Adlewyrchiad am y Pedwerydd Ddydd Sul ar ol Y Drindod.

“ Y neb sydd yn eich derbyn chwi, sydd yn fy nerbyn i; a’r neb sydd yn fy nerbyn i, sydd yn derbyn yr hwn a’m danfonodd i.”
Yr Iesu yn St Matthew 10:40-42. 

’The whirligig of time brings in his revenges.’ Shakespeare, yn Twelfth Night, Act 5.

Yn fuan ar ol cychwyn yn St. Melangell, ar ol deffro’n gynnar, penderfynais fynd ati i wneud gwaith bydr o gwmpas y ty, mewn hen ddillad, cyn cychwyn fyng nghyfrifoldebau fel Gwarcheidwad.
Roeddwn yn glanhau lludw pan gwympodd y badell o’r tan goed a beuddu fy jins carpiog gyda’r cynnwys! Roeddwn hefyd yn ymwybodol o smotiau hyddug ar fy ngwyneb ond, ar fin cymeryd cawod, feddyliais dim fwy amdano.
Cyn i mi gael cyfle i olchi fy nwylo hyd yn oed, roedd yna guriad ar y drws.
Disgwyliais weld fy nghymdoges ond, er blinder i mi, yno yn sefyll oedd gweinidog Orthodox Rwsiaidd mewn gwisg priodol, hyd yn oed gyda bwcleiaid ar ei sgidie.

“Bore Da”, medde fo, “rhaid mae’r forwyn ydych chi, ydi’r Warcheidwad adre’ ?”

Roedd fy nghroeso ddim fel y disgwylir!

Yn efengyl heddiw mae’r Iesu yn cynghori Ei ddeuddeg Disgybl ynglyn a be sydd o’u blaenau ac mae’n son am groeso gan y rhai mae wedi eu gyrru atynt.
Mae’r Iesu yn deuthyn’t fod eu croeso yn cynnwys Ef a’r Un a’i yrrodd.

Yr anhawster ynglyn a chael eich croesawu, beth bynnag, yw cyfleuster amserol yr ymweliad, ac un o’r gwersi cynnar a ddysgais oedd i ddisgwyl yr annisgwyl yma.
Cynhwysir hyn gyrhaeddiad hwyr parti o Groegiaid un noson am 9.30 y nos – roedd eu bws mini wedi torri lawr a roeddynt ar eu ffordd i Lundain erbyn bore, ond yn benderfynnol o weld eglwys St. Melangell cyn yrru drwy’r nos a dal i fynny gyda’u rhaglen.
Roeddynt yn oer, llwglyd a blinedig ond yn mynnu cael gweddio wrth y Shrin.

Tra roeddynt yn cynnal y wasanaeth, mi wnes bryd iddynt a mi roedd yn hwyr ar ol hanner nos arnynt yn ymadael, wedi blino erbyn hyn ond yn llawen oherwydd medru gweddio yma.
Gwnaeth eu ymroddiad argraff arnaf a dangos wahaniaeth croesawgar i’r drefn bresennol lle mae eglwysi yn cae neu cael eu anwybyddu oherwydd diffyg cefnogaeth.

Golygwyd y pandemig fod pwyll yn blaenoriaethu dros dangos croeso at ein gilydd a mae rhai yn dal i ddioddef y canlyniadau.
Beth bynnag, darganfuwyd moddion eraill o fod yn groesawys ar lein neu o bellder a mae rhain hefyd yn cael dylanwad.
Mae’r un yn gydbwysol a’r llall a, fel sgrifennodd Shakespeare yn Twelfth Night, “The whirligig of time brings in his revenges.”
Tegan sy’n chwildroi yw whirligig, atgof fod “yr hyn sy’n mynd o gwmpas yn dod o gwmpas” mewn bywyd hefyd.

Mae’r cyfleon i groesawu rhywun, neu beidio, a chael croeso ganddynt yn creu’r cyfle i ni groesawu’r Iesu a’r Un a yrrodd Ef – boed ni’n barod neu beidio!

Gyda fy ngweddion,
Pob Bendith,
Christine.