Santes o’r 7fed ganrif oedd Sant Melangell. Yn ôl traddodiad daeth yma o Iwerddon a byw fel meudwyes yn y cwm. Un diwrnod roedd Brochwel, Tywysog Powys, yn hela ac yn erlid ysgyfarnog a aeth i lochesu dan glogyn Melangell. Ffodd bytheiaid y Tywysog, a chafodd ei dewrder a’i sancteiddrwydd effaith arno. Rhoddodd y cwm iddi fel noddfa, a daeth Melangell yn Abades i gymuned grefyddol fechan. Ar ôl ei marwolaeth parhaodd y cof amdani i gael ei anrhydeddu, ac mae Pennant Melangell wedi bod yn gyrchfan i bererinion ers canrifoedd lawer. Melangell yw nawddsant ysgyfarnogod o hyd.