From Bishop Gregory Oddi wrth Esgob Gregory

COULD WE START AGAIN PLEASE?

A Pastoral Letter for the Teulu Asaph, 4th May 2020

From Bishop Gregory

GAWN NI DDECHRAU ETO PLÎS?

Llythyr Bugeiliol ar gyfer Teulu Asaph, 4 Mai 2020

Oddi wrth Esgob Gregory

Not the Bible, but Jesus Christ Superstar. When Lloyd Webber and Rice took their show based on the Passion of Jesus to the West End, they wrote a new song to go into the production. It was sung by Mary Magdalene just after Jesus has been arrested, and events are spiralling out of control. Mary catches a glimpse of Jesus during the trial and scourging, and sings:

I think you’ve made your point now You’ve even gone a bit too far to get the message home Before it gets too frightening we ought to call a halt So could we start again, please?

Nid y Beibl, ond Jesus Christ Superstar. Pan aeth Lloyd Webber a Rice â’u sioe yn seiliedig ar Ddioddefaint Iesu i’r West End, roedden nhw wedi ysgrifennu cân newydd ar gyfer y cynhyrchiad. Roedd yn cael ei chanu gan Mair Magdalen ychydig ar ôl i Iesu cael ei arestio ac mae pethau’n chwalu allan o reolaeth. Mae Mair yn cael cip o Iesu yn ystod y treial ac yn cael ei fflangellu ac mae’n canu:

Rwy’n meddwl dy fod wedi gwneud dy bwynt nawr

Rwyt ti hefyd wedi mynd braidd yn rhy bell wrth ddweud be di be

Cyn i bethau fynd yn llawer gwaeth, beth am roi’r gorau iddi

Felly, gawn ni ddechrau eto, plîs?

I saw the show again recently on the video performance production put up on You Tube during the Easter weekend, and it’s a poignant song, reminding us that when things get out of control, we all of us tend to rethink our actions, and wonder about how things could have been done differently. There’s also a God dimension, a crying out to the Father asking for things to be different.

Well, the good news is that it can be. With God, we can always start again. It’s called repentance, and figures rather largely in the message of the scriptures. I wrote last week about Jesus being ahead of us, in our future, and God calls us to repentance and faith – to start again – in our discipleship, in our societies, in our faith.

Fe welais y sioe unwaith eto yn ddiweddar, ar y cynhyrchiad fideo a oedd wedi’i osod ar You Tube yn ystod penwythnos y Pasg. Mae’n gân ingol, mae’n ein hatgoffa, pan fydd pethau’n mynd allan o reolaeth, ein bod ni i gyd yn tueddu i ail ystyried beth ydym ni wedi’i wneud a phendroni sut y gallen ni fod wedi’u gwneud yn wahanol. Mae yna hefyd ddimensiwn o Dduw, o alw ar y Tad a gofyn i bethau fod yn wahanol.

Wel, y newyddion da yw y gallai pethau fod yn wahanol. Gyda Duw, mae yna gyfle i ailddechrau bob amser. Dyma yw edifeirwch, sy’n codi ei ben yn eithaf aml yn neges yr ysgrythur. Roeddwn i’n ysgrifennu yr wythnos diwethaf fod Iesu o’n blaen ni, yn ein dyfodol, a bod Duw yn ein galw i edifeirwch a ffydd – i ddechrau eto – yn ein disgyblaeth, yn ein cymdeithas ac yn ein ffydd.

The first call to repentance comes with baptism, when we are called to put off the old, and put on the new clothes of God’s Kingdom. Anglicans choose, like many other Christians, to do this on behalf of their children, having them baptised so that they’re claimed for the Kingdom of God from the very earliest days of their lives, and it is not always followed through, although God often has a way of worming his love in. It took fifteen years for my baptismal faith to flare into life, and I still have to turn to Christ and start again from time to time. Repentance is a way of living, of bringing ourselves always back to God. “Grant me, O Lord, to make a real beginning this day, for what I have done so far is hardly anything.” was a prayer written by Thomas a Kempis, one of the great late mediaeval spiritual writers, and it is reflects in the writings of St Paul in scripture:

