“Nac ofnwch: canys mi a wn mai ceisio yr ydych yr Iesu, yr hwn a groeshoeliwyd. 6 Nid yw efe yma: canys cyfododd, megis y dywedodd.”
O Matthew 28:1-10.
“Atgyfodwyd y Crist”
“Mae E wedi atgyfodi yn wir’”
“Aleliwia!”
O Clod y Pasg.
“Tad, i Dy ddwylaw rwyf yn cymeradwyo fy ysbryd.” meddai’r Iesu fel Iddew gwyliadwy, yn union cyn iddo farw, yn ol efengyl Luc.
Dyma’r weddi a adroddwyd pob noson gan Iddewon Uniongred, rhag ofn iddynt farw, yn ymddiried yn Nuw yn ystod “marwolaeth bach” cwsg.
“Mae o drosodd” meddai’r Iesu, yn Ioan 19:30, yn fuan cyn iddo farw.
Mae’r efengylion i gyd yn son am Ilid Iddewi yn mynd a corff yr Iesu, mewn llieniau, i’w feddrod ei hun, wedi ei dorri allan o’r graig. Wedyn rowliodd garreg enfawr i geg y beddrod ond drannoeth gofynnwyd y brif Weinidogion a Pharisiiaid gan Pilate i sicrhau fod y beddrod wedi ei gau yn gadarn, rhag i ddilynnwyr yr Iesu ddwyn ei gorff a honni ei fod wedi atgyfodi. Yn ol Matthew, caewyd geg yr ogof yn dynn gan y milwyr a gosodwyd gwarcheidwaid o flaen y beddrod.
Mae o WEDI gorffen, gan fod yr Iesu wedi marw a’I gladdu, ond tydio ddim drosodd.
Amser o aros sy’n dilyn ar y ddydd Sadwrn sanctaidd ond ar ddydd Sul y Pasg, wrth i Fair Faglen a Mair arall ymlwybro at y beddrod mae St. Matthew yn son am ddaeargryn ac am angel yn rowlio’r garreg fawr o’r bedd gyda’r gwarcheidwyr yn syrthio ar lawr mewn ofn. Am eironi! Fod yr un sydd i fod yn farw yn y bedd rwan yn fyw a’r amddiffynwyr ar y tu allan, sy fod yn fyw – fel petaen’t wedi marw!
Nes ymlaen mae Matthew yn dweud fod yr amddiffynnwyr wedi derbyn llugrwobruon ac amodau diogelwch, i ddweud fod dilynwyr yr Iesu wedi dwyn ei gorff ymaith yn ystod y nos. Ni ddigwyddodd y canlyniadau oeddynt yn eu ofni – fel sy’n amal ddigwydd.
Mae’r angel yn dweud wrth y merchaid i beidio a poeni, sy’n golygu eu bod yn gwneud, ac wrth reswm.
Gofynnwyd iddynt fynd yno i weld fod yr Iesu wedi ymadael ac i fynd at Ei ddisgyblion a dweud Ei fod wedi atgyfodi a mi wnaiff gwrdd a nhw yn Galileia.
Hynny yw, ni wnaeth yr Iesu godi Ei hun o farwolaeth ar ol bod yn y feddrod am dridiau, ond codwyd Ef gan Dduw.
Mae’n nodedig mae merched a ofynnwyd i wneud hyn o achos, adeg hynny, nid oedd merched yn cael siarad mewn cwrt na fod yn dystion. Roeddynt yn cael eu trin fel pobol eilradd yn enwedig o gefndir Mair Faglen, a honnid o fod yn butain.
Drwy eu gorchymun yn y modd yma, mae Duw yn dewis pobol annisgwyl i drosglwyddo Ei neges o fywyd newydd ac o obaith – a mae hyn yn cynnwys chi a fi, pechawdwyr a tystion anhebyg, fel yr ydym, i ras gwarchodaidd Duw yn y byd heddiw.
Dim ond wythnos yn ol, ar ddydd Sul y Palmwydd, roedd y dorf yn dew o dystion i’r hyn roedd yn digwydd ond rwan dim ond y ddwy ferch sydd ar ol, gan fod y disgyblion yn cuddio rhag ofn be fase’n medru digwydd iddynt ar ol i’w arweinydd gael ei groeshoeli.
Mae St. Matthew yn daethom fod y merched yn llawen ac yn ofnus wrth iddynt ffoi o’r beddrod, a nes ymlaen mae’r Iesu ei Hun yn dweud wrthynt am beidio ac ofni.