Adlewyrchiad am St. Barnabas y galluogwr. 

“Dyn da, yn llawn o’r Ysbryd Glan ac o Ffydd.” 

Disgrifiad o Barnabas yn Actau 11:24 

“Nid cariad sy’n achyb rhywun sy’n parhau i wneud dewisiadau drwg. Enwir hyn yn ‘galluogi ‘. Peidiwch galluogi a gwrthodwch fod yn rwyd amddiffyn, iddynt gael tyfu fynny.” 

Reach Out Recovery.  

Am gyfnod ar ol pandemig Covid, ofnus oedd bobol ynglyn a cysylltiad agos a chyfarfodydd lle’r oeddynt yn teimlo bon’t dal o dan fygythiad.  

Yn Llythyr heddiw mae’n amlwg fod y Cristnogion cynnar yn dal i ofni Saul o Tarsus, yr hwn a oedd wedi eu herlid hwynt, er iddo brofi gweledigaeth ar y ffordd i Damascus.  

Yn Actau 9:26, maen’t yn amheus ei fod wedi wirioneddol newid ei feddwl a bod yn ddilynwr. Dealltwn eu ofn a Barnabas sy’n eu darbwyllo fod Saul wedi derbyn y ffydd ymddangosol newydd. Barnabas sy’n paratoi y ffordd i dderbyniad Saul a’i weinidogaeth wedyn, pryd mae’n chwilio am Saul (Actau 11:25) a dod a fo i Antioch lle galwyd y disgyblion yn Gristion am y tro cyntaf. 

Cafodd ei adnabod fel y galluogwr neu’r un sy’n magu hyder, sef ystyr ei enw, Barnabas. 

Beth bynnag, er i’r ddau gychwyn ar siwrne fel cenhadwyr, gyda cefnder Barnabas, John Mark, i’w helpu, maen’t wedyn yn cael ffrau amdano. Mae’r ffrau yn egar – mae’n debyg fod Paul yn amau fod John Mark yn mynd i ymadael a nhw yn Pamphylia ac efallai fod Barnabas yn teimlo dyletswydd i gefnogi aelod o’i deulu.  

Mae’n golygu eu bon’t yn gwahanu,  gyda Saul, Paul erbyn hyn, yn mynd a Silas i Syria a Barnabas yn mynd gyda Mark i Cyprus. Efallai fo’n gysur i ni wybod fod yna ffraeo rhwng Cristnogion adeg hynny fel y mae heddiw, ond be sy’n amlwg yw fod ‘r’un ohonynt yn gadael i’r anghydfod amharu ar eu cenhadaeth. Mae Paul a Barnabas yn galluogi i’r efengylu barhau ac mae’u gwahaniad yn sicrhau, oherwydd y modd a ddelwyd a’r sefyllfa, fod yr Efengyl yn lledaenu mewn ddau gyfeiriad. Hei lwc i hyn ddigwydd yn amlach! 

Heddiw, mae’r gair “galluogi” yn medru cael ystyr wahanol tra’n cael ei ddefnyddio yng nghyd-destun chwannaeth. Fel yr awgrymer yn Reach Out Recovery mae’n bosib esgusodi rhywyn chwannog, yn y gred anghywir fod hyn yn ei gefnogi, lle mae’n medru gohirio wynebu realiti a gwellhad. 

Efallai fod hyn wedi digwydd yn ein amgylchiadau ninne hefyd neu fod ffrau wedi creu rhanniad ac, os hynnu, calonogwch. Cymeradwuwyd Paul a Silas gan yr eglwys yn Antioch gyda dim cymeradwuaeth i Barnabas a Mark ond efallai fod penderfyniad Barnabas wedi galluogi ail gyfle i’w gefnder gan fod Paul yn sgrifennu nes ymlaen “dowch a Mark gyda chi oherwydd mae’n ddefnyddiol yn fy weinidogaeth” (2 Tim. 4:11). 

Fel cafodd Mark ail gyfle efallai ein bod ni, neu rhywun rydym yn ei adnabod, yn haeddu un hefyd. Pe ystyrwyd hyn, a fydde’n “galluogi” fel yn engraifft Barnabas y galluogwr, neu yng nghyd-destun Reach Out Recovery?   

A dan olwg digwyddiadau gwleidyddol ar hyn o bryd, a fydde’r canlyniad yn addas i Boris Johnson, Donald Trump a’r holl wleidyddion eraill ynghlwm, neu beidio?! 

Gyda fyng ngweddion, pob bendith, 

Christine, Gwarcheidwad.