Adlewyrchiad Ddydd Sul.
Adlewyrchiad ar Weddi’r Arglwydd.
“Rho i ni heddiw ein bara beunyddiol”
Yr Iesu yn Luwc 11:1-13, NRSV.
“Heddiw mae yna oleufa ar y Mor Du, goleufa gobaith”.
Y Cadfridog Antonio Guterres, Ysgrifennydd i’r UN, ynglyn a’r penderfyniad i ryddhau grawn o’r Iwcrain.
Mae yna ddau gyfansoddiad o Weddi’r Arglwydd yn Y Beibl, yr hwn yn Luwc a ffurf hirach yn Matthew 6:9-13. Maen’t yn wahanol y tydi ‘run yn cynnwys y docsoleg “Canys Ti yw’r Deyrnas, y Nerth a’r Gogoniant, byth bythoedd Amen.” – atodwyd hyn nes ymlaen.
Yng nghyfansoddiad Luwc, yr efengyl am heddiw, mae’r Iesu wedi bod yn gweddio ar ei ben Ei hun ac mae’r disgyblion yn gweld rhywbeth yn Ei weddi sy’n Ei fywiogi ac y maen’t eisiau iddyn nhw eu hunain, felly maen’t yn gofyn “Arglwydd, dysga i ni sut i weddio.”
Tydi’r Iesu ddim yn son am baratoad, agwedd nac osgo ond mae’n dysgu iddynt weddi sydd wedi dod yn gyfarwydd i Gristnogion ym mhob man.
Tydi Duw nid yn unig yn cael ei gyfarch fel Tad ond yn y ffurf fwy personol – Abba – nid datganiad ffurfiol o gred yn Nuw yw hyn, ond perthynas gydag Ef.
Mae Ei enw sanctaidd i’w sancteiddio, sy’n golygu ymateb gan y ddynolryw i’w barchu yn y modd yma, a’i deyrnas i ddod, yn yr ystyr awydd amdano a hefyd fod wedi dechrau eisioes.
Ond nid duw o bellter yw hwn, on Duw sy’n darparu bara beunyddiol yn yr un modd ag yr oedd yr Iddewon angen bwyd yn yr anialwch, canus nad oedd yn bosib cadw manna rhag iddo ddirywio. Gofynnir i Dduw faddau am ein dyledion ac i ninnau hefyd ddangos maddeuant at y rhai sydd wedi ein pechu.
Yn olaf gofynnwyd am amddiffyn rhag profedigaeth neu prawf a fydde’n ormod i ni a wedyn mae’r Iesu yn mynd ati i ddysgu am ddyfalbarhad.
Yn y dyddie hyny roedd disgwyl cynnig llety a chroeso i ymwelwyr hyd yn oed taent yn cyrraedd yn yr hwyr, drwy geisio osgoi gwres y dydd, ac yn ddirybudd. Gofynnir i gymdogion godi i baratoi bara ar gyfer yr ymwelwyr ac hyn weithiau yn golygu taro drws nes iddynt ymateb.
Mae’r Iesu yn cymharu hyn i ddyfalbarad wrth weddio, nid ein bod yn boendod i Dduw, ond mae gweddio yn gofyn cymhelliant ac ymddiried fod ei fendithion yn mynd i arddangos, ond yn amser Duw nid yn angenrheidiol yn amser Dyn.
“Gofyn a chei ateb, chwilia a mi wnei ddarganfod, cura’r drws a mi wneith agor” meddai’r Iesu – mae hyn yn y dyfodol yn ogystal a’r presennol.
Ar hyn o bryd medrwn obeithio, drwy ddylanwad y Cenhedloedd Unedig fod storfa enfawr o wenith yn yr Iwcrain yn gallu cael ei ryddhau ar ol deufis o drafodaethau.
Mae ffrwydriadau tanfor wedi eu gosod o dan donau’r Mor Du a thydi’r cynlluniau nid heb eu peryglon ond gobeithiwn, gyda pris gwenith wedi darostwng yn barod, y ceiff y rhai sy’n llwgu cael eu bwydo.
Os ydym angen bara beunyddiol fy’n rhaid i ninnau hefyd gyfrannu -a fydd y gobaith bregus yn cael ei gyflawni?
Mae fersiwn byrrach Luwc o Weddi’r Arglwydd yn dysgu i’w ddefnyddwyr ofyn am fara, maddeuant ac amddiffyn rhag profedigaeth, tra’n datgan fod hyn yn digwydd yn Ei Enw ac yn Ei Deyrnas.
Mae’r Iesu yn dysgu Ei ddisgyblion, rwan ac adeg hynny, i ymofyn, chwilio a churo’r drws nes iddo agor- pa bynnag hwyr yr awr.
Fel a ddywedodd Malcolm Guite yn ei soned gyntaf ar weddi’r Arglwydd;
“And so I come and ask you how to pray, Seeking a distant supplicant’s petition, Only to find you give your words away, As though I stood with you in your position, As though your Father were my Father too, As though I found his ‘welcome home’ in you.”
Gyda fyng ngweddion, pob bendith.
Christine, Gwarcheidwad.