Cynhelir Gwasanaethau Dydd Sul o Fyfyrdod am 3pm ar 8fed, 15fed – Cymun Bendigaid, 22ain a 28ain Ionawr, yna lluniaeth yn y ganolfan.

Cynhelir Cymun Bendigaid am hanner dydd ar 5ed, 12fed – Gwasanaeth Myfyrdod, 19eg a 26 Ionawr, ac yna cinio a rennir yn y ganolfan.

Fe fydd gwasanaethau yn cael eu cynnal yn yr eglwys os yw’r tywydd yn fwyn neu yn y canol os fydd hi’n oer – cofiwch hefyd y gall tywydd gwlyp, gaeafol neu stormus achosi trafferthion wrth fynd i lawr y lôn yma yn ogystal â chyrchu’r band eang a’r ffôn.

Fodd bynnag, mae egin gwyrdd yn ymddangos yn yr ardd – mae’r Gwanwyn hefyd ar ei ffordd!

Llythyr Bugeiliol Mehefin 2021 (Cymraeg)

WYNEB YN WYNEB

At aelodau Teulu Asaph

Llythyr bugeiliol ar gyfer Mehefin 2021 oddi wrth Esgob Gregory

Mae yna gyffro mewn cychwyn cyfarfod pobl wyneb yn wyneb unwaith eto. Mae pobl rwy’n gyfarwydd â’u gweld ddim ond ar y sgrin, ac yn aml nid hyd yn oed hynny, yn sydyn yn gallu cyfarfod â mi unwaith eto. Rwyf wedi bod yn ymweld â’m rhieni yn eu cartref yn y De, er nad oeddwn i’n dal yn gallu eu cofleidio ar y pryd. Mae’n llawer cyfoethocach gallu bod ym mhresenoldeb y naill a’r llall, gallu gweld ymateb mewn osgo ac ystum y corff, mynegiant yr wyneb yn ogystal â’r gair llafar, heb fod trwy gyfrwng sgrin.

 

Mae Zoom – rhywbeth oeddwn i prin wedi clywed amdano ar ddechrau 2020 – wedi bod yn ddefnyddiol iawn, yn enwedig ar gyfer cyfarfodydd busnes, ac rwy’n amau y byddwn yn cadw at hynny. Ond, mae ein cyfarfodydd wedi dod yn fwy ffurfiol, heb lawer neu ddim o fân siarad, yn sicr heb gyfle i drafod yn anffurfiol bethau nad ydyn nhw ar y rhaglen, a dim ond cysgod o’r cyfeillgarwch a’r gefnogaeth arferol oedd i’w deimlo. Mae’n hen bryd adfer y cyfeillgarwch.

 

Hefyd, fe ddylai fod yna gynnwrf yn ein ffydd. Mae’r ffydd Gristnogol yn sôn am gyfarfyddiad personol, wyneb yn wyneb, gyda Duw, sy’n unigryw ym myd ffydd. “Yn awr, gweld mewn drych yr ydym, a hynny’n aneglur” meddai’r apostol Paul, “ond yna cawn weld wyneb yn wyneb”. (1 Corinthiaid 13.12). Mae’n sôn am ein hymddangosiad gerbron Duw ar ddiwedd amser, a’r daith tuag at Dduw mewn ffydd, ond nid y cyfarfyddiad olaf hwn yw’r unig gyfarfyddiad personol gyda Duw sy’n cael ei ddisgrifio yn y Testament Newydd. “Mewn llawer dull a llawer modd y llefarodd Duw gynt wrth y tadau” meddai awdur y Llythyr at yr Hebreaid, “ond yn y dyddiau olaf hyn llefarodd wrthym ni mewn Mab.” (Hebreaid 1.2) a gallwch deimlo’r cynnwrf yn y Llythyr Cyntaf oddi wrth Ioan, “Yr hyn oedd o’r dechreuad, yr hyn yr ydym wedi ei glywed, yr hyn yr ydym wedi ei weld â’n llygaid, yr hyn yr edrychasom arno, ac a deimlodd ein dwylo ynglŷn â gair y bywyd, dyma’r hyn yr ydym yn ei gyhoeddi. (1 Ioan 1.1). Mae Cristnogion yn credu mai yn Iesu, daeth Duw i’n plith, i gyffwrdd a chael ei gyffwrdd, i iachau ac i ryddhau, i achub ac i dystiolaethu i gariad. Rwy’n credu, drwy ras Duw yn unig, y byddaf yn gweld wyneb Duw un dydd, ond hyd yn oed yn awr, rwy’n gwybod fy mod yn cael fy ngalw i gyfarfod personol gydag ef yn fy nghalon – pan fydd Duw yn gweinidogaethu i mi, ac y gallaf innau osod beichiau fy nghalon ger ei fron. Rwy’n cael fy ngalw i fodd yn ffrind i Iesu – ac rydych chithau hefyd.

 

Yn wir, os oedd Iesu’n dweud y gwir, efallai y byddwn yn ei gyfarfod ym mhob man. “Yn gymaint i chi ei wneud i un o’r lleiaf o’r rhain” meddai Iesu wrth sôn am gariad hael “i mi y gwnaethoch” (Mathew 25.40). Os byddwn yn llawenhau dros ail ddechau cyfarfod wyneb yn wyneb, felly hefyd y dylem lawenhau dros yr addewid o gyfeillgarwch gyda Duw, sy’n cychwyn yn awr, hyd yn oed os na fydd yn dwyn ffrwyth yn llawn tan dragwyddoldeb.

 

Mewn gwirionedd, mae’n ymddangos efallai na fydd y cyfnod clo, hyd yn oed, yn diflannu’n llwyr am beth amser eto. Wrth i mi siarad, mae’r Prif Weinidog wedi datgan ei amheuaeth. Efallai nad 21 Mehefin fydd y dydd hwnnw wedi’r cyfan ac y bydd yr amrywiolyn delta’n achosi rhagor o oedi. Hyd yn oed wedyn, rwy’n amau na fydd ein dyddiaduron yn llenwi fel ers talwm – rwy’n clywed fy nghydweithwyr yn dal i fynegi amheuaeth ynghylch dychwelyd i addoli, trefnu cyfarfodydd personol, a’r cylch o gyfarfodydd pwyllgorau. Nid ar amrant y daw diwedd y cyfnod clo: “O’r diwedd, dyma ni’n ôl fel yr oedd hi o’r blaen”, ond yn ara deg, gyda’r un faint o ddewrder ag o ofal.

 

Fel cymdogion, ar ôl ffrae hir a chwerw, bydd yn rhaid i ni deimlo’n ffordd yn ôl i’r math o gydbwysedd o gysylltiad sy’n ein gwneud yn gyfforddus. Gadewch i ni weddïo, felly, dros drefnwyr cyfarfodydd a digwyddiadau, ac am rodd doethineb. Gweddïwn y bydd Duw’n ein helpu i fynd, nid yn rhy araf, nid yn rhy gyflym, gweddïwn y bydd gwybodaeth feddygol a gwyddor imiwneiddio yn dal i fyny gyda’r feirws cyfnewidiol, a gweddïwn, ar bob cam, y bydd y perthynasau rydym ni’n eu hailadeiladu yn gyforiog o deimlad dyfnach o ffydd, gobaith a chariad a fydd yn ein galluogi i weld wyneb Crist mewn cyfaill a gelyn, mewn cymydog ac mewn cydweithiwr, mewn dieithryn ac yn yr un ar y cyrion.