Adlewyrchiad am y ddydd Sul ar ol ddydd y Dyrchafael a Rob Burrow.

 “Y pethau hyn a lefarodd yr Iesu, ac efe a gododd ei lygaid i’r nef, ac a ddywedodd, Y Tad, daeth yr awr; gogonedda dy Fab, fel y gogoneddo dy Fab dithau”

Yr Iesu yn efengyl heddiw, Ioan 17:1-11

“Ein gogoniant uchaf yw, nid mewn byth a syrthio ond am godi pob tro yr ydym yn syrthio.”

Confucius.

Un o’r delweddau fwyaf trawiadol yn y cyfryngau yn ddiweddar oedd y ddau cyn-chwaraewr cynghrair rygbi yn rhedeg marathon ar gyfer hel dros pedwar miliwn o bunnoedd at atal y clefyd Motor Neurone.

Roedd y ddau wedi chwarae i Leeds Rhinos ond yn awr roedd Rob Burrows yn cael ei wthio o gwmpas y daith gan ei gyn gymydog yn y tim – Kevin Sinfield.

Ar ol 24 milltir cododd Kevin, Rob o’i gadair olwyn er mwyn iddynt groesi y linell terfyn gyda’i gilydd. Nes ymlaen defnyddiodd Rob ei lais electronig i ddweud mae hwn oedd diwrnod llawennaf ei fywyd – am ddewrder, am gyfeillgarwch ac am ddiweddglo werth chweil i marathon gyntaf Rob Burrows ar gyfer MND!

Dwy fil o flynyddoedd ynghynt, digwyddodd ddiweddglo gogoneddus arall wrth i’r Iesu gael Ei atgyfodi ar ol y croeshoeliad. Wrth Iddo fynd i mewn i Jerusalem ar ddydd Sul y Palmwydd, fe ddywedodd:

“ 23 A’r Iesu a atebodd iddynt, gan ddywedyd, Daeth yr awr y gogonedder Mab y dyn.” Ioan 12:23-24, ac, wrth i Judas adael y Swper Olaf I’w fradychu; “ 31 Yna gwedi iddo fyned allan, yr Iesu a ddywedodd, Yn awr y gogoneddwyd Mab y dyn, a Duw a ogoneddwyd ynddo e”. (13:31)

Nid cyn y Dyrchafael lefarwyd y geiriau hyn ond cyn y croeshoeliad, y diweddglo ofnadwy hwnnw sydd, ystywaeth, yn datguddio grym duwiol drwy dyfnderoedd cariad.

Arweiniodd y croeshoeliad i’r atgyfodiad a’r dyrchafael, pryd ddychwelodd yr Iesu i’r gogoniant nefol lle cychwynodd. O reidrwydd derbyniodd Ef a’i greal y gwahaniad ynglyn a hyn, ac, hyd at y diwedd, roedd yr Iesu yn bendithio a hybu Ei ddisgyblion (Luc 24:51).

Ni wnaeth yr Iesu gefnu ar y rhai oedd yn ceisio deallt be oedd yn digwydd – dywedodd wrthynt am aros am y grym o’r uchelderau, yr hyn a adawodd iddynt ddychwelyd i Jerusalem gyda llawenydd mawr wrth iddynt ddisgwyl am hyn.

Mae’r chwedl yn un cyfarwydd i ni a gwybum y doth yr Ysbryd Glan atynt yn ystod y Pentecost a thrawsnewid y disgyblion petrusgar rheini i fod yn dystion grymus i cariad a gogoniant Duw yn y byd.

Ond, ar y pryd, roedd rhaid i’W ddilynwyr credu a ymddiried yn y Crist a disgwyl i hyn ddigwydd – wrth i ni wynebu colled, ansicrwydd a’r temtasiwn at isel ysbryd heddiw, efallai fy’n rhaid i ni wneud yr un fath,  ymddiried yn rym Duw i helpu ni orchfygu yr herion sy’n gwynebu ni yn ein cenhedlaeth fel bod gogoniant a chariad Duw yn weledig yn ein bywydau a’r byd heddiw hefyd.

Gyda fy ngweddion,

Pob Bendith,

Christine,

Gwarcheidwad.