Adlewyrchiadau Gwarcheidwad Eglwys Pennant Melangell.
Adlewyrchiad Ddydd Sul.
Adlewyrchiad; Brodyr a Chwiorydd.
“Rydych yn bryderus a’ch sylw yn cael ei ddwyn gan sawl peth”.
Yr Iesu, yn Efengyl heddiw Luwc 10:38-42, NRSV.
“Beth bynnag y gost, rwyf angen mynegi fy hanes cywir.” Hussein Abdi Kohin, aka Syr Mo Farah.
Mae llawer o son yn ddiweddar am fagwriaeth Syr Mo Farah, yr athletwr trac Prydeinig fwyaf llwyddiannus yn hanes y Mabolgampau Olympaidd diweddar.
Y gwir yw, ar ol cael ei gipio a’i ddwyn i’r Deyrnas Unedig pan yn naw oed, ei enw cywir yw Hussein Abdi Kahin.
Gweithio fel gwas, mor ifanc, ac yn gorfod gofalu am blant pobol eraill, tra’n ddiarth i’w deulu ei hun, rhedeg oedd ei fodd o gael rhyddhad a darganfod hunaniaeth cywir tra y rhedodd, i ddianc rhag yr hyn oedd yn digwydd iddo.
Am rhai blynyddoedd dywedodd Hussein glwyddau rhag ofn y canlyniadau ond rwan, ar ol iddo ddatgelu yr hyn a ddigwyddodd iddo tra’n blentyn, mae’r Swyddfa Gatre wedi cyhoeddi na fydde’n cael ei erlyn oherwydd plentyn yr oedd pan ddaeth i’r wlad yn anghyfreithlon.
Mae ymholiad wedi cychwyn a mae’n debyg fod rhwng 10,000 a 100,000 o bobol yn cael eu trin fel caethweision yn y Deyrnas Unedig. Un stori o lawer yw stori Hussein.
Mae diwedd y gan yma yn fwy boddhaol na’r rhan fwyaf ac mae’n debyg fydd Syr Mo yn cael cadw ei enw adnabyddus.
Dwynwyd yr enw oddiwrth fachgen arall a cafodd Hussein ei herwgipio gydag enw newydd, anghywir. Mae llunddogfen yn dangos y gwir Mohamed yn siarad ar y ffon gyda “Syr Mo” ac yn ei alw’n frawd yn hytrach na ffraeo. Be fyddai wedi digwydd iddo petai ef, yn lle Syr Mo, wedi dod i’r Deyrnas Unedig, a be fydde wedi digwydd i Hussein petai e ddim wedi dod?
Bydd byth ateb i’r cwestiynnau hyn ond mae gan y Beibl ystori am ddau frawd go iawn yn cael eu cyfnewid.
Esau oedd yr hynaf ond mi newidiodd ei hawliau cyntaf-anedig gyda’i efaill Jacob am fowlen o stiw tra’n llewygu ar ol bod allan yn hela.
Nes ymlaen, defnyddiodd Jacob groenau geifr er mwyn twyllo ei dad, oedd bron yn ddall, i feddwl mae ei frawd blewog,Esau, yr oedd, a felly cafodd freintiau a hawliau y cyntaf-anedig.
Mae Efengyl heddiw yn ymwneud a dwy chwaer, yr un yn cwyno am y llall tra fod yr Iesu yn mynychu. Mae Martha yn gofyn i’r Iesu orfodi Fair i helpu gyda negeseuon o gwmpas y ty, paratoi pryd mae’n debyg. Ateb yr Iesu yw fod Mair wedi gwneud penderfyniad doeth drwy dewis i wrando arno tra fod yno – mae hi’n eistedd wrth ei draed, fel fydde disgybl yn gwrando ar rabbi. Mae O’n cynghori Martha ei bod wedi colli ei sylw drwy bryderu am yr holl bethau sydd angen eu gwneud a’i bod yn anghroesawys drwy ofyn i’r Iesu i ymyrryd yn y sefyllfa. “Arglwydd, does dim bwys gennat Ti?” gofynna Martha, hyd yn oed yn cyhuddo’r Iesu ei Hun!
Tydi Leuc ddim yn crybwyll be a ddigwyddodd wedyn, ond mae agwedd y ddwy chwaer yn bwysig. Mae lletygarwch da yn cynnwys croeso i’r ymwelwr a rhoi sylw addas iddo fel a wnaeth Fair. Ar y llaw arall tydi’r croeso ddim yn gyflawn heb paratoi pryd iddo, a dyma oedd safbwynt Martha.
Mae gwrando a gwneud, ill dau, yn bwysig – derbyn Duw, a gwasanaethu i’r werin. Mae hon yn stori cartrefol am densiynnau mewn teulu a fydd sawl un yn medru unieuthu gyda, heddiw.
Gyda costau byw yn cynyddu, rhyfel yn yr Iwcrain, argyfwng yn yr NHS, a coronafeirws, mae sawl rheswm i rhywyn or-bryderu a cholli gafael ar ei sylw.
Roedd Martha yn bryderus am y gwaith oedd angen gwneud, ond anghofiodd mae ar gyfer yr Iesu roedd yn ei wneud. Hefyd mae’n debyg fod hi wedi synnu gan ymateb Mair, yn eistedd wrth draed yr Iesu – rol roedd fel arfer yn cael ei gymryd gan ddyn. Roedd gan y ddwy ddewis i wneud ynglyn a’u ymateb i bresenoldeb yr Iesu.
Doedd gan Hussein, fel arall, ddim dewis ynglyn a’r sefyllfa cartrefol a oedd yn rhan ohono, ond mae wedi llwyddiannu yn ei faes a wedi dewis cadw yr enw Mo Farar sydd rwan yn rhan sylfaenol o’i hanes a’i hunaniaeth.
Esau a Jacob, Martha a Mair, Hussein a Mo – efallai fod eu straeon, uniaethau ac ymatebion yn debyg i rhai ninnau hefyd?
Gyda fyng ngweddion; pob bendith.
Christine, Gwarcheidwad.