Pentecost yw’r 50’ed ddiwrnod ar ol Y Pasg, adeg pan ddoth yr Ysbryd Glan at y disgyblion cyntaf a phan lefarodd Pedr wrth y dorf a cafodd ei atynnu yno i weld be yr oedd yn digwydd.
Mae’r digwyddiad, yn Actau, yn cyferbynnu’n fawr gyda’r digwyddiad yn efengyl Ioan pryd ddoth Yr Iesu at Ei ddisgyblion ofnus ar ddiwrnod yr Atgyfodiad ac anadlu arnynt gan ddweud “Derbyniwch yr Ysbryd Glan”. Mae’r Iesu hefyd yn rhoi iddynt y medr i faddau pechawd, cam mawr ymlaen i’W ddilynnwyr ffaeledig, rhain a wnaeth yn aml camddeallt, gwadu a’I wrthod Ef.
Fel cyferbyniad, yn lle anadl yr Ysbryd Glan, mae swn gwynt mawr gwyllt i’w glywed yn Actau, mor swnllyd ei fod yn llenwi’r ty lle mae’r disgyblion.
Tafodau, fel taen’t ar dan, sy’n cyflwyno’r Ysbryd Glan ar y disgyblion, sy’n dechrau siarad iaith wahanol a ddeallid gan y dorf o amryw genedl sy wedi ymgynull y tu allan, a wedi syfrdanu eu bon’t i gyd yn deallt yr hyn a ddywedwyd.
Mae’r effaith ar y disgyblion yn uniongyrchol – maen’t yn gadael eu lloches ac mae adroddiad Pedr i’r dorfa yn tystiolaethu sef “bydd pawb sy’n credu yn enw’r Arglwydd yn cael ei achub.”
Cychwynwyd gwaith yr eglwys!
Treuliwyd dim ond pedair bennod ar ddyfodiad yr Ysbryd Glan yn efengyl Ioan, gyda gweddill pennod dau ynglyn ac adroddiad Pedr.
Does dim amser rwan i ystyried beth a ddigwyddodd ac, yn hytrach na’r disgyblion sy wedi drysu, angrhedadol a wedi syfrdanu , y dorf sydd yn ymdrechu i ddeallt, gyda rhai yn honni fod y disgyblion wedi meddwi.
Golygai rhodd yr Ysbryd Glan fod y disgyblion bellach yn dystion, fel a ddywedodd yr Iesu.
Deallent faint o faddeuant cawsant a rwan mae ganddynt y grym i faddau i eraill – mae adroddiad Pedr yn anog ei wrandawyr i edifarhau a mae Ioan yn deuthym fod sawl gwyrth ac arwyddion yn digwydd, gyda pobol yn rhannu eu eiddo a bwyd wrth i ffordd newydd o fyw gychwyn.
A felly mae i ninnau, canys, gyda neu heb Gristnogaeth, mae ganddom ni nerth. Y grym i wneud gwahaniaeth i’n bywydau ein hunain ac i fywydau eraill. Grym i faddau yn lle beio. Grym i ddarganfod tir cyffredin yn lle gwahaniaeth.
Neu ddim, fel y gwelid gyda’r stryffaglu am rym sy’n digwydd ar “Good Morning” yr ITV.
A oedd gan Felangell, fel dynes o’i hoes, rym, neu beidio? Rhoddwyd statws iddi drwy cael ei geni i deulu cyfoethog, a gwelid meddwl penderfynnol ganddi wrth ymadael a’i theulu, dewis ffordd arall o fyw, ac ar ei phen ei hun, meddylfryd sef achosi newid yn lle ysu i bethau fod yn wahanol.
Yn sicr, dangosodd Melangell y grym meddal, sy’n cael ei grybwyll yng nghylchoedd gwleidyddol heddiw, wrth iddi wynebu’r tywysog Brochwel mewn sefyllfa a allasai fod wedi gwaethygu a mae’r ddau yn atynu’r ore oddiwrth eu gilydd wrth i’r dyffryn ddod yn fan o seintwar, gwellhad a chroeso gan i Brochwel rhoi’r darn yma o’r dyffryn i adeiladu eglwys, ac, wrth i chwiorydd ymuno a hi, cychwynwyd gymuned, gyda hithe’n abades.
Grym mewn wahanol ffurf, yn gwneud gwahaniaeth i fywydau adeg hynny ac heddiw – grym cariad, grym y Pentecost a grym anadl Bywyd ei hun.
Diolchwn i Dduw am yr Ysbryd Glan, rhodd cariad, a’r nerth i wneud gwahaniaeth er da yn ein cenhedlaeth, fel a wnaeth Melangell a Brochwel yn eu adeg hwynt.
Gyda fy ngweddion,
Pob Bendith,
Christine,
Gwarcheidwad.