Come, O Creator Spirit, come! Tyrd, O Ysbryd Creawdwr, tyrd!
A Pastoral Letter to the Teulu Asaph from Bishop Gregory Wednesday, 3rd June, 2020
Llythyr Bugeiliol at Deulu Asaph oddi wrth Esgob Gregory Dydd Mercher, 3rd Mehefin, 2020
The moment which always electrifies me in the Ordination service is when all the ritual drops away for a moment, and we join together in singing one of the most ancient hymns of the Church, the Veni Creator (Come, O creator Spirit, come, and make within our hearts your home. To us your grace eternal give, who of your being move and live.) Sung in plainsong chant, unaccompanied where possible, it seems to me that, after all the build up, and before we actually come to the ordinations, everything is stripped away, and we simply seek the merciful action of the Holy Spirit, who alone can give meaning and significance to all that we are doing in that service.
Yr eiliad sy’n fy ngwefreiddio bob tro mewn gwasanaeth Ordeinio yw pan fydd y ddefod yn diflannu am funud a phawb yn uno gyda’n gilydd i ganu un o emynau mwyaf hynafol yr Eglwys, y Veni Creator (Tyrd, Ysbryd Glân, Greadwdwr mawr, ymwêl â’th weision ar y llawr; Â’th ras cyflenwa oddi fry, galonnau’r rhai a greasit ti.) Wrth gael ei chanu mewn plaengan, yn ddigyfeiliant os bo’n bosibl, rwy’n gallu gweld ar ôl yr holl godi at yr uchafbwynt, a chyn i ni ddod at yr ordeiniadau mewn gwirionedd, fod popeth arall yn diflannu ac mai’r cyfan rydyn ni’n ei wneud yw gofyn am weithred drugarog yr Ysbryd Glân, yr unig un sy’n gallu rhoi ystyr ac arwyddocâd i bopeth rydym yn ei wneud yn y gwasanaeth hwnnw.Come, O Creator Spirit, come!
If the Father is immortal and infinite, beyond our grasp, and the earthly ministry of the Son two thousand years ago, yet the Holy Spirit is the unending gift of God to his people to be with us, alongside us. In the Gospel according to John, there are, in the same form as so many other passages, two extended reflections by Jesus on the ministry of the Holy Spirit in Chapters 14 and 16. The Spirit of God is named there as “paraclete”, a term, which in the Greek has the sense of “one called forth to be alongside”. The name is translated variously, as “advocate” or “counsellor”, and neither word does it full justice, for the paraclete draws alongside us, to act on our behalf to bring us into God’s presence. “We do not know what to pray,” says Paul, “but the Spirit himself pleads for us in yearnings that can find no words” (Romans 8.26)
Os yw’r Tad yn dragwyddol ac yn anfeidrol, y tu hwnt i’n gafael, a gweinidogaeth ddaearol y Mab ddwy fil o flynyddoedd yn ôl, mae’r Ysbryd Glân yn dal yn rhodd ddiddiwedd Duw i’w bobl i fod gyda ni, wrth ein hochr. Yn yr efengyl yn ôl Ioan, mae yna, ym Mhenodau 14 ac 16, yn yr un ffurf fel ag mewn cymaint o ddarnau eraill, ddau fyfyrdod estynedig gan Iesu ar weinidogaeth yr Ysbryd Glân. Gelwir Ysbryd Duw yno yn ‘”ddiddanydd” neu “eiriolwr” (paraclete), term yn y Groeg sy’n golygu ‘un wedi’i alw i fod wrth ochr”. Mae’r enw’n cael ei gyfieithu weithiau fel “eirolwr” neu “cynghorwr” ond nid yw’r un o’r ddau air yn gwneud cyfiawnder â’r enw, oherwydd mae’r paraclete yn dod wrth ein hochr, i weithredu ar ein rhan, i ddod â ni i bresenoldeb Duw. “Ni wyddom ni sut y dylem weddio, ond y mae’r Ysbryd ei hun yn ymbil trosom ag ocheneidiau y tu hwnt i eiriau” (Rhufeiniaid 8.26)
Pentecost is the fiftieth day after Easter, and it falls around the same time as the Jewish festival of Shavuot, as Easter falls around Passover. It is the day which the Bible records as the occasion when the disciples were transformed by God’s Spirit which was revealed as wind and fire, sending them out with courage and passion to proclaim the Resurrection. And the Spirit stays with us still. The Spirit’s work is promised in every Baptism, invoked in every prayer, and it is the Spirit who gives life to faith. I believe that the Spirit is at work in every situation to bring life out of death, light out of dark, love out of misery, hope out of despair. The Spirit whispers to us when we pray, and prompts us as we live out our discipleship. The Spirit is our advocate, because he makes us bold enough to seek God’s grace, and binds us into communion with the Father and the Son. St Augustine spoke of the Spirit as the Love that binds the Father and the Son, and who binds us into the life of God. The Spirit also seeks to guide us into the path of fullness of life. “If you wander off the road to the right or the left,” promises Isaiah (30.21), “you will hear his voice behind you saying, “Here is the way. Follow it.”
Y Sulgwyn yw’r hanner canfed diwrnod ar ôl y Pasg, sef tua’r un adeg â’r ŵyl Iddewig Shavuot, gan fod y Pasg tua’r un pryd â Gŵyl y Bara Croyw. Dyma’r diwrnod mae’r Beibl yn ei gofnodi fel y digwyddiad pan gafodd y disgyblion eu trawsnewid gan Ysbryd Duw, oedd yn cael ei ddatgelu fel gwynt a thân, yn eu hanfon allan gyda dewrder ac angerdd i gyhoeddi’r Atgyfodiad. Ac mae’r ysbryd yn aros gyda ni byth ers hynny. Mae gwaith yr Ysbryd yn cael ei addo ym mhob Bedydd, yn cael ei alw ym mhob gweddi a dyma’r Ysbryd sy’n rhoi bywyd i ffydd. Credaf fod yr Ysbryd yn gweithio ym mhob sefyllfa i ddod â bywyd allan o farwolaeth, goleuni allan o dywyllwch, cariad allan o drallod a gobaith allan o anobaith. Yr Ysbryd sy’n sibrwd wrthym wrth i ni weddïo ac sy’n ein procio wrth i ni fyw ein disgyblaeth. Yr Ysbryd yw ein heiriolwr, oherwydd mae’n ein gwneud yn ddigon beiddgar i chwilio am ras Duw ac yn ein clymu mewn cymundod â’r Tad a’r Mab. Soniodd St Awstin fod yr Ysbryd fel y Cariad sy’n clymu’r Tad a’r Mab ac sydd yn ein clymu ni wrth fywyd Duw. Mae’r Ysbryd hefyd yn ceisio ein harwain ar lwybr llawnder bywyd. “Pan fyddwch am droi i’r dde neu i’r chwith, fe glywch â’ch clustiau lais o’ch ôl yn dweud “Dyma’r ffordd. Rhodiwch ynddi.”
I believe that God’s voice does speak to us in our hearts, if we train ourselves to listen. “My mind is full of thoughts,” someone might say to me, “How can I know which of them is the Spirit?”, but that is where stillness helps, where learning to measure the voice of God through Scripture and prayer and worship and fellow Christians and the testimony of the Church through two thousand years assists us in correct discernment.
Credaf fod llais Duw yn siarad gyda ni yn ein calonnau, os byddwn yn ein hyfforddi’n hunain i wrando. Gallai rhywun ddweud wrthyf “Mae fy meddwl yn llawn meddyliau, sut allaf i wybod pa un ohonynt yw’r Ysbryd?” ond dyna ble mae llonyddwch yn helpu, mae dysgu mesur llais Duw trwy’r Ysgrythur a gweddi ac addoli a chyda ein cyd Gristnogion a thystiolaeth yr Eglwys trwy dwy fil o flynyddoedd, yn ein cynorthwyo ni i’w ddirnad.
Above all else, the Spirit seeks to encourage and embolden us. And the Spirit is Love. When we are prompted to care for our neighbour, that is the Spirit at work in us; when we feel compassion for the weak or the outsider, that is the Spirit leading us into Jesus’ example of love exercised for the sake of another.
Yn anad dim, mae’r Ysbryd yn ceisio ein hannog a’n gwroli. A Chariad yw’r Ysbryd. Pan fyddwn yn cael ein procio i ofalu am ein cymydog, yr Ysbryd sydd yn gweithio ynom ni; pan fyddwn yn teimlo tosturi dros y gwan neu’r dieithryn, yr Ysbryd sydd yn ein harwain at esiampl Iesu o gariad yn cael ei ymarfer er budd rhywun arall.
Let us allow the Spirit to make a home in us. Let us use Pentecost to seek him to change us and mould us. Let us invite him to lead and to shape the Teulu Asaph. Come, Holy Spirit, come!
Gadewch i ni ganiatáu i’r Ysbryd wneud ei gartref ynom ni. Gadewch i ni ddefnyddio’r Sulgwyn i ofyn iddio ein newid a’n ffurfio. Gadewch i ni ei wahodd i arwain ac i ffurfio Teulu Asaph. Tyrd, Ysbryd Sanctaidd, tyrd!