Neither Jew nor Greek
A Pastoral Letter to the Teulu Asaph from Bishop Gregory Thursday, 18th June, 2020
Ddim yn Iddew nac yn Roegwr
Llythyr Bugeiliol at Deulu Asaph oddi wrth Esgob Gregory
Thursday, 18th June, 2020
Dydd Iau 18 Mehefin 2009
I was supposed to be writing to you about the Trinity today, but another subject has become so pressing in our national life that it cannot be avoided. It may seem peculiar that the death in custody of a detainee in the United States should spark huge demonstrations and even violent disorder on the streets of Great Britain, but this is what we have witnessed in the last two weeks. A death in custody should always be treated with the utmost seriousness. In 2015, the latest statistic I found, there were 14 deaths in police custody in the United Kingdom, while, more recently, in the year to March 2019, there were 286 deaths in prisons in the UK, many of which were suicide. These are disturbing statistics, because every death is someone’s child, husband, parent, daughter or relative. We hardly hear about them. Yet, in the case of George Floyd, protests in the UK have been widespread, and we have seen violence on our streets.
Roeddwn i fod i ysgrifennu atoch ynghylch y Drindod heddiw, ond mae mater arall wedi codi cymaint ar ei ben ym mywyd ein cenedl fel nad oes modd ei osgoi. Efallai ei bod yn ymddangos yn rhyfedd fod marwolaeth dyn wrth gael ei arestio yn yr Unol Daleithiau wedi esgor ar brotestiadau mor enfawr a hyd yn oed ar anhrefn treisgar ar strydoedd Prydain Fawr, ond dyma rydyn ni wedi’i weld yn ystod y pythefnos diwethaf. Dylai marwolaeth yn y ddalfa gael ei drin, bob amser, fel rhywbeth hollol ddifrifol. Yn 2015, yn ôl yr ystadegau diweddaraf y gallwn i eu cael, bu farw 14 o bobl yn nalfa’r Heddlu yn y Deyrnas Unedig, ac, yn fwy diweddar, yn y flwyddyn hyd at Fawrth 2019, bu farw 286 o bobl mewn carchardai yn y DU, llawer o hunanladdiad. Mae’r rhain yn ystadegau poenus, mae pob un a fu farw yn blentyn, gŵr, rhiant, merch neu berthynas i rywun. Ond prin ein bod ni’n clywed amdanyn nhw. Eto, yn achos George Floyd, bu protestiadau lu yn y DU ac rydyn ni wedi gweld trais ar ein strydoedd.
Someone might be tempted to ask “Why all this fuss about an American situation, appalling though it is?” “Why do we have to say Black Lives Matter, when surely all lives matter?” It would take more than a pastoral letter to address this subject properly, but I suppose this one death, swiftly followed by a second actually, the death of Rayshard Brooks, causes worldwide reaction. It is partly because their ends were caught on video, and live footage seems to indicate that these deaths arose out of trivial offences, and were completely avoidable, were it not for police brutality – and colour.
Efallai bod rhai’n cael eu temtio i ofyn “Pam yr holl stŵr ynghylch y sefyllfa yn America, er mor ofnadwy y mae hi yno?” “Pam bod rhaid i ni ddweud bod Bywydau Du’n Cyfrif, pan mae pob bywyd, siŵr iawn, yn cyfrif?” Byddai’n cymryd mwy na llythyr bugeiliol i drafod hyn yn iawn, ond mae’n debyg fod yr un farwolaeth hon, yn cael ei dilyn yn fuan wedyn gan ail un, marwolaeth Rayshard Brooks, wedi creu adwaith fyd-eang. Mae hyn yn rhannol oherwydd fod eu diwedd wedi’i ddal ar fideo, ac mae’r lluniau i’w gweld yn dangos mai o droseddau pitw y cododd eu marwolaethau ac y gellid fod wedi’i hosgoi’n hawdd oni bai am gieidd-dra’r heddlu – a lliw.
One of the truths about life is that oppression can be almost invisible to the more privileged party. Men can be completely oblivious to sexism, and straight people to homophobia. Sadly, it is also true that the white middle-classes can wonder why racism is an issue. I can tell you now that if it wasn’t an issue, it would not have brought thousands out on the streets. Law abiding citizens from the better backgrounds might see our police as the upholders of law and order, but those who are black or coloured are much more likely to be subject to stop and search. I write as an extremely privileged white university-educated male, favoured to be admitted to the bastions of ancient and privileged halls of learning. For me, the police are pillars of society, and I will always voice my support for them, and deplore any violence against them. I am not so sure that those who are disaffected in our society can see things in the same way. This is not to accuse the police of anything, I am their supporter, but it is to acknowledge that such trust is not readily forthcoming across all sections of society.
