Adlewyrchiad am y Pumed Ddydd Sul ar ol y Drindod – Sul y Mor.


“28 Deuwch ataf fi bawb a’r y sydd yn flinderog ac yn llwythog, a mi a esmwythâf arnoch.”
Yr Iesu yn Matthew 11:16-19, 25-30. 
 
‘Sunset and evening star and one clear call for me! And may there be no moaning of the bar when I put out to sea.’
O bennill Tennyson ‘Crossing the Bar’.

 Heddiw yw Dydd Sul y Mor ac efallai fod yn rhyfedd ei ddathlu mewn man glodirol fel hyn ond rydym ni ‘gyd yn fwy ddibynnol ar forwyr nac rydym efallai yn sylweddoli.
Mae dros 1.5 miliwn o forwyr yn trosglwyddo dros 90% o nwyddau’r byd ac, pan ystyriwyd oll lyngesau a gwasanaethau achub y byd, mae’n bywydau ac economi yn cael eu dylanwadu gan bobl sy’n ddiarth i ni a rhai rydym yn anymwybodol ohonynt.
Medryd eu bywydau, a bywydau eu teuluoedd, cael eu amharu gan amgylchiadau gwaith, gan eu bon’t yn amal i ffwrdd o gartref am gyfnodau hir – weithiau i fynnu at flwyddyn – a medrid hyn achosi teimladau o unigrwydd ac iselder ysbryd.
Roedd gwyliau ar y tir fawr ddim yn bosib weithiau yn ystod y pandemig ac mae cynnydd mewn costau yn medru golygu llai o weithwyr ac oriau hir, sy’n medru arwain at orflinder. Mae’n bwysig cofio amdanynt, yn enwedig pryd mae darpariaeth wedi bod yn brin yn ddiweddar, gyda canlyniadau i gynhyrchwyr a morwyr yn ogystal a defnyddwyr.
Heddiw mae llongau trafnidiol a llyngesol enfawr yn medru ar anturiaethau mawr, ond yn adeg yr Iesu, roedd y cychod bach pren a adnabyddai yn ddigonol ar gyfer cyfryngu’r Efengyl i bob rhan o’r byd.
 Mae yna sawl chwedl am yr Iesu’n defnyddio cychod ac ymateb i’r tywydd yn ogystal a teithiau efengylaidd Pawl yn ol Actau’r Apostolion. Nid oeddynt bob tro’n esmwyth ac mae straeon o’r Beibl o anghytfodau, fel rhwng Pawl a Barnabas, a wahanasant a mynd a’r Efengyl i wahanol gyfeiriadau.
Na fyddent ar y mor cyhud a morwyr heddiw, felly mae gwaith caplaniaid yn y porthladdoedd yn arbennig o bwysig o safbwynt diogelwch y dyddie yma.
Un engraifft o hyn yw llong yn cyrraedd gogledd ddwyrain Lloegr yn ddiweddar gyda 22 o longwyr ar y bwrdd.
 Pryd fynychodd tim o’r elusen Catholig, Stella Maris, roedd yn amlwg fod ehywbeth o’i le ac ma’u adroddiad yn datgelu:
“Daeth yn amlwg fod y criw o dan bwysau corfforol a meddyliol aruthrol.
Datgelodd un ei fod dim ond yn cael ddwy awr o gwsg pob nos ar y daith i Teesport o’r Unol Daliaethau, oherwydd ei fod wedi gorweithio ac o dan bwyse meddwl aruthrol.
Roedd hefyd yn poeni fod y criw yn methu a gweithredu’n ddiogel oherwydd gorflinder.”
Stella Maris Sul y Mor.
 Cyfeiriodd Stella Maris y sefyllfa at yr awdurdodau priodol a mi ddwynwyd y llong iddynt o dan ddeddf morwrol, er mwyn i’r morwyr cael ysbaid ar y tir mawr a mi cafodd 11 fynd adref i’w gwledydd.
Darparwyd y gorphwys a soniodd yr Iesu amdano, yn Ei enw gan y tim a oedd yn archwilio diogelwch y morwyr ac mae’n atgofiad fod costau ein nwydda yn llawer uwch nad ydym yn sylweddoli ar adegau.
Yn yr eglwys lle wnes i wasanaethu ar ol cael fy ordeinio roedd yno Reithor a oedd yn perthynog ar gwch cul a mi wnaeth drefnu ei gyplu a ysgraff a mynd a’r grwp ieuenctid i ffwrdd ar y camlesi am wythnos.
 Yr unig berson i syrthio i’r dwr gydol yr amser oedd finne ac, wrth i fy’nhraed gyffwrdd a’r mwd llithrig ar y gwaelod a’r dyfroedd budr godi at fy ngwddw, roeddwn yn ymwybodol fy mod yn ddibynnol ar rhywun arall i fy’n achub, gan nad oedd yn bosib i mi wneud hynny fy hun.
Beth oedd yn ddryslud oedd chwerthin dibendraw fyng nghymdogion ar y cwch ond cefais fy’nhynnu ar y bwrdd ac roedd popeth yn iawn erbyn y diwedd.
Pryd symudais blwyf nes ymlaen, adroddodd y Rheithor wrth yr Esgob fod fy amser fel Curad wedi bod yn llwyddiannus ymhob agwedd ond am forwriaeth!
Roedd yn tynnu coes ond mae pob eglwys hefyd yn long, arch achub lle mae mordaith ddiogel ar gael drwy stormydd bywyd, gyda’r Iesu ar y llyw a’r addolwyr fel criw – neu, weithiau, mutinwyr!

 Eistedd y gynilleidfa yn y corff (saesneg “nave” o’r Lladin “navis” am gwch) a mi fydd adegau i bob un ohonom lle byddem yn ddibynnol ar eraill i’n achub neu am ofal – a nhwythau arnom ninnau.
Efallai fod geiriau Tennyson am y daith sy’n ein disgwyl ni gyd, wrth fentro o’r bywyd yma at y nesa yn addas ar ddydd Sul y Mor;
“For tho’ from out our bourne of Time and Place the flood may bear me far,
I hope to see my Pilot face to face when I have crost the bar.” Crossing the Bar.

Gyda fy ngweddion,
Pob Bendith,
Christine,
Gweinidog Gwarcheidwad.