd yn oed yn ein poendod”.

 O ‘An African elegy’ gan Ben Okri.

 Mae eironi yn narlleniad heddiw wrth ystyried y difrod ofnadwy achosid gan ddaeargrynfeydd yn Nhwrci a Syria, lle laddwyd o leia 28,000 gyda miloedd eraill wedi eu hanafu ac yn ddigartref.

 Mae cymorth wedi cyrraedd yn araf iawn mewn rhai llefydd oherwydd diffyg trafnidiaeth i lefydd diarffordd a hefyd y sefyllfa gwleidyddol, ond hefyd gwelir goroesiad rhyfeddol.

 Beth bynnag, mae 113 o warantiau arestio wedi eu gyrru yn erbyn y rhai a fethodd sicrhau cudymffurfio a rheolau diogelwch ac mae cyfnod hir o ansicrwydd yn wynebu y rhai sydd wedi colli teulu, cartref a chymuned.

Mi fydde argymell pobol i beidio a phryderu o dan yr amgylchiadau hyn yn seinio’n wag ond mae’r Iesu yn cyfeirio at ffordd o fyw mae O’n amlinellu yn y rhan yma o’r Bregeth ar y Mynydd.

Efallai fod Ei eiriau yn mynd yn groes i’r duedd o brynu a hawlio mwy na sydd angen, dan dylanwad hysbysebion ac ati, ar adeg pryd mae Brexit, Covid19, yr economi a’r rhyfel yn Iwcrain yn achosi pryder ac ofn.

Fel awgrymodd Ben Okri, yr her yw  darganfod bendith yn hyn oll.

Ni fydd pabell yn gwneud am gartref, ond yn y tymor byr, yn yr un modd a mae banciau bwyd a cheginau cymunedol efallai yn galluogi i’r rhieni yn y D.U. ddarparu bwyd ar gyfer eu plant tra fod costau byw yn dal i godi.

Mae’n ein atgoffa hefyd ein bod yn byw mewn cymuned a fod angen gofalu am eraill yn ogystal a ni’n hunain. Nid yn unig mater o garu’n cymydog ond o ddarparu yr hyn mae ein cymdogion eu angen a dangos gwerthau Teyrnas Duw drwy ein ymddygiad dyddiol.

Rhoid hyn o flaen gwerthoedd materol

sy’n hybu gweledigaeth uwch ar gyfer ein stiwardaeth o’r creawd o dan ein gofal ac, fel mae’r Iesu yn dweud “Na phryderwch am yfory, mae drygioni heddiw yn ddigon”.

Mae Sul y Creawd yn achlysur da i ni ystyried y pethau ‘ma, wrth baratoi ar gyfer Y Grawys ar ddiwedd y mis.

Yn yr un modd a mae’r Iesu yn cyfeirio at adar yr awyr a lilis y caeau, mae’r Lili Wen Fach, canhwyllau Natur, mewn ffordd distaw ond eglur yn dod a gobaith o welliannau yn y Gwanwyn.

Roedd cyfeilles wedi siomi nad oedd y Lili Wen Fach wedi blodeuo, fel arfer, ar dir yr eglwys, ond o fewn wythnos, a cyfnod o haul – dyna lle’r oeddynt, yn llawn blodau!

Mewn man cysgodol roedd angen fwy o amser a mae gofyn i bob un ohonom fod yn ffyddiog y bydd yr hyn rydym wedi plannu’n ymarferol ac yn ysbrydol yn blodeuo pryd fydd yr amser yn iawn.

Feder hyn alluogi Gobaith i orchfygu Pryder fel bod Ymddiried yn blaenoriaethu ar Ofn, a ninnau felly yn medru dathlu anrheg heddiw, beth bynnag mae’n ei gynnwys.

Gyda fy’Ngweddion, Pob Bendith,

Christine, Gwarcheidwad.