Adlewyrchiad am y trydydd ddydd Sul ar ol y Drindod a colled y llong danfor, Titan.

“26 Am hynny nac ofnwch hwynt: oblegid nid oes dim cuddiedig, a’r nas datguddir; na dirgel, a’r nas gwybyddir. 27 Yr hyn yr ydwyf yn ei ddywedyd wrthych chwi yn y tywyllwch, dywedwch yn y goleuni: a’r hyn a glywch yn y glust, pregethwch ar bennau’r tai.”

Yr Iesu yn efengyl heddiw, Mathew 10: 24-39.

“Darllenais erthygl a ddywedodd fod yna dair air yn yr iaith Saesneg sy’n adnabyddus ar draws y blaned, sef; Coca Cola, Duw, a’r Titanic”.

Stockton Rush, CEO OceanGate, a farwodd ar fwrdd y Titan.

Mae arwyddocad ychwanegol i eiriau’r Iesu yng nghyd destun diflanniad Titan, y llong danfor a oedd yn eiddo i OceanGate, a gollwyd mewn tywyllwch yn ddiweddar, wrth i’r rhai ar ei fwrdd ceisio plymio at weddillion y Titanic, ar lawr y mor  3,800 medr islaw.

Credwyd yn awr fod ffrwydiad drychinebus wedi lladd y pum dyn yn fuan ar ol eu disgyniad ond, am gyfnod, clywid taro gan y rhai oedd yn ceisio eu hachub, gan hybu rhywfaint o obaith.

Toedd hynny ddim yn bod ond be oedd yn drawiadol oedd y cydweithredwch technolegol a morwrol rhwng llyngesau o Canada, America a Ffrainc, mewn archwiliad rhyngwladol a ddarganfodd y gweddillion, a hynny felly yn tystiolaethu fod bob obaith o’u hachub yn ofer.

Bydd y cydweithrediad yn parhau wrth i’r darnau cael eu dwyn o waelod tywyll y mor, a’u ailcynhwyso yn y goleuni wrth i arbennigwyr ceisio penderfynnu be achosodd hyn, ac ymchwiliadau ar gychwyn. Fel ddywedodd teulu Hamish Harding, “ os oes unrhyw gysur i ni allan o’r drychineb yma, mi collasom ef tra roedd yn gwneud yr hyn roedd yn ei garu. Rydym yn gwybod bydde Hamish yn ofnadwy o falch o weld sut mae gwledydd, arbennigwyr, cydweithwyr yn y diwydiant, a chyfeillion wedi ymuno yn y chwilio a rydym yn ddiolchgar o’r galon iddynt am eu ymdrechion.”

Mewn cyferbyniad, sefyllfa wahanol iawn sy’n wynebu y rhai a gollasant eu hanwyliaid ar ol i gwch ordrwm a mudwyr foddi oddiar arfordir gwlad Groeg. Achubwyd rhai ond mae cannoedd dal ar goll a mae’n bosib fydd eu cyrff byth yn dod i’r golwg, yn debyg i’r rhai ar fwrdd Titan. Beth bynag, tra oedd y twristiaid cyfoethog ar fwrdd y Titan yn medru fforddio $250,000 yr un am eu siwrne ‘roedd lawer o’r mudwyr wedi benthyca’n drwm am eu siwrne, gyda un teulu wedi colli saith aelod. Gwynebwyd ddyledion mawr gan deuluoedd y rhai a gollwyd, heb yr incwm rhagweladwy o’r gyrfeuydd newydd a ddisgwyliwyd.

Gyda hwyrfrydigwydd honedig awdurdodau wlad Groeg i’r drychineb oedd yn datblygu a chymlethdod ymatebion rhyngwladol i fudo anghyfreithlon, be fydd yn digwydd i’r rhai a effaithwyd mor ddrwg?

Mae’r Iesu’n awgrymu fod yr hyn a guddwyd yn cael ei ddatguddio a fod yr hyn sy’n digwydd yn y tywyllwch yn cael ei fynegi ar ol i’r goleuni ei arddangos. Wrth i’r archwyliadau barhau, bydd y darnau ar lawr mor yn adrodd yr hanes am be a ddigwyddodd, yng ngolau dydd – ac efallai fydd lawer iawn yn cael ei ddatguddio.

 Roedd y rhai ar fwrdd y Titan yn ogystal a’r rhai ar long y mudwyr yn ymwybodol o’r peryglon, ac, mae’n debyg, yn ystyried eu bon’t yn werth gwynebu. Yn yr achosion yma, roedd y canlyniadau ddim fel y gobeithwyd ond maen’t yn arddangos lawer am yr hyn sy’n cael ei werthfawrogi mewn bywyd – er fod y Titanic wedi cymeryd pum bywyd arall a Coca-Cola o flaen Duw mewn adnabyddiaeth geiriau!

Gyda fy ngweddion,

Pob Bendith,

Christine,

Gwarcheidwad.