How long, O Lord, how long? Am ba hyd, O Arglwydd, am ba hyd?
A Pastoral Letter to the Teulu Asaph from Bishop Gregory Wednesday, 27th May, 2020
Llythyr Bugeiliol at Deulu Asaph oddi wrth Esgob Gregory Dydd Mercher 27 Mai 2020.
One of the persistent features of Scripture is waiting. The people of Israel wait in Egypt for God to free them, they wait in the wilderness for the Promised Land, they wait for God to send the Messiah. In the book of Psalms, the psalmist often asks “How long, O Lord?” as in the title of this letter – taken from Psalm 6, but one reference among many. At the Ascension, Jesus instructs his disciples to wait afterwards until the coming of the Holy Spirit. So, with Ascension Day last Thursday, and Pentecost this coming Sunday, we too wait, in liturgical time, for the coming of the Spirit.
Un o nodweddion cyson yr Ysgrythur yw disgwyl. Pobl Israel yn disgwyl yn yr Aifft i Dduw eu rhyddhau, yn disgwyl yn yr anialwch am Wlad yr Addewid, yn disgwyl i Dduw anfon y Meseia. Yn llyfr y Salmau, mae’r salmydd yn gofyn yn aml “Am ba hyd o Arglwydd?” fel yn nheitl y llythyr hwn – o’r chweched Salm ond yn un o lawer yr un fath. Yn y Dyrchafael, mae Iesu’n gofyn i’w ddisgyblion ddisgwyl nes y daw’r Ysbryd Glan. Felly, a hithau’n Ddydd Iau Dyrchafael ddydd Iau diwethaf, ac yn Sulgwyn y Sul nesaf, rydyn ni hefyd yn disgwyl, am ddyfodiad yr Ysbryd.
The biggest wait of all, at the moment however, must be the wait for the end of lockdown. Britain took to the lockdown remarkably well, I think: I suppose we had the example of Italy and others ahead of us, and there was almost a stirring of the wartime spirit, especially as we also had VE75 Day to mark. “We will meet again” Her Majesty assured us, echoing Vera Lynn. Yet, in our prayers now, we’re probably beginning to join the psalmists, and wonder “How long?” The answers we pick up in the media do not inspire confidence. Even when the English government tells the schools that they can go back, there are many that don’t want them to, and we remain in a sort of indecision: we want to see the end of lockdown, but we aren’t quite sure that it is safe to go out yet.
Ond mae’n rhaid mai’r disgwyl mwyaf oll, ar hyn o bryd beth bynnag, yw disgwyl am ddiwedd y cyfnod clo. Derbyniodd gwledydd Prydain y cyfnod clo yn rhyfeddol o dda, rwy’n meddwl. Mae’n debyg ein bod ni’n gweld enghreifftiau’r Eidal a gwledydd eraill a oedd o’n blaenau, ac roedd yna bron atgof o naws adeg rhyfel, yn enwedig gan ein bod hefyd yn dathlu diwrnod VE75. “We will meet again” sicrhaodd Ei Mawrhydi ni, yng ngeiriau Vera Lynn. Eto, yn ein gweddïau ar hyn o bryd, mae’n debyg ein bod ni’n dechrau dweud fel y salmydd ac yn pendroni “Am ba hyd?” Dyw’r atebion sydd ar y cyfryngau ddim yn codi hyder. Hyd yn oed pan mae Llywodraeth Lloegr yn dweud y gall yr ysgolion ail agor, mae yna lawer sy’n gwrthod, ac rydyn ni’n dal mewn rhyw fath o amhendantrwydd: rydyn ni eisiau gweld cefn y cyfnod clo ond dydyn ni ddim yn ddigon siŵr a yw hi’n ddiogel i ni fentro allan.
The apostle Paul encouraged the early Christians who suffered for their faith, and who were waiting for the return of the Lord in glory. “We can take courage when under pressure,” he writes in Romans 5.3,4, “knowing that such pressures produce endurance. Endurance produces constancy, and constancy, hope. Hope will not disappoint us, because God’s love has been poured into our hearts through the gift of the Holy Spirit.” I understand this to mean, in other words, that God’s action comes first, and the fact that God’s love has been poured out upon us in Jesus and in the Holy Spirit, means that God is already at work in us, seeking to bring us through endurance to hope.
Roedd yr Apostol Paul yn annog y Cristnogion cynnar oedd yn dioddef dros eu ffydd ac a oedd yn disgwyl i’r Arglwydd dychwelyd mewn gogoniant. “Yr ydym hyd yn oed yn gorfoleddu yn ein gorthrymderau” mae’n dweud yn Rhufeiniaid 5.3,4 “oherwydd fe wyddom mai o orthrymder y daw’r gallu i ymddál, ac o’r gallu i ymddál y daw rhuddin cymeriad ac o gymeriad y daw gobaith. A dyma obaith na chawn ein siomi ganddo, oherwydd y mae cariad Duw eisoes wedi’i dywallt yn ein calonnau trwy’r Ysbryd Glân y mae ef wedi ei roi i ni.”. Rwy’n meddwl mai ystyr hyn, mewn geiriau eraill, yw mai gweithred Duw a ddaw gyntaf, a bod y ffaith fod cariad Duw wedi’u dywallt arnom ni yn Iesu a’r Ysbryd Glân yn golygu fod Duw eisoes ar waith yn ein plith, yn ceisio dod â ni, drwy orthrymder, at obaith.
In a strange way, the busyness of life and ministry before lockdown may have stopped us languishing. The empty days of lockdown have presented us with the space of opportunity: but we have to generate our own energy, and we find ourselves getting weary. Yet God seeks to transform this cycle. He wants to edge us out of self-reliance into a greater communion with him, to open us to the renewing of the Holy Spirit in order to guide us upwards in the journey of life. “I have arrived at the door,” says the risen Jesus in Revelation Chapter 3 (verse 20), “and I knock. If anyone hears my voice and opens the door, then I will come in to dine with them, and they with me.”
Yn rhyfedd iawn, efallai fod prysurdeb bywyd a’r weinidogaeth cyn y cyfnod clo wedi ein hatal rhag llesgau. Mae dyddiau gwag y cyfnod clod wedi rhoi lle a chyfle i ni: ond mae’n rhaid i ni gynhyrchu ein hegni ein hunain ac rydyn ni’n gweld ein hunain yn llesghau. Eto mae Duw yn ceisio trawsnewid y cylch hwn. Mae eisiau i ni symud yn araf allan o hunan ddibyniaeth i gymuno mwy ag ef, agor ein hunain i gael ein hadnewyddu gan yr Ysbryd Glân er mwyn ein cyfeirio uchod ar daith bywyd. “Wele yr wyf yn sefyll wrth y drws” meddai’r Iesu atgyfodedig yn nhrydedd bennod y Datguddiad (adnod 20) “ac yn curo; os clyw rhywun fy llais ac agor y drws, dof i mewn ato a swperaf gydag ef, ac yntau gyda minnau.”
I am interested that the living Jesus of the book of Revelation uses the imagery of the dinner party. ‘What shall we do when you let me in? We’re going to feast’ he seems to be saying. I’m sure that we have had the experience at some time of life of pushing the last guests out of the door after a party, and them saying “We’ve had a great time, thank you.” This is what time spent with God should feel like. Perhaps we should see the lockdown as some sort of pitstop, in which God wishes to refresh us, and nourish us with spiritual bread for the journey. Now I know that a Formula One pitstop is only 16 seconds at most, and lockdown will be a lot longer, but every moment used for spiritual refreshment can help us on our way.
Rwy’n codi fy nghlustiau pan glywaf yr Iesu byw o lyfr y Datguddiad yn defnyddio delwedd parti swper. Mae fel petae’n dweud ‘Beth wnawn ni pan fyddi’n fy ngadael i mewn? Byddwn yn gwledda. ” Rwy’ siŵr ein bod ni i gyd wedi cael profiad ryw dro yn ein bywyd a wthio’r rhai diwethaf i adael drwy’r drws ar ôl parti a hwythau’n dweud “Diolch i chi am amser gwych.” Dyma sut y dylai treulio amser gyda Duw deimlo. Efallai y dylen ni ystyried y cyfnod clo fel rhyw fath o fan aros, lle mae Duw yn ein hadnewyddu, yn ein bwydo gyda bara ysbrydol ar gyfer y daith. Ychydig o amser mae rhywun yn ei dreulio mewn man aros, bydd y cyfnod clo yn llawer hwy, ond gall pob eiliad sy’n cael ei defnyddio i’n hadnewyddu’n ysbrydol ein helpu ar ein taith.
Invest in the ways in which you find God refreshes you. It may be silent prayer, or reading the Bible, investing in those you love, or finding inspiration in art, or poetry or music or the garden. Goodness me, it might just be all of them.
Gwnewch y gorau o’r ffyrdd y mae Duw yn eich adnewyddu chi. Efallai drwy weddi ddistaw, drwy ddarllen y Beibl, drwy wneud eich gorau dros y rhai rydych yn eu caru neu gael ysbrydoliaeth mewn celf, barddoniaeth, cerddoriaeth neu’r ardd. Ac efallai, yn wir, ym mhob un.
These thoughts seem to be a tale of two halves. One the one side, the acknowledgement of the weariness that can fall on us; on the other the refreshment that God wants to offer. Keep the faith, dear friends. Seek new strength from God. Look for the joy. May God bless you richly,
Mae’r myfyrdodau hyn i’w gweld yn dod mewn dwy ran. Ar un ochr, y gydnabyddiaeth y gall llesgedd ein trechu, ar y llaw arall y lluniaeth y mae Duw eisiau ei gynnig i ni. Cadwch y ffydd, gyfeillion annwyl. Ceisiwch nerth newydd gan Dduw. Chwiliwch am lawenydd. Bydded i Dduw eich bendithio, yn hael.