The Bishop’s Pastoral Letter, 15th April, 2020 Llythyr Bugeiliol yr Esgob, Ebrill 15fed, 2020
“They left the tomb quickly, with fear and great joy.” (Matthew 28.8)
“…dyma’r gwragedd yn rhedeg ar frys o’r bedd i ddweud wrth y disgyblion. Roedden nhw wedi dychryn, ac eto’n teimlo rhyw wefr.” (Mathew 28.8)
It is clear from the Gospel stories that the Resurrection of Jesus took the disciples by surprise. The stories in the four Gospels read slightly differently, but a common thread is the chaotic and shambolic response of the disciples: confusion, hope, faith, disbelief, and here in Matthew’s Gospel, “Fear and great joy.”
Mae hi’n glir o’r hanesion yn yr Efengylau bod Atgyfodiad Iesu wedi dal y disgyblion yn ddisymwth. Mae’r straeon yn y pedair Efengyl ychydig yn wahanol, ond un dolen-gyswllt rhyngddyn nhw ydy ymateb dryslyd ac anniben y disgyblion: anobaith, gobaith, ffydd, anghrediniaeth, ac yma yn Efengyl Mathew, “dychryn… a gwefr.”
Key women disciples went to the tomb early on Easter morning intending to finish the embalming process and expecting to have to find a way to tackle the heaviness of the stone sealing the tomb; they came away, having experienced the emptiness of the tomb and the presence of strange angelic figures who communicated the message of resurrection. This filled them with hope, but also bewilderment, not sure what they believed.
Aeth rhai o’r gwragedd allweddol at y bedd yn gynnar ar fore’r Pasg, gan fwriadu gorffen y broses o bêr-eneinio a disgwyl gorfod canfod ffordd i fynd i’r afael â’r dasg sylweddol o symud y garreg oedd yn selio’r bedd; fodd bynnag, dychwelyd wnaethon nhw wedi profi golygfa’r bedd gwag a phresenoldeb angylaidd fu’n cyfleu neges yr atgyfodiad. Fe blannodd hynny obaith yn eu calonnau, ond hefyd penbleth llwyr, gan eu gadael heb wybod yn iawn beth i’w gredu.
This mixture of emotions is very similar to what many of us are experiencing at the moment. There are the beauty of the Spring, happy moments with family in the household or over social media, but also the fear of infection, the sad news of people close to us suffering, which create in us a mixture of emotion. Are we to be happy, sad, frightened or joyful?
Mae’r cymysgedd hwn o emosiynau’n debyg iawn i’r hyn mae llawer ohonon ni’n ei brofi ar hyn o bryd. Dyma ni’n cael profi hyfrydwch y Gwanwyn, cyfnodau gwerthfawr yng nghwmni’r teulu, un ai ar yr aelwyd neu trwy’r cyfryngau cymdeithasol, ond hefyd ofn yr haint, y newyddion dyddiol torcalonnus am anwyliaid a chymaint o rai eraill yn dioddef, gan greu pair o deimladau cymysg. Ydyn ni i fod yn hapus, trist, ofnus neu’n llawen?
The central message of the visit to the tomb is that God takes the heaviness of the stone sealing the tomb and dislodges it with his action of raising Jesus from the dead. He wishes to take our heaviness away and imbue in us instead the joy of new life and hope. It is not so much that God will magically remove the challenges, but calls us to see them in a new perspective, in which the power and promise of the Resurrection tells us that in God, there is a victory to be won.
Neges ganolog yr ymweliad â’r bedd ydy mai Duw sy’n cymryd pwysau trwm y garreg sy’n selio’r bedd, gan ei symud trwy ei weithred yn codi Iesu o farw’n fyw. Ei ddymuniad ydy cymryd yr hyn sy’n pwyso’n drwm arnon ni a’n llenwi ni â llawenydd bywyd a gobaith newydd. Nid bod Duw trwy ryw hud a lledrith am symud yr heriau, ond yn hytrach yn ein galw i’w ystyried trwy bersbectif newydd, lle mae grym ac addewid yr Atgyfodiad yn datgan bod buddugoliaeth, yn Nuw, i’w gael.
The question is whether we will allow God to work the changes needed in our hearts, and orient us towards joy. Now that we have celebrated a virtual Easter, there comes the reminder that the Resurrection is not only about what happened then, but how Jesus seeks to bring new life into our situations now. We may well be embarking on the coming weeks with a sense of fear – the chance of infection coming our way is still high – but God wants to encourage us to go forward in joy also, knowing that Jesus has won the victory over the perils of evil, suffering and death to become a source of life, of strength and of hope.
Y cwestiwn ydy p’un ai a wnawn ni ganiatáu i Dduw weithio’r newidiadau sydd eu hangen ar ein calonnau, a throi ein gogwydd tuag at lawenydd. Gan ein bod bellach wedi dathlu Pasg rhithiol, cawn ein hatgoffa nad hanes yr hyn ddigwyddodd bryd hynny yn unig ydy’r Atgyfodiad, ond sut mae Iesu’n ceisio dod â bywyd newydd i’n sefyllfaoedd heddiw. Mae’n ddigon posib ein bod yn wynebu’r wythnosau sydd i ddod gydag ymdeimlad o ofn – mae’r posib inni ddal yr haint yn dal yn real iawn – ond mae Duw am ein hannog i fynd ymlaen mewn llawenydd hefyd, gan wybod fod Iesu wedi ennill y fuddugoliaeth dros beryglon y drwg, dioddefaint a marwolaeth i ddod yn ffynhonnell bywyd, nerth a gobaith.
I am grateful to all my clergy who have been finding new ways to bring help and succour to you, and inventive ways to invite you into worship and faith at this time. Most of what I have seen has been of a very high standard, and makes me think that we are learning a new way of being virtual Church which will impact on us in a permanently different way of engaging with faith and worship in the future. As we move into the fifty days of Easter, let us resolve to discover how God’s message of new life in Resurrection can assist us to discover new things in life and the journey of faith which we can carry into the future – not just ways of worship, but life-changing decisions about our discipleship which will bring us closer to the Risen Lord and open our hearts more fully to the grace and strength and faith which he longs to impart to us.
Rydw i’n ddiolchgar i bob un o’m clerigwyr sydd wedi bod yn canfod ffyrdd newydd o ddod â chymorth a chysur ichi, a ffyrdd dyfeisgar i’ch gwadd i addoli ac at ffydd yn yr amser hwn. Mae’r rhan fwyaf o’r hyn dwi wedi’i weld o safon eithriadol, gan wneud imi ystyried ein bod yn dysgu dull newydd o fod yn Eglwys rithiol a fydd yn gadael ei ôl mewn modd gwahanol a pharhaol o ymgysylltu â ffydd ac addoliad yn y dyfodol. Wrth inni symud i mewn i hanner can niwrnod y Pasg, dewch inni benderfynu darganfod sut y gall neges Duw am fywyd newydd trwy’r Atgyfodiad ein helpu ni i ganfod pethau newydd mewn bywyd a thaith y ffydd fydd yn gwmni inni i’r dyfodol – nid yn unig ffyrdd o addoli, ond penderfyniadau trawsnewidiol am ein siwrne fel disgyblion a ddaw â ni’n agosach at yr Arglwydd yr Atgyfodiad ac agor ein calonnau fwyfwy i’r gras a’r nerth a’r ffydd y mae’n dyheu i rannu â ni.
Dear friends, keep well and keep safe at this time, and may the Risen Lord sustain you in unexpected ways, to lift the heaviness of fear with the light of his love,
Annwyl ffrindiau, cadwch yn iach a chadwch yn ddiogel yn ystod y cyfnod hwn, a boed i’r Arglwydd Atgyfodedig eich cynnal mewn ffyrdd annisgwyl, i godi llethdod ofn trwy oleuni ei gariad,
Bishop of St Asaph Esgob Llanelwy