Eglwys a Chreirfa y Santes Melangell

Mae Eglwys y Santes Melangell yn un o’r eglwysi bach mwyaf hyfryd ym Mhrydain ac un o’r rhai mwyaf anghysbell. Mae’r Eglwys yn adeilad cofrestredig Gradd 1 ac mae eglwys Gristnogol wedi bod yma ers dros 1200 o flynyddoedd. Lleolir yr eglwys mewn llecyn eithriadol o hardd ym mherfeddion Mynyddoedd y Berwyn. Saif mewn mynwent gron, a fu gynt yn safle Oes yr Efydd, gyda choed yw hynafol o amgylch sy’n rhyw ddwy fil o flynyddoedd oed. Mae rhannau o’r adeilad yn dyddio o’r 12ed ganrif er i’r rhannau mwyaf diweddar, y talcen crwn a ailadeiladwyd ar ei sylfeini gwreiddiol, gael eu cwblhau yn 1990. Yr argraff a geir o hyd yw un o eglwys Normanaidd seml sydd wedi cael ei charu a’i phrydferthu dros y blynyddoedd.

Y Lleoliad

Lleolir Eglwys y Santes Melangell ym Mhennant Melangell. Amgylchynir yr Eglwys gan Fynyddoedd y Berwyn a saif nid nepell o ben draw dysgl ddofn y cwm, gyda’r rhaeadr a phen y cwm tu hwnt.

Yn wreiddiol, ’roedd plwyf canoloesol Pennant Melangell yn enfawr, gan gwmpasu’r rhan helaeth o Ddyffryn Tanat i’r Gogledd a’r ardal tua Llanddwyn a Llanrhaeadr-ym-Mochnant yn y De. Bryd hynny, ’roedd y pentref yn fwy ei faint ac ’roedd dwy dafarn yno. Heddiw, dim ond try thŷ sydd ar ôl ger yr eglwys a dyrnaid arall wedi’u gwasgaru o gwmpas y cwm

Mynwent yr Eglwys

Mae’r fynwent bron yn grwn a chaiff ei defnyddio ers yr hen oesoedd. Canfuwyd beddau o’r Oes Efydd gyda gweddillion wedi’u carbon-ddyddio i tua 100 a 1500 CC.

Mae pedair ywen yma a archwiliwyd gan y Sefydliad Cadwraeth (The Conservation Foundation), a chadarnhawyd eu bod tua 2000 o flynyddoedd oed. I’r Gogledd o’r fynwent, plannwyd ywen arall i goffáu adnewyddu’r eglwys yn 1878.

Tybir bod porth y fynwent yn dyddio o ddiwedd yr 16eg ganrif neu o gychwyn y 17eg ganrif. Canfuwyd ysgrifen bŵl ar y mur mewnol de-ddwyreiniol ac fe’i hatgynhyrchwyd ar lechen sydd wedi’i gosod uwchben porth y fynwent. Dyma’r hyn ddywed:

Tuedda’n bur at Weddi – dy galon

Gwylia wrth addoli,

A Duw unig daioni

Yma’n dda anrhyedda di

Ceir cerrig beddi yn dyddio o 1680 ar gyfer llawer o deuluoedd y plwyf; gan gynnwys teuluoedd pwysig fel Dafisiaid Trefechain; Tomosiaid a Dafisiaid Llechweddygarth; teuluoedd Robertsiaid a Ffowcsiaid Cwmllech; Evansiaid Plas Du a Jonsiaid Blaen y Cwm.

Claddwyd y delynores Nansi Richards yma yn 1979 yn agos at ei hathro Tom Lloyd. Fe’i ganwyd hi yn y Cwm ac yma bu farw.

Mae gennym hefyd nifer fechan o feddi rhyfel yn y fynwent. Crëwyd is-ddalen gyda manylion y beddi a bywgraffiadau’r sawl sydd wedi’u claddu yno, ac fe’i ceir found yma.

Tu Allan yr Eglwys

Mae hanes cymhleth i adeilad yr eglwys (ceir mwy o fanylion yn ein harweinlyfr), gyda chyfnodau o ehangu, ailadeiladu ac adnewyddu dros y canrifoedd. Credir i’r eglwys garreg bresennol gael ei chodi yn lle adeilad pren cynharach.

Yr Aps

Mae hanes hynod o ddiddorol i’r talcen crwn (aps) a geir yn rhan ddwyreiniol yr eglwys. Tan 1989, adeilad petryal safai yma a ddefnyddid fel ysgoldy, wedyn fel festri, er mai fel ‘Cell y bedd’ y’i hadnabyddid. Aeth yr adeilad yn anniogel a phan benderfynwyd ei ailadeiladu, daethpwyd o hyd i’w sylfeini crwm gwreiddiol. Gwnaed y penderfyniad dadleuol i ailadeiladu yn ôl y siâp gwreiddiol ond gan ddefnyddio’r cerrig oedd yno’n barod.

Corff yr Eglwys

Y nodweddion hynaf sy’n weddill o’r adeilad o’r unfed ganrif ar ddeg yw bwlch y drws a’r ffenestr bigfain yn y wal ogleddol gyda ffrâm o feini nadd.

Mae’r bedyddfaen yn dyddio o’r ddeuddegfed ganrif a chredir iddo gael ei wneud ar gyfer yr adeilad gwreiddiol.