I want to know Christ and the power of His resurrection and the fellowship of His sufferings, being conformed to Him in His death, and so, somehow, to attain to the resurrection from the dead. Not that I have already obtained all this, or have already been made perfect, but I press on to take hold of that for which Christ Jesus took hold of me. Beloved, I do not consider myself yet to have laid hold of it. But one thing I do: Forgetting what is behind and straining toward what is ahead, I press on toward the goal to win the prize of God’s heavenly calling in Christ Jesus. All of us who are mature should embrace this point of view. (Phil.3.10-15)

Daw’r alwad gyntaf i edifeirwch gyda bedydd, pan fyddwn ni’n cael ein galw i ddiosg yr hen dillad a gwisgo rhai newydd, rhai Teyrnas Dduw. Mae Anglicanwyr yn dewis, fel llawer o Gristnogion eraill, gwneud hynny ar ran eu plant, yn eu bedyddio er mwyn iddyn nhw cael eu hawlio ar gyfer Teyrnas Duw o dyddiau cynharaf eu bywydau. Nid bod hyn yn datblygu’n ôl y disgwyl bob tro, er, yn aml, mae gan gan gariad Duw ffordd o dreiddio yn annisgwyl. Cymerodd bymtheg mlynedd i’m ffydd fedyddiol ddod yn fyw ac rwy’n dal yn gorfod troi at Grist a dechrau eto o dro i dro. Mae edifeirwch yn ffordd o fyw, o ddod â’n hunain yn ôl at Dduw pob tro. “Gad i mi, O Arglwydd, wneud dechreuad go iawn heddiw, oherwydd nid yw’r hyn rwyf wedi’i wneud hyd yma ond bron iawn ddim.” oedd y weddi a ysgrifennwyd gan Thomas a Kempis, un o’r ysgrifenwyr mawr ysbrydol yn niwedd y canol oesoedd, ac mae’n adlewyrchu ysgrifau Sant Paul yn yr ysgruthyr:

Fy nod yw ei adnabod ef, a grym ei atgyfodiad, a chymdeithas ei ddioddefiadau, wrth gael fy nghydffurfio â’i farwolaeth ef, er mwyn i mi, os yw’n bosibl, gyrraedd yr atgyfodiad oddi wrth y meirw. Nid fy mod eisoes wedi cael hyn, neu fy mod eisoes yn berffaith, ond yr wyf yn prysuro ymlaen, er mwyn meddiannu’r peth hwnnw y cefais innau er ei fwyn fy meddiannu gan Grist Iesu. Frodyr, nid wyf yn ystyried fy mod wedi ei feddiannu; ond un peth, gan anghofio’r hyn sydd o’r tu cefn ac ymestyn yn daer at yr hyn sydd o’r tu blaen, yr wyf yn cyflymu at y nod, i ennill y wobr y mae Duw yn fy ngalw i fyny ati yng Nghrist Iesu. Pob un ohonom, felly, sydd o nifer y rhai aeddfed, dyma sut y dylai feddwl. (Phil.3.10-15)

I want to write further about what repentance might mean for our society and for our Churches, but for now, let’s concentrate on where all change begins, with a change in the heart. Coronavirus has stopped our lives and our busyness. It has stopped our public rituals, whether they be our worship, our shopping, or our socialising. But we still have time to turn to God, and think about how to do our faith differently. If Jesus was calling us for the first time today, what would we want to differently? Could we start again please? May the Lord bless you with the opportunity to reset your own faith in this out-of-joint season,

Rwyf eisiau ysgrifennu ymhellach ynghylch beth allai edifeirwch ei olygu i’n cymdeithas ac i’n Heglwysi, ond am rŵan, gadewch i ni ganolbwyntio ar ble mae’r holl newid yn dechrau, gyda newid yn y galon. Mae Coronafeirws wedi stopio’n bywydau a’n prysurdeb. Mae wedi atal ein defodau cyhoeddus, yn ein haddoli, yn ein siopa neu yn ein cymdeithasu. Ond mae yna ddal amser i droi at Dduw ac i feddwl sut i wneud ein ffydd yn wahanol. Pe byddai Iesu’n ein galw am y tro cyntaf heddiw, beth fydden ni eisiau ei wneud yn wahanol? Gawn ni ddechrau eto plîs? Boed i’r Arglwydd eich bendithio gyda’r cyfle i ail osod eich ffydd eich hunain yn y tymor hwn sydd wedi mynd oddi ar ei echel.