Adlewyrchiad am chweched ddydd Sul y Pasg – dydd Sul y Rogiad.

“22 Pryd hau, a chynhaeaf, ac oerni, a gwres, a haf, a gaeaf, a dydd, a nos, ni phaid mwy holl ddyddiau y ddaear.”
O Genesis 8:22-31.

“Mae teiseni Cymraeg yn arwydd o letygarwch” meddai Fr. Counsell.
“Felly os gwelwch hanner-pen, chwith eithafol, neo-fascaidd sy’n edrych allan o’i le yma, y cwestiwn pwysica fedrwch ofyn iddo yw “a hoffech chi deisen Cymraeg?”
Adroddiad o ffrae yn Llanilltyd Fawr.

Dydd Sul y Rogiad yw heddiw, o’r Lladin “rogate” – “gofyn”, sef gofyn am fendith Duw ar hadau’r Gwanwyn yn arwain at gynhaeaf yr Hydref.
Mewn llefydd gwledig fel hyn, pebai’r
cnydau’n methu a’r cynhaeaf yn brin, bydde’r pobol yn llewygu.

Heddiw mae archfarchnadoedd a siopa ar-lein yn golygu nad yw’r cysylltiad a’r ddaear mor gry’ ac yr oedd ond mae’r blychau ar y shilffoedd a gwendid yn y drefn o gynhyrchu bwyd, costau uchel ac ati, yn creu pryder ynglyn a bwyd.

Defnyddir rhandiroedd a gerddi i dyfu llysiau a ffrwythau yn ogystal a blodau, a mae gwerthiant hadau wedi cynyddu’n fawr – a mi ddyle hyn oll wneud gwahaniaeth.

Y dydd Sul a’r tridie cyn y Dyrchafiad yw tymor y Rogiad, ac mae’n arferol cael gwasanaeth ty allan ym myd natur a dathlu creawd Duw wrth ofyn am Ei fendith ar y tyfiant a’r cynnyrch
diwydiannol ac o’r ffatrioedd.

Mae hefyd yn adeg meddwl am esgeulusdod ac ymelwad o’r tirwedd, newid hinsawdd a chynhesu fyd-eang.
Roedd cyfnod y Rogiad hefyd yn gyfle i ddysgu i’r ifainc am ffiniau’r tir a’u cymunedau.

Yn Llanilltyd Fawr mae ffrae wedi datblygu ynglyn a’r croeso i ffoadurion o’r Iwcrain ac mae teiseni Cymraeg wedi eu rhoi am ddim i’r grwpiau anghytunol er mwyn hybu heddwch.
Defnyddio bwyd i ymuno a bwydo y rhai sydd ei angen a sy’n ei dderbyn.
Dyma be wnaeth yr Iesu drwy fwydo’r pum mil gyda’r bara a’r pysgod a’r gwin ar ol eu cymeryd,  bendithio, tori a’u rhannu. Gofynnodd i’w ddilynwyr wneud yn debyg er cof Amdano, a dwy fil o flynyddoedd bellach ar phob ddydd Sul mae’r Cymun sanctaidd yn adlewyrchu hyn drwy atynu ac ymuno miliynau o bobol o bob barn a modd o fyw.

Roedd y partiion stryd yn ystod y coroni hefyd yn dathlu bwyd ac ysbryd cymdeithasol wrth i bobol ymuno er mwyn nodi’r cychwyn newydd.

Efallai fydd engreifftiau parhaol o letygarwch a rhannu teiseni Cymraeg yng wyneb milendra yn helpu ymuno
pobol a gorchfygu rhaniadau – a nid yn unig yn Llanilltyd Fawr!

Gyda fy ngweddion,
Pob Bendith,
Christine,
Gwarcheidwad.