Deacons in the Church of God Diaconiaid yn Eglwys Dduw
A Pastoral Letter for the Teulu Asaph, from Bishop Gregory
9th July, 2020
Llythyr Bugeiliol at Deulu Asaph oddi wrth Esgob Gregory
9 Gorffennaf, 2020
Last Saturday, perhaps one of the strangest events in 900 hundred years happened in the Cathedral. In one sense, the cathedral had seen it all before; it was an ordination, joyous, prayerful, focussed on the action of the Holy Spirit. On another level, there could be no physical congregation – everyone present had a necessary part to play in the proceedings – and at one point in the service, everyone present had to don visors, in order to ensure personal protection, as we necessarily had to come within two metres of each other for the laying on of hands. It was both faintly ridiculous and deadly serious at the same time.
Y Sadwrn diwethaf oedd un o’r achlysuron rhyfeddaf mewn 900 mlynedd yn y Gadeirlan. Mewn un ffordd, roedd y gadeirlan wedi gweld y cyfan o’r blaen, ordeiniad, llawen, llawn gweddi, yn canolbwyntio ar waith yr Ysbryd Glân. Ond mewn ffordd arall, doedd dim modd cael presenoldeb cynulleidfa – roedd gan bawb a oedd yn bresennol ran hanfodol i’w chwarae yn y gweithgareddau – ac ar un adeg yn y gwasanaeth roedd yn rhaid i bawb oedd yno wisgo fisorau, amddiffyniad personol, gan fod yn rhaid i ni ddod yn nes na dwy fetr at ein gilydd wrth arddodi dwylo. Roedd braidd yn ddoniol ond yn hollol ddifrifol yr un pryd.
After discussions with the Welsh government, it had been decided that diaconal ordinations could proceed, on the grounds that it was a necessary part of their beginning of ministry, but sadly, our priest candidates will have to wait until the autumn, with the hope of easier times to come.
Ar ôl trafod gyda Llywodraeth Cymru, penderfynwyd y gellid symud ymlaen i ordeinio diaconiaid ar sail fod hynny’n rhan hanfodol o gychwyn gweinidogaeth ond, yn anffodus, bydd yn rhaid i’n hymgeiswyr am yr offeiriadaeth aros tan yr hydref, gan obeithio fod amser gwell o’n blaenau.
So, how did it feel in the cathedral last Saturday? First, surprisingly holy. Our cathedral is a “thin place”, where the barrier between heaven and earth is thin, having been a place of prayer, word and sacrament for nearly a thousand years. The gathering of people in earnest desire of seeing the Lord at work generated a sense of excitement and expectation, a sense that the Spirit was moving in that place.
Felly, sut deimlad oedd yna yn y gadeirlan y Sadwrn diwethaf? Yn gyntaf, rhyfeddol o sanctaidd. Mae ein cadeirlan yn ‘lle tenau’, mae’r ffin yno rhwng nefoedd a daear yn denau, ar ôl bod yn lle o weddi, y gair a’r sagrafennau am bron i fil o flynyddoedd. Roedd gweld pobl wedi dod ynghyd, yn deisyfu o ddifrif gweld yr Arglwydd wrth ei waith, yn codi cynnwrf a disgwyliadau, y teimlad bod yr Ysbryd yn symud yn y lle hwnnw.
Second, it was humbling. Our nine diaconal candidates are so varied: young, old, male, female, married, single, Catholic, and Evangelical. They each bring a story, of different life experiences, of different journeys of faith. There are ways in which for each one the spiritual journey to the Cathedral that day has lasted years, and been challenging, perplexing, inspiring, and transformative in turn. It was humbling as well to know that all nine feel that not only is God calling them to ministry, but that they are ready to invest their ministry in the teulu Asaph. There is something about our Church life that has caught their imagination and makes them keen and enthusiastic to share in our life and witness.
Yn ail, roedd yno ostyngeiddrwydd. Mae ein naw ymgeiswyr am y ddiaconiaeth mor amrywiol: yn ifanc, hen, dynion, merched, priod, Catholig ac Efengylaidd. Mae gan bob un ei stori, gwahanol brofiadau bywyd, gwahanol deithiau ffydd. Mewn gwahanol ffyrdd, roedd taith ysbrydol pob un i’r Eglwys y diwrnod hwnnw wedi parhau am flynyddoedd ac, yn ei thro, wedi bod yn heriol, yn astrus, yn ysbrydoli ac yn drawsffurfiol. Roedd hefyd ostyngeiddrwydd mewn gwybod bod y naw yn teimlo, nid yn unig bod Duw’n eu galw i’r weinidogaeth, ond eu bod yn barod i fuddsoddi eu gweinidogaeth yn nheulu Asaph. Mae yna rywbeth ynghylch bywyd ein Heglwys sydd wedi cydio yn eu dychymyg ac sy’n eu gwneud yn awyddus ac yn frwdfrydig dros rannu yn ein bywyd a’n tystiolaeth.
Third, the cathedral was alive with hope. These nine new ministers are deacons, servants of Jesus Christ, and called to be ambassadors of his love and of the Gospel to the world. God will use their wisdom and insights to bring them alongside people whom they can help. They will bring new life and new perspectives into the life of the teulu Asaph. We are changed by their vocation, and God will do new things through them; things that none of us, themselves included, can yet realise or anticipate.
Yn drydydd, roedd y gadeirlan yn llawn gobaith. Mae’r naw gweinidog newydd yn ddiaconiaid, gweision Iesu Grist, ac yn cael eu galw i fod yn llysgenhadon i’w gariad ac i’w Efengyl yn y byd. Bydd Duw’n defnyddio eu doethineb a’u treiddgarwch i fod gyda phobl y gallan nhw eu helpu. Fe fyddan nhw’n dod â bywyd newydd a safbwyntiau newydd i fywyd teulu Asaph. Rydyn ni’n cael ein newid gan eu galwad, a bydd Duw’n gwneud pethau newydd trwyddyn nhw, pethau nad oes yr un ohonom ni, na hwythau chwaith, hyd yma, yn gallu eu sylweddoli na’u rhagweld.
“O magnify the Lord with me, let us praise his name together.” (Psalm 34.3) I want to thank God for all that he is doing in our midst. These nine are tokens, symbolic of the work that God is doing in our common life, and building our future. I am excited by the potential exhibited in the dedication offered in these lives. I hope that that excitement is shared by all across the diocese. These nine are tokens, and representative of what God is doing in a myriad other ways in our diocese, affirming those already ordained, enabling lay ministries as people offer their own gifting and talents to the work of building God’s Kingdom.
“Mawrygwch yr Arglwydd gyda mi, a dyrchafwn ei enw gyda’n gilydd. (Salmau 34.3). Rwyf eisiau diolch i Dduw am bopeth yn mae’n ei wneud yn ein plith. Arwydd yw’r naw hyn, symbolau o’r gwaith y mae Duw’n ei wneud yn ein bywydau bob dydd, ac wrth adeiladu ein dyfodol. Rwy’n cael fy nghyffroi gan y potensial sy’n cael ei dangos yn yr ymroddiad sy’n cael ei gynnig yn y bywydau hyn. Rwy’n gobeithio y bydd pawb ar draws yr esgobaeth yn rhannu’r cyffro. Arwydd yw’r naw hyn, mae’n dangos yr hyn y mae Duw’n ei wneud mewn myrdd o ffyrdd eraill yn ein hesgobaeth, yn cadarnhau’r rhai sydd eisoes wedi’u hordeinio ac yn galluogi gweinidogaethau lleyg wrth i bobl gynnig eu rhoddion a’u talentau i gyflawni’r gwaith o adeiladu teyrnas Dduw.
At a time when the Church is greatly challenged about its future and the viability of our present structures, I see last week’s ordinations as a down-payment of hope that God isn’t finished with us yet: indeed, that he has great plans for us.
Ar adeg pan mae’r Eglwys yn wynebu heriau mawr ynghylch ei dyfodol a hyfywdra’i strwythurau presennol, rwy’n gweld yr ordeinio’r wythnos ddiwethaf fel blaendal o’r gobaith nad yw Duw wedi gorffen gyda ni eto: yn wir, fod ganddo gynlluniau mawr ar ein cyfer.