Adlewyrchiad am trydydd ddydd Sul y Pasg a chlwb peldroed Wrecsam. 
 
“ yr Iesu ei hun hefyd a nesaodd, ac a aeth gyda hwynt. 16 Eithr eu llygaid hwynt a ataliwyd, fel nas adwaenent ef. 17 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pa ryw ymadroddion yw’r rhai hyn yr ydych yn eu bwrw at ei gilydd, dan rodio, ac yn wyneptrist?  
 
O Luc 24:13-35 
Beibl William Morgan 
Efengyl Heddiw. 
 
“Peth hudol yw cael Wrecsam ar eich rhestr “i wneud”.” 
Hebog y B.B.C. wrth gefnogwr Americanaidd y clwb, sy’n perthyn i ser Holywood Rob McElhenney a Ryan Reynolds. 
Arddangosiad cyntaf Iesu atgyfodedig yn efengyl Luc yw ar y ffordd i Emmaus, pryd mae E’n ymuno a ddau berson, Cleopas ac efallai ei wraig sy’n ddienw. 
Nid y disgyblion ofnus sydd wedi cilio i ffwrdd, yn ol yr efengylion eraill, ond toeddynt ddim yn adnabod yr Iesu. 
Maen’t wedi bod yn trafod y sefyllfa gwleidyddol, y croeshoeliad yn adlewyrchu hawlfraint honedig teyrnasol y Rhufeiniaid, a maen’t yn gwawdio’r Iesu: “ai ti yw’r unig ddieithryn yn Jerusalem sy’n anymwybodol o’r hyn a ddigwyddodd yno?” 
Maen’t yn sicr nad ydynt yn Ei adnabod a mae Luc yn dweud; “ Eithr eu llygaid hwynt a ataliwyd, fel nas adwaenent ef. ” 
Os na fedrant weld pwy sydd wedi dod atynt, efallai fod hyn oherwydd eu bon’t yn sicr fod yr Iesu wedi marw. 
“Cafodd Ei ddedfrydu i farwolaeth a’I groeshoelio”, meddant wrth eu cyd deithiwr newydd, “ond roeddem wedi gobeithio mae Efe oedd yr un” (p.20-21). 
Y gorffennol sy’n cael ei ddefnyddio, nid y presennol, tra maen’t yn sefyll yn llonnydd, yn edrych yn drist.(p.17). 
Ar ol Iddo sgwrsio gydant ynglyn a’r hyn a ddigwyddodd, maen’t yn Ei wahodd i ymuno a hwynt gan fod hi’n nosi, ac, ar ol Iddo fendithio, torri a rhannu’r bara, maen’t yn Ei adnabod yn uniongyrchol. 
Mae ystyr llythrennol “com” “ panio” – gyda bara, yn dangos iddynt Pwy ydi O, mor atgofiol ydi o o’r swper olaf, ac maen’t yn Ei adnabod yn syth. 
Er yr hwyr, maen’t yn dychwelyd at eu cyd-ddisgyblion i ddweud wrthynt be a ddigwyddodd a mae’r bennod yn cynnwys lawer o symudiad. 
Mae’r ddau “yn mynd”. (24:13) “Mae’r Iesu’n dod yn agos atynt a mynd gyda nhw” (24:15), maen’t yn agosau at Emmaus (24:28), mae’r Iesu “yn mynd o’u blaenau nhw” (24:28) “mae’n mynd i mewn i aros gyda hwynt”(24:29), “mae E’n diflannu o’u golwg.” (24:31), “maen’t yn codi ac yn dychwelyd i Jerwsalem” (24:33). Yn anhebyg i’r disgyblion a wnaeth guddio yn yr un lle mae rhain yn codi ac yn gweithio wrth i drafodaeth yr Atgyfodiad ledeunu hyd y ffordd. 
Yn gynharach yn efengyl Luc mae’r Iesu yn mynd ar daith o Galilea i Jerusalem (9:51 – 19:27) lle mae O’n cwrdd a pobol ar y ffordd ac yn llyfr Actau, ail lyfr Luc, gelwid y Cristnogion cynnar yn “pobol y ffordd” 
(Actau 9:2, 22:4, 22:14,22). 
Dilynasant yn olion traed yr Iesu a ma hyn i gyd yn digwydd mewn cyfnod wleidyddol a economaidd amhoblogaidd. 
Mae’r wythnos yma hefyd wedi gweld digwyddiadau amhoblogaidd, gyda ymddiswyddiad Dominic Raab, dirprwy prif weinidog, ysgrifennydd cyfiawnder a bwli yn ei waith. 
Mae yna lawer o drafod wedi bod am rymmoedd gwleidyddol tra fod costau byw a’r sefyllfa economaidd hefyd yn dwyn sylw. 
Hefyd mae heddiw yn gweld sain rhybuddiol ar ein ffonau symudol i’n rhybuddio rhag argyfyngoedd cymdeithasol, ond hefyd mae yna straeon o obaith hefyd. Un yw dyrchafiad clwb peldroed Wrecsam i gyngrair peldroed Lloegr gyda cymorth dau o actorion Holywood, er colled i clwb a chefnogwyr Boreham Wood. 
Mae’r sylw wedi rhoi Wrecsam ar y map i Americanwyr a mae’r hwb i dwristiaeth yn help economaidd i’r dre a’r ardal. Pwy fydde wedi meddwl am gysylltiad rhwng Wrecsam a Tinsletown, er fod y bendithion yn eglur! 
Beth bynag, ar y ffordd i Emmaus, roedd y ddau ddisgybl mor sicr fod yr Iesu wedi marw a phob obaith ynddo wedi mynd, nad oeddynt yn medru Ei weld o’u blaenau. Doth y trawsnewidiad drwy gwestiwn syml gan rhywun roeddent yn ystyried yn ddiarth; “be rydych yn ei drafod wrth i chi gerdded ymlaen?” 
 
Ar ba bynag siwrne rydym wedi bod arno yn ein bywydau, ydi’n bosib ein bod wedi methu presenoldeb yr Iesu gyda ni, oherwydd, fel y teithwyr i Emmaus, rydym yn ddiystyru ei ddylanwad ar y bywyd presennol? 
A ydym wedi colli gobaith a mynd ar goll, fel mae’r prydydd Americanaidd Emily Dickinson yn awgrymu “‘roedd E hefo fi wrth fynd am dro”? (O “the blunder is to estimate”.) 
Neu efallai y byddem yn gweld gobaith ffres yn ystod y Pasg yma, a medru llawenhau er mewn amgylchfyd o drueni ac anobaith? 
 
A felly mae cwestiwn yr Iesu yn dod atom heddiw, fel i’r ddau ar y ffordd i Emmaus;  
“Am be rydych yn trafod, wrth i chi gerdded ymlaen?”. 
 
Gyda fy ngweddion, 
Pob Bendith, 
Christine, 
Gwarcheidwad. 
 
 
 
 

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *