Adlewyrchiad am y Chweched ddydd Sul ar ol y Drindod, a Darlledu.

 “Gad i unrhyw un gyda clustiau, wrando!”
Yr Iesu yn St Matthew 13-1-9, 18-23. 

”Maen’t yn ceisio ein dinistro ond cyn belled ac ‘rydym yn parhau i ddod yma a chwarae cerddoriaeth, ni yw’r glaswellt cyntaf i ddod allan o’r adfeilion.”
Brawd, heb ei enwi, i arweinydd Dalia Stasevska, ynglyn a chwarau Bach yn y neuadd cyngerdd a ddinistrwyd yn Bucha, Ukraine.

Dihareb yw efengyl heddiw – chwedl bydol gydag ystyr nefol – ac yn un o’r saith diharebion ym mhennod 13 o St Matthew.
Yn anhebyg i’r diharebion eraill, lle mae’r Iesu yn eu cymharu a digwyddiadau yn nheyrnas y nefoedd, mae’r ddihareb yma yn cychwyn gyda ffarmwr yn mynd allan i hau hadau, delwedd cyfarwydd i’w gynilleidfa wledig.
Mae’r Iesu yn son am hau hadau drwy ddarlledu, lle mae’r hadau’n cael eu gwasgaru wrth law dros dirwedd go eang.
Yn y ddihareb, mae’n glanio ar bedwar fath o dir; y llwybr, lle gafodd ei fwyta gan adar, tir carregog, lle mae’n tyfu’n gyflym ond, heb wraidd dyfn, yn marw’n sydyn , pridd lle mae’r chwyn yn ei dagu a tir da lle mae’r hadau’n cynhyrchu cynhaeaf ardderchog.
Gorffen yr Iesu drwy orchymyn y rhai gyda clustiau – i wrando, ac wrth i hyn ddrysu’r disgyblion, mae E’n siarad yn fwy plaen gyda nhw.

Tydi’r hadwr ddim yn cael ei enwi ond mae’r hedyn a’r hyn sy’n digwydd iddo yn cael disgrifiad fanylach.
Mae’r graen sy’n syrthio ar y llwybr caled yn adlewyrchu’r galon-galed sy’n clywed Ei eiriau ond ddim yn ymateb iddynt, neu’n cael eu dwyn ymaith gan ddrwg weithredu.
Awgryma’r “hadau sy’n syrthio ar dir garregog” fod rhai dilynwyr yn frwdfrydig i ddechrau ond yn ymadael pryd mae bywyd yn mynd yn anodd.
Ar dir dreiniog mae problemau a phryderon bywyd yn medru tagu tyfiant newydd ond mae’r rhai sy’n clywed ac yn ymateb yn medru bod yn ffrwythlon iawn. Maen’t yn ymateb i’r newyddion da ac yn gwrthod ddrwg-weithredu tra’n dioddef anhawsterau a threchu gofalon y byd.

Beth bynag, allweddol yw haelioni – neu gwastraff – yr hadwr.
Medir balu tir caled er mwyn tyfiant haws, medir dynnu chwyn a drain a cherrig er mwyn i’r hedyn gael chware teg – ond tydi’r hadwr yma heb wneud dim am hyn.
Mae’n gwasgaru’r hadau yn hael lle bynag mae’n dewis – efallai gwastraffwyd darn ohono, ond efallai tyfai hefyd er ei fod yn syrthio gyda hap a siawns. Bydde ffarmwr da yn paratoi ei dir yn drwyadl cyn hau’r hadau a gwybyddont y disgyblion hynny.

Efallai dyna paham nac ydynt yn ei ddeallt ond, drwy rannu ystyr y ddihareb gyda’r disgyblion ond nid y dorf, mae Ei eiriau ynglyn a gwrando yn ogystal a chlywed, yn allweddol.
Drwy siarad mewn ffordd gyfrinachol gorchmynai’r Iesu iddynt ddadansoddi Ei eiriau ynglyn a theyrnas Duw yn cael mynediad i’w bywydau mewn llefydd ac ar adegau annisgwyl.

Hael yw cariad Duw – caiff lawer y cyfle i glywed ac i ymateb – ond bydd lawer yn ymadael hefyd.

Mae gobaith i’r rhai sy’n derbyn, ac ymateb, i’r gair – Duw neu’r Iesu yw hauwyr yr hadau ond mae gofyn i’r disgyblion ymateb hefyd.
O bosib byddent yn medru paratoi’r tir drwy dynnu ymaith rhwystredigion i gynnydd y gair – ond allweddol yw’r hadwr, tra fod yr hadau yn tyfu ble bynag maen’t yn glanio.

Heddiw, efallai, tydi hyn yn cyfri’ dim yng nghyd-destyn meusydd enfawr a pheiriannau hadu grymus a ddefnyddir gan ffarmwyr, ond wythnos yma mae brwydr llym wedi arddangos rhwng wahanol ddarlledwyr, yn ystyr cyfoes y gair.
Ar ol honiadau am gamymddwyn rhywiol yn y Sun a’r BBC, datgelwyd enw Huw Edwards yn gyhoeddus, yr hyn a arweiniodd iddo ymweld a ysbyty, yn dioddef gyda salwch meddwl difrifol.

Anghenus yw hau hadau ar y tir orau er mwyn tyfiant da, felly y Gwir, sydd wedi ei faeddu wrth ystyried digwyddiadau’r wythnos dwaethaf.

Ta waeth, allan o’r dinistr, efallai daw dehongliadau newydd o’r hyn a glywid a ddywedwyd, fel y datblygodd eginiau newydd yn y neuadd cyngerdd yn yr Iwcrain.

Yma yn nyffryn Melangell, gwelwyd eginau gwyrdd yn tyfu ar ol cynhaeaf y goedwig pinwydden ar ochor y mynydd a dinistr y tirwedd a achoswyd.

Be sy’n cael ei hadu yn ein calonnau neu ein bywydau, a lle mae eginau tyfiant newydd yn arddangos wrth i ni wrando ar ein calonnau yn ogystal a’n clustiau?

Gyda fy ngweddion,
Pob Bendith,
Christine,
Gwarcheidwad.