Un o wirioneddau bywyd yw y gall gorthrwm fod bron yn anweledig i’r breintiedig. Gall dynion fod yn gyfangwbl anystyriol o rywiaeth a phobl syth o homoffobia. Yn drist, mae hefyd yn wir y gall fod yn syndod i’r dosbarth canol gwyn pam fod hiliaeth yn broblem. Gallaf ddweud wrthych nawr, pe na byddai’n broblem, na fyddai wedi dod â miloedd allan ar y strydoedd. Efallai fod dinasyddion da sy’n cadw’r gyfraith ac o gefndiroedd gwell yn gallu gweld ein heddlu fel ceidwaid cyfraith a threfn, ond mae’r pobl ddu neu liw yn llawer tebycach o gael eu stopio a’u chwilio. Rwy’n ysgrifennu hyn fel dyn gwyn hynod freintiedig, yn ddigon lwcus i fod ymysg y breintiedig rai a gafodd addysg yn rhai o gadarnleoedd dysg hynaf a gorau’r wlad. I mi, mae’r heddlu’n bileri cymdeithas, ac fe fyddaf yn eu cefnogi bob amser ac yn gwaredu unrhyw drais yn eu herbyn. Dydw i ddim mor siŵr y byddai’r rhai mwy anniddig yn ein cymdeithas yn gweld pethau’n union yr un fath. Nid cyhuddo’r heddlu yw hyn, rwy’n un o’u cefnogwyr, ond cydnabod nad yw’r fath ymddiriedaeth i’w gael ym mhob carfan o gymdeithas.
The ancient world was one which was highly stratified. Roman patricians were at the top of the pile, the plebs were the poor, but even poor Roman citizens counted for more than foreigners – the barbarians, who couldn’t speak Latin or Greek properly, and mocked for saying “Ba, ba, bar …” Even they counted for more than the slaves. Jesus and Christianity literally overturned all that with the radical claim that everyone was God’s child, and that “There is neither Jew nor Greek, there is neither slave nor free, there is no male and female, for you are all one in Christ Jesus” (Galatians 3.28). Now in context, this is a claim about our new identity in Christ, once we are baptised and reborn, but Christianity shook classical civilization to its roots because it said that anyone could be the equal of Caesar.
Roedd yr hen fyd yn un o haenau pendant. Roedd byddigion Rhufain ar ben y domen, y werin oedd y tlodion ond roedd hyd yn oed tlodion Rhufain yn cyfrif mwy na thramorwyr – y barbariad na allai siarad Lladin na Groeg yn iawn ac yn cael eu gwatwar am ddweud “Ba, ba, bar …” Ond roedden nhw, hyd yn oed, yn cyfrif mwy na’r caethion. Trodd Crist hyn i gyd a’i ben i lawr, yn llythrennol, gyda’r honiad radical fod pawb yn blant i Duw ac “Nid oes rhagor rhwng Iddew a Groegwr, rhwng caeth a rhydd, rhwng gwryw a benyw, oherwydd un person ydych chi oll yng Nghrist Iesu” (Galatiaid 3.28). Yn y cyd-destun hwnnw, honiad yw hyn ynghylch ein hadnabyddiaeth newydd yng Nghrist, ar ôl cael ein bedyddio a’n hail eni, ond ysgydwodd Cristnogaeth seiliau’r gwareiddiad clasurol i’w seiliau drwy ddweud y gallai unrhyw un fod yn gyfartal â Caesar.
In just this last week, I have been accused of meddling and of grandstanding, because I’ve voiced again my personal dislike of statues to one particular local lad made good. Let me not start discussing that here! However, as a bishop, as a Christian, I believe that the followers of Jesus are bound to do what Jesus and the prophets themselves did, and that is to speak up always on the side of the least privileged. All lives matter, yes, and for each one Christ died, but we have to say Black Lives Matter because black and coloured communities have come to believe that their lives don’t matter as much.
Ddim ond yr wythnos ddiwethaf, roeddwn yn cael fy nghyhuddo o ymyrryd ac o ymddygiad ‘welwch chi fi’ am ddweud nad ydw i’n rhy hoff o gerfluniau o un bachgen lleol a gododd yn y byd. Ond, byddai’n well i mi beidio â thrafod hynny yma! Ond, fel esgob, fel Cristion, rwy’n credu fod yn rhaid i ddilynwyr Iesu wneud yr hyn yr oedd yr Iesu ei hunan a’r proffwydi’n ei wneud, ac mai hynny, bob amser, yw codi llais o blaid y lleiaf breintiedig. Mae pob bywyd yn cyfrif a bu Crist farw dros bob un, ond mae’n rhaid i ni ddweud fod Bywydau Du’n Cyfrif oherwydd daeth cymunedau du a lliw i gredu nad yw eu bywydau nhw’n cyfrif gymaint.
Today our faith compels Christians to stand with the outsider. “If you do it for the least of these my sisters and brothers” said Jesus, “you do it as for me.” (Matthew 25.40) Rowan Williams once said that Christians should be very careful about drawing boundaries, because they will generally find Jesus waving at them from the other side of the boundary.
Heddiw, mae ein ffydd yn gorfodi Cristnogion i sefyll gyda phobl y tu allan. “Yn gymaint ag ichwi ei wneud i un o’r rhai lleiaf o’r rhain, fy mrodyr” meddai Iesu, “i mi y gwnaethoch”. Dywedodd Rowan Williams unwaith y dylai Cristnogion fod yn ofalus iawn wrth godi ffiniau oherwydd, fel arfer, bydd Iesu i’w weld yn codi ei law arnyn nhw o ochr arall y ffin.