“ Ac un a ddywedodd, Gan ddychwelyd y dychwelaf atat ynghylch amser bywoliaeth; ac wele fab i Sara dy wraig. A Sara oedd yn clywed wrth ddrws y babell, yr hwn oedd o’i ôl ef. 11 Abraham hefyd a Sara oedd hen, wedi myned mewn oedran; a pheidiasai fod i Sara yn ôl arfer gwragedd. 12 Am hynny y chwarddodd Sara rhyngddi a hi ei hun,”
Proffwydaeth cywir yn Genesis 18: 1-15, er anghrediniaeth Sara.
“Grace a’i chyfaill, syrthasant gyda’u gilydd, a dim ond rhaid cyfeillgarwch at bawb. Rhaid i chi garu pawb, a hoffwn petai fwy ohono.. Roedd hi’n caru bod yma ac yn caru chi i gyd. Ddyle chi gyd deimlo bendith mawr.”
Sanjoy Kumar, tad un o’r myfyrwyr a lofruddwyd yn Nottingham.
Heddiw yw Sul y Tadau, traddodiad Americanaidd gyda’i darddiad yn nhrychineb cloddio ym 1908, pan gynhaliwyd wasanaeth coffau 362 o ddynion a laddwyd yng Ngorllewin Virginia, yn gadael ar ol gweddwon a dros fil o blant. Felly mae’n addas ei gofnodi heddiw o ystyried gymaint o drychinebau teuluol sy’n digwydd dros y byd yr wythnos yma. Mae dros 500 o bobol, 100 ohonynt yn blant, ar goll o gwch yn llawn mydwyr a suddodd oddiar arfordir wlad Groeg; yn ol y BBC mae’n debyg fod y marwolaethau yn y rhyfel rhwng Iwcrain a Rwssia lawer uwch na amcangyfrifwyd; teulu wedi ei ddarganfod yn farw mewn fflat yn Hounslow; lladdwyd dri person ac anafwyd eraill yn Nottingham – gymaint o blant ac oedolion wedi eu lladd, gymaint o boen a phrofedigaeth i’w ddioddef. Ymhellach ac efallai fydd teuluoedd y rhai a laddwyd mewn rhyfel neu oddiar arfordir wlad Groeg byth yn gwybod lle mae eu annwylion, nac yn medru talu i ddod a nhw adref i’w claddu – ffawd ofnadwy iddynt i gyd gorfod goroesi tra fod peryglon ofnadwy yn cael eu gwynebu mewn gobaith o fywyd gwell.
Er, ochor yn ochor a hyn mae geiriau o obaith a lefarwyd gan rieni a phlant rhai a laddwyd yn Nottingham.
Soniodd mab Ian Coates, rheolwr poblogaidd yn yr ysgol, am y pethau syml y mwynhaodd; ei wyrion, pysgota a chefnogi tim peldroed Nottingham Forest.
Roedd Ian yn nesau at ymddeol ac roedd y ddau myfyriwr yn cwblhau eu blwyddyn gyntaf o astudio.
Gymaint o golled, gymaint o gyfle am ddicter a chwerwder – er hynny, crefodd fam Grace ar ei gwrandawyr, “Daliwch dim casineb sy’n gysylltiedig a lliw, rhyw, na chrefydd”, tra roedd ei thad yn son am Grace fel Bendith.
Am ddewrder yn wyneb trychineb, dewis pwrpasol i garu, a thorri’r cylch a fydde, o bosib, wedi arwain at fwy o drais.
Rydym ninne, gyda dewisiadau, lle mae gymaint heb ddewis, yn ffodus drwy gael opsiynnau, er fod rhain yn anodd, weithiau, eu cymeryd.
Adlewyrchid hyn hefyd ym mywyd yr Iesu, wrth anogi Ei ddilynwyr i weddio i “ein” tad, nid “fy nhad” a’u anog i garu eu gilydd, nes iddo Ef hefyd gael Ei lofruddio. Roedd Ei farwolaeth, wedi anafu gan hoelion a gwaywffon y milwyr, ym mherthnasol a’r geiriau “Fy nhad, maddau iddynt canys na wyddant yr hyn y maen’t yn ei wneud”.(Luc 23:34).
Arweiniodd y cariad arberthol hynny, yn y pen draw, at yr atgyfodiad a’r gobaith nad fod marwolaeth yn cael y gair olaf.
Gadewid i hyn fodoli ym mhob man lle tristha mammau a thadau, meibion a merched, gyda’r dewis i ddangos cystal gras a dewrder a ddangosid yn Nottingham yr wythnos yma. A gadewid i ddybiwyr fel Abraham a Sarah, a, wrth reswm, chwarddodd ar y syniad fod bosib iddi eni plentyn yn ei henoed, fod mor hy a chredu fod bendithion a hiraeth calon yn medru cael eu cyflawni, boed hyn mewn llawennydd neu mewn tristwch ynte ar gychwyn neu ar ddiwedd antur bywyd.
Gyda fy ngweddion,
Pob Bendith,
Christine,
Gwarcheidwad.