CORONAVIRUS – COVID19 FURTHER PASTORAL GUIDANCE CORONAFIRWS – COVID19 CANLLAWIAU BUGEILIOL PELLACH

CORONAVIRUS – COVID19
FURTHER PASTORAL GUIDANCE
FROM THE BENCH OF BISHOPS OF THE CHURCH IN WALES
EFFECTIVE UNTIL FURTHER NOTICE
Updated guidance
Since our pastoral guidance dated 24 March was distributed, the Government’s guidance on social distancing
and staying at home has been codified into law. The Health Protection (Coronavirus Restrictions) (Wales)
Regulations 2020 contain many wide-ranging provisions, including legal confirmation that our places of
worship must remain closed to the public. In light of the Welsh Government Regulations, we have made
some minor amendments to our pastoral guidance, and this document contains the up-to-date version.
Church buildings
All church buildings remain closed until further notice. This means churches must not be open for public
worship or solitary prayer.
Worship has been recorded and broadcast both commendably and effectively from parsonages over recent
days. Whilst the Welsh Government Regulations now permit a cleric to record or broadcast a service
(without a congregation) from church buildings, the desirability and advisability of doing so will vary between
different contexts. Individual Bishops will advise further on this matter within their respective dioceses and
any such events should be held only in strict accordance with those diocesan guidelines, or with the explicit
permission of the diocesan Bishop.
The Welsh Government Regulations also permit clergy to visit their churches, and for other church officers
and volunteers to visit churches only to undertake a voluntary or charitable duty, where it is not reasonably
practicable to undertake that duty from home. It is therefore possible for essential and urgent site
inspections to be undertaken by clerics, or by another person nominated by the Incumbent, Ministry/Mission
Area Leader, Area Dean or Archdeacon. We ask that such visits are kept to an absolute minimum.
The use of church buildings for essential voluntary services (such as existing foodbanks, soup kitchens and
homeless shelters) is permitted by the Welsh Government Regulations. Church buildings may also, upon the
request of the Welsh Ministers or a local authority, be used to provide urgent public services. All reasonable
measures should be taken to ensure that social distancing practices and other hygiene precautions are
followed while those services are provided. Any new use of a church building for essential voluntary / public
services should be expressly supported by the incumbent or Area Dean and the diocesan bishop.
Further guidance on the care and use of church buildings is being issued by the officers of the Representative
Body.
Pastoral visiting
Clergy and others duly licensed or commissioned should exercise their ordinary pastoral ministry from a
distance, by phone and online. Pastoral visits should only be undertaken where essential; such visits should
generally be to the doorstep and social distancing measures must be scrupulously observed. Individual
Bishops may issue more detailed advice to their clergy on what they consider to be ‘essential’ visits and may
be consulted by clergy in any cases of doubt.
Funerals
Funeral services should not take place in churches at the current time. In this case, we are going a step
further than legally required, but we believe that the wellbeing of mourners, ministers and other church
officers are best served by this additional precaution. Graveside funerals may continue but should now be
understood to be private funerals with no more than ten immediate family and friends in attendance, and
with social distancing practised among mourners not of the same household. Clergy and others duly licensed
may preside at funerals in crematoria, at which we expect numbers to be strictly limited by the crematoria
authorities, with hygiene precautions specified by the authorities, and with social distancing practised among
mourners.
Marriage
Marriages and marriage blessings can no longer take place in churches. If a couple wish to marry because of
an extreme pastoral emergency, it may be possible to obtain an Archbishop of Canterbury’s Special Licence
for a wedding outside of a church, and clergy should discuss the matter with their diocesan bishop before
then contacting the Archbishop of Canterbury’s Faculty Office at faculty.office@1thesanctuary.com.
Baptism
Baptisms can no longer take place in churches, and should only take place at home, hospital, hospice or other
location in case of an extreme pastoral emergency, where baptism may be administered by a lay person. The
order for emergency baptism is appended below.
Prayer and witness
The duty of the people of God to witness to Christ is not diminished at this time; neither is our obligation
to pray without ceasing for our communities and all in need. We commend all that is being done in God’s
service to care pastorally for our communities, and to enable worship, prayer and devotion to continue at
home.
We continue to hold all who are anxious, all who are unwell, and all who are grieving in our prayers, asking
that the presence of the risen Christ may be near to us all and give us assurance, peace and strength at this
painful and anxious time.
AN ORDER FOR EMERGENCY BAPTISM
In an emergency, if no ordained minister is available, a lay person may be the minister of baptism. Before baptizing,
the minister should ask the name of the infant / person to be baptized. If, for any reason, there is uncertainty as to
the infant / person’s name, the baptism can be properly administered without a name (so long as the identity of the
person baptized can be duly recorded).
The following form is sufficient:
The minister pours water on the person to be baptized, saying
I baptize you in the Name of the Father, and of the Son, and of the Holy Spirit.
Amen.
Then all may say the Lord’s Prayer and the Grace.
Any person who has administered baptism privately in an emergency should make a careful record of the date and
place of baptism and of the identity of the person baptised. He / she should forward details to the parish priest as
soon as possible and without delay.
The parish priest should ensure that the customary record is entered in the baptismal register.
The Bench of Bishops
31 March 2020
CORONAFIRWS – COVID19
CANLLAWIAU BUGEILIOL PELLACH
ODDI WRTH FAINC ESGOBION YR EGLWYS YNG NGHYMRU
MEWN GRYM NES CLYWIR YN WAHANOL
Canllawiau wedi’u diweddaru
Ers dosbarthu’n canllawiau bugeiliol sy’n ddyddiedig 24 Mawrth, mae canllawiau’r Llywodraeth ar bellhau
cymdeithasol ac aros gartref wedi eu mynegi’n gyfreithiol. Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau
Coronafirws) (Cymru) 2020 yn cynnwys nifer o ddarpariaethau eang, gan gynnwys cadarnhad cyfreithiol bod
yn rhaid i’n haddoldai aros ar gau i’r cyhoedd. Yng ngoleuni Rheoliadau Llywodraeth Cymru, rydym wedi
gwneud rhai mân newidiadau i’n canllawiau bugeiliol, a’r ddogfen hon yw’r fersiwn gyfredol.
Adeiladau eglwysig
Mae pob adeilad eglwysig yn parhau i fod ar gau nes bydd rhybudd pellach. Mae hyn yn golygu na ddylai
eglwysi fod yn agored ar gyfer addoliad cyhoeddus nac ar gyfer gweddi bersonol.
Bu i addoliad clodwiw ac effeithiol gael ei recordio a’i ddarlledu o bersondai dros y dyddiau diwethaf. Tra bo
Rheoliadau Llywodraeth Cymru yn awr yn caniatáu i glerig recordio neu ddarlledu gwasanaeth (heb
gynulleidfa) o adeiladau eglwysig, bydd dymunoldeb a doethineb gwneud hynny yn amrywio rhwng gwahanol
gyd-destunau. Bydd Esgobion unigol yn cynghori ymhellach ar y mater hwn yn eu priod esgobaethau a dylid
cynnal unrhyw ddigwyddiadau o’r fath yn unol yn llwyr â’r canllawiau esgobaethol hynny, neu gyda chaniatâd
penodol yr Esgob cadeiriol.
Mae Rheoliadau Llywodraeth Cymru hefyd yn caniatáu i glerigion ymweld â’u heglwysi, ac i swyddogion a
gwirfoddolwyr eglwysig eraill ymweld ag eglwysi i gyflawni dyletswydd wirfoddol neu elusennol yn unig, lle
nad yw’n rhesymol ymarferol cyflawni’r ddyletswydd honno gartref. Felly mae’n bosibl i glerigion, neu berson
arall a enwebwyd gan y Periglor, Arweinydd yr Ardal Weinidogaeth/Genhadaeth, Deon Bro neu
Archddiacon, gynnal archwiliadau safle hanfodol a phan fo’u dwys angen. Gofynnwn i ymweliadau o’r fath
ddigwydd mor anaml ag a ellir.
Mae Rheoliadau Llywodraeth Cymru yn caniatáu defnyddio adeiladau eglwysig ar gyfer gwasanaethau
gwirfoddol hanfodol (megis y banciau bwyd, ceginau cawl a llochesi i’r digartref sydd eisioes yn cael eu cynnal).
Gellir hefyd defnyddio adeiladau eglwysig, ar gais Gweinidogion Cymru neu awdurdod lleol, i ddarparu
gwasanaethau cyhoeddus brys. Dylid cymryd pob mesur rhesymol i sicrhau bod arferion pellhau cymdeithasol
a rhagofalon hylendid eraill yn cael eu dilyn wrth i’r gwasanaethau hynny gael eu darparu. Dylai unrhyw
ddefnydd newydd o adeilad eglwysig ar gyfer gwasanaethau gwirfoddol / cyhoeddus hanfodol gael ei gefnogi’n
benodol gan y periglor neu’r Deon Bro a’r esgob cadeiriol.
Mae swyddogion Corff y Cynrychiolwyr yn cyhoeddi arweiniad pellach ar ofal a’r defnydd o adeiladau
eglwysig.
Ymweld bugeiliol
Dylai clerigion ac eraill sydd wedi’u trwyddedu neu eu comisiynu’n briodol arfer eu gweinidogaeth fugeiliol
arferol o bell, dros y ffôn ac ar-lein. Dim ond pan fo’n hanfodol y dylid cynnal ymweliadau bugeiliol; yn
gyffredinol dylai ymweliadau o’r fath fod at stepen y drws a rhaid cadw’n llym at fesurau pellhau cymdeithasol.
Gall Esgobion unigol gyhoeddi cyngor manylach i’w clerigion ar yr hyn y maent yn ei ystyried yn ymweliadau
‘hanfodol’ a gall clerigion ymgynghori â hwy pan fo amheuaeth.
Angladdau
Ni all gwasanaethau angladd gymryd lle mewn eglwysi ar hyn o bryd. Yn yr achos hwn, rydym yn mynd gam
ymhellach na’r hyn sy’n ofynnol yn gyfreithiol, ond credwn dyma’r rhagofal ychwanegol hwn yw’r ffordd orau
o amddiffyn lles galarwyr, gweinidogion a swyddogion eglwysig. