Canolfan y Santes Melangell

Canolfan y Santes Melangell

Mae Canolfan y Santes Melangell yn gweithredu mewn cyd-destun Cristnogol gan gefnogi pobl y mae arnynt angen cymorth drwy fyfyrio, gwrando a gofal bugeiliol, a chan gynnig:

· Amser a lle, i unigolion a grwpiau, i siarad am anawsterau mewn ffordd adeiladol, i ddysgu a thyfu mewn dealltwriaeth ac i ddelio a heriau bywyd yn fwy effeithiol.

· Lle i fyfyrio sy’n ymhell o bwysau a gorchwylion bywyd beunyddiol.

· Cyfleusterau ar gyfer addysg, hyfforddiant, encilion a diwrnodiau tawel.

 

Lleolir Canolfan y Santes Melangell yn amgylchedd prydferth pendraw Dyffryn Tanat wrth droed Mynyddoedd y Berwyn. Cymer ei henw a’i hysbrydoliaeth o Eglwys a Chreirfa y Santes Melangell o’r 12fed ganrif.

 

Sefydlwyd y Ganolfan yn 1998 fel y Ganolfan Cymorth Canser a Gweinidogaeth i Gleifion. Ar y dechrau, canolbwyntiai’r sefydliad ar gefnogi dioddefwyr canser a’u teuluoedd. Hefyd, ymwelai pobl â’r ganolfan yn ymofyn cymorth ar gyfer gwahanol fathau o faterion emosiynol ac iechyd meddwl.

 

Yn 2003, penderfynwyd canolbwyntio gweithgareddau’r Ganolfan y tu hwnt i’r rhai sy’n dioddef o ganser a newidiwyd ei henw i Ganolfan y Santes Melangell, gyda chenadwri ehangach i gefnogi oedolion gydag anghenion emosiynol, ysbrydol ac iechyd meddwl. Ar hyn o bryd, rhoddir pwyslais ar iachâd ac ysbrydolrwydd, ac ’rydym yn cynnig lle croesawus a lletygar i bobl o bob ffydd neu ddim ffydd.

 

Mae’r Ganolfan yn cefnogi pobl o bob ffydd neu ddim ffydd.

 

Mae Canolfan y Santes Melangell yn dibynnu ar haelioni unigolion, eglwysi a chyrff i fedru dyfalbarhau â’i gwaith. Pe hoffech gefnogi ein gwaith, cwech wybod sut i roi rhodd yma.

 

Lleolir Canolfan y Santes Melangell ar ochr draw y lôn fach sydd o flaen yr eglwys.

 

Gyda golygfeydd godidog o’r mynyddoedd a’r dyffryn, mae’n llecyn hyfryd i oedi a chanfod lle i fyfyrio. Gallwch dreulio peth amser yn eistedd yn ein gardd; neu yn defnyddio ein hystafell ddydd, y ‘Beudy Bach’; neu yn aros sawl noson heddychlon yng ‘Nghwt y Bugail’.

Cysylltwch â ni am fwy o fanylion neu cliciwch yma i archebu arhosiad.