Y Parchedig Christine Browne – Ceidwad-offeiriad Eglwys a Chanolfan y Santes Melangell.
Ordeiniwyd Chris yn ddiacon yn 1990 ar ôl gyrfa addysgol yn Swydd Efrog a Llundain, ac yn ddiweddarach daeth yn un o’r menywod cyntaf i gael ei hordeinio’n offeiriad yn Eglwys Loegr. Yn ystod ei gweinidogaeth, gwasanaethodd Chris mewn cymunedau cyn-lofaol yn Swydd Nottingham ac wedi hynny yng Ngorllewin Canolbarth Lloegr lle, am naw mlynedd, roedd ganddi rôl ddeublyg fel offeiriad plwyf a Chenhades Ddiwydiannol gyda Chenhadaeth Ddiwydiannol Drefol yr Ardal Ddu. Mae estyn at eraill wedi bod yn flaenoriaeth iddi erioed ac fe’i hwyluswyd yn hyn gan ei gwaith fel caplan gyda Rolls Royce Aerospace, Cymdeithas y Môr-filwyr Brenhinol, y Gwasanaeth Carchardai, a chanolfan manwerthu Merry Hill. Yna, penodwyd Chris i dri phlwyf glan môr yn ne orllewin Cymry pan symudodd i’r Eglwys yng Nghymru, lle bu hefyd yn gaplan i’r Gorfforaeth leol.
A hithau wedi ei magu yng nghefn gwald Swydd Derby, lle mae ei theulu yn dal i fyw, a chyda tad o Gymro, mae Chris bob amser wedi cadw ei chysylltiadau â Chymru a bywyd gwledig. Gobeithia Chris y bydd ei phriod brofiadau o ysbrydolrwydd, iachâd, pererindod a gwaith caplaniaeth yn ei galluogi i wasanaethu’r amrywiaeth eang o bobl y mae hi’n debygol o gwrdd fel Ceidwad yr Eglwys ym Mennant Melangell:
“Rwy’n falch iawn o gael cyfle i ddilyn camre yr holl bobl sydd wedi datblygu gweledigaeth ac allgyrch yr eglwys yma dros y blynyddoedd ers i Felangell ddod i’r dyffryn. Boed i’w hesiampl hi o weddi, tosturi a’i hymateb ymarferol hwyluso beth bynnag a fo o’n blaenau wrth i bobl barhau i ddod i’r lle hwn yn ymofyn arweiniad, iachâd a gobaith.” Gallwch gysylltu â Chris am gefnogaeth fugeiliol neu arweiniad ysbrydol.