Mae llawer o’r nodweddion eraill yn dyddio o atgyweirio helaeth 1876-77.

I’r dwyrain, mae sgrîn y grog sy’n dyddio o’r bymthegfed ganrif yn rhychwantu’r eglwys gyfan. Yn ystod y Diwygiad Protestannaidd fe’i symudwyd ac fe gollwyd ffigurau Crist, y Forwyn Fair a Sant Ioan. Yn ystod adnewyddiadau 1989, fe’i dychwelwyd i’r fan y credir y safai yn wreiddiol ac ychwanegwyd oriel newydd.

Mae’r sgrîn dderw sy’n croesi’r eglwys islaw sgrîn y grog yn dyddio o’r bymthegfed ganrif; mae pob un o’r paneli wedi ei gerfio o un darn o dderw. Ceir yma ffrisiau cerfiedig o ddail derw, dail gwinwydd, rhosod, llaw, deryn chwedlonol a ‘dyn gwyrdd’ yn ogystal â phortread o stori Melangell.

Y Greirfa

Credir i Greirfa y Santes Melangell gael ei hadeiladu tua 1160-70 i gadw esgyrn y Santes. Yn 1561, gorchmynnwyd i’r greirfa gael ei dymchwel. Defnyddiwyd rhai o gerrig y greirfa i adeiladu porth y fynwent a rhannau o wal corff yr eglwys (ailddarganfuwyd rhain yn 1894). Adferwyd rhai o’r cerrig ac ailgodwyd y greirfa yn 1989 yn ei safle presennol yng nghangell yr eglwys, gan ddefnyddio concrid yn lle’r cerrig coll i osgoi unrhyw amwysedd â’r cerrig gwreiddiol.

Creiriau’r Santes Melangell

Yng Nghell y Bedd, ceir maen wedi ei godi i ddynodi’r fan lle y credir i’r Santes gael ei chladdu. Yn ystod cloddio yn 1958, canfuwyd ysgerbwd dan y llawr (a mwy o ddarnau yn 1989). Archwiliwyd cist blwm oedd yn dal yr esgyrn gan lawfeddyg orthopedig a daeth i’r casgliad eu bod yn perthyn i ferch tua 5 troedfedd o daldra. Dodwyd rhain yn y greirfa a ailadeiladwyd.

Nodweddion diddorol ac unigryw eraill

Uwchben y sgrîn dderw yn y gangell mae panel reredos mawr o’r ddeunawfed ganrif wedi’i baentio ar blastr. Arddengys y deg gorchymyn, Credo’r Apostolion a Gweddi’r Arglwydd yn Gymraeg. Darganfuwyd hwn wedi’i orchuddio â chopi oes Fictoria o bren (bellach i’w gael yn y tŵr). Mae’r ffigurau a bortreadir arno yn unigryw yng Nghymru.

Treuliodd y delweddau gorweddol cerfiedig sydd o boptu i’r gangell flynyddoedd lawer yn y fynwent cyn eu dychwelyd i’r eglwys 1876-77, ac o’r herwydd maent wedi’u treulio yn arw dan ddylanwad y tywydd. Mae’r ffigur benywaidd o’r 14eg ganrif (i’r De) yn portreadu’r Santes Melangell gyda dau ysgyfarnog o boptu iddi. Mae’r cerflun gwrywaidd yn dyddio o 1315 ac mae’n portreadu Madog ab Iorwerth. Adnabyddir Iorwerth fel Iorwerth Drwyndwn, mab hynaf Owain Gwynedd. Yn ôl un ffynhonnell, cafodd ei ladd mewn brwydr ger Pennant Melangell yn yr ymgiprys am goron Gwynedd ar ôl marwolaeth ei dad (efallai yn 1174).

Mae yna lawer o ddarganfyddiadau hynod a difyr eraill yn yr eglwys. Mae rhain yn cynnwys rhannau o ddyluniadau stensil y credir eu bod yn ganoloesol eu tarddiad; seren ganhwyllau brin ac anarferol o 1733; cerfiadau carreg gan Meical Watts o Felangell a’r ysgyfarnog; coflechau a cherfluniau coffa; ac ‘asen y cawr’ – asen morfil o darddiad anhysbys ond s’yn destun cryn ddyfalu.

Bu Eglwys a Chreirfa’r Santes Melangell yn eglwys i bererinion erioed, a daw ymwelwyr yma o Brydain benbaladr a ledled y byd. Nid oes unrhyw waddolion na nawdd ariannol gan yr Eglwys na’r Wladwriaeth. Gobeithiwn y dymunwch gyfrannu tuag at gynnal yr adeilad hardd hwn ac at y weinidogaeth yma.

Mae Pennant Melangell yn lle tu hwnt i eiriau ac ymhell o ruthr bywyd yr 21ain ganrif; man lle mae Duw yn siarad yn y distawrwydd a lle mae pawb yn cael cyfle i brofi ymdeimlad o’r Dwyfol. Mae’r eglwys adnewyddedig yn agored yn feunyddiol ar gyfer gweddi ac addoliad. Rydym yn croesawu pob pererin ac ymwelydd ac edrychwn ymlaen at gwrdd â chi ar eich pererindod a gobeithiwn y byddwch yn gadael ag ymdeimlad parhaol o dangnefedd Crist.