“ Yna yr Iesu a arweiniwyd i fyny i’r anialwch gan yr Ysbryd, i’w demtio gan ddiafol. 2 Ac wedi iddo ymprydio ddeugain niwrnod a deugain nos, ar ôl hynny efe a newynodd. O Mathew 4: 1-11. Efengyl heddiw.
“Nid yn unig mae Duw yn creu ffordd yn yr anialwch, ond yr anialwch yw’r ffordd.” Gideon Heugh. yn “Open”, llyfryn Tear Fund ar gyfer Y Grawys.
Mae’r gair Groegaidd am “temtasiwn” hefyd yn golygu prawf, ac efallai y bydde’n hawdd i gredu mae un waith yn unig mae’r Iesu yn goroesi temtasiwn yn yr anialwch wrth iddo ystyried y gweledigaethau a gafodd yn ystod Ei fedyddio.
Hefyd mae hyn yn dylanwadu ar y dyfodol.
Mae’r Iesu yn gwrthod y temtasiwn i droi’r cerrig gwastad, tebyg i pitta o’I gwmpas yn yr anialwch, yn fara, i fwydo Ei hun, ond yn y pen draw bydd yn dysgu ei Ddisgyblion i weddio am eu bara beunyddiol (Matt 6:11) a bwydo miloedd gyda ychydig o dorthau y physgod. (Matt. 14:17-21; 15:33-38).
Yn yr un modd a mae’r diafol yn dweud wrth Yr Iesu i lychio Ei hun oddiar uchelbwynt y deml, gan obeithio i angylion Dduw ei ddal, mae O hefyd yn dioddef gwawd gan Ei fod yn gwrthod achub Ei hun a dod lawr o’r Groes (Matt 27:38-44,46).
Hefyd, mae’n gwrthod cynnig y diafol i
lywodraethu dros deyrnasoedd y Ddaear ond yn son yn amal am Deyrnas y Nef wrth y rhai sy’n fodlon dilyn Ei arwaeniaeth Ef.
Nid yn unig dioddefaint i’w orchfygu yw’r temtasiynnau ond hefyd profion, sy’n Ei baratoi am bopeth a ddaw, yn sail I’w gysylltiadau a’r rhai sy’n llwgu, yn sal, ac mewn angen; gyda’r rhai fel y Pharasiaid a’r Sadusiaid, sydd yn defnyddio eu cysylltiadau grymus nes ymlaen I’w brofi (Matt 16:1, 19:3 etc); neu gyda’r rhai sy’n rhoi ormod o bwyslais ar fesurau materol o lwyddiant, ei ddilynwyr Ei hun yn eu plith (Matt 18:1-5).
Yn sicr, yr anialwch yw’r ffordd.
Yn gyson, mae’r Iesu yn crybwyll achlysuron tebyg o ysgrythur yr Hen Destament.
Mae’r 40 diwrnod yn yr anialwch yn adlewyrchu’r cyfnod a dreuliwyd yno gan Israel ar ol yr Exodus a mae Ei son am fara yn dod o’r adeg hwnnw yn Deuteronomy 8:3.
Mae’r diafol ei hun yn crybwyll yr ysgrythur yn Salm 91 a temptio’r Iesu i lychio Ei hun oddiar uchafbwynt y deml ond mae’r Iesu yn gwrthod gyda’r ateb o Deuteronomy 6:16 pryd mae Moses yn atgoffa ei bobol am syt roeddynt wedi profi Duw ynglyn a’u sychder yn Massa, hyd yn oed ar ol iddo eu bwydo gyda manna.
Yr un peth sydd ar waith yn y temtasiwn olaf – yr Iesu yn dibynnu ar yr ysgrythur am atebion i amgylchfeydd tebyg, sef Deuteronomy 6;13.
Fel yn ein siwrne ni, hyd Y Grawys, wrth ystyried be sydd wedi digwydd i ni, byddem yn gweld lle rydym wedi gorchfygu neu wedi plygu i temtasiwn. Be gafodd ei ddysgu ac ydyw wedi ein paratoi am ddigwyddiadau nes ymlaen?
Mi aeth yr Iesu o ddyfroedd yr Iorddonen i sychder yr anialwch, o swn y dorf i ddistawrwydd, o agoriad y Nefoedd i brofi ymosodiadau ysbrydol uffernol ond yr oedd yr Ysgrythur yn allweddol i’r hyn a wynebodd.
Wrth i ni wynebu profiadon tebyg yn ein bywydau heddiw, boed yn prinder bwyd yn yr archfarchnadoedd, grym dros rhannau o’r Byd, neu addoli grymmoedd eraill – mae’n debyg fod “cyfeillion y teulu” satanaidd yn recriwtio ar hyn o bryd!
Yn union fel a grybwyllodd yr Iesu yr Ysgrythur; yn ystod temtasiynau corfforol neu ysbrydol heddiw, pa ysgrythuron a byddem ni yn eu defnyddio?
Gyda fy ngweddion,
Pob Bendith,
Christine, Gwarcheidwad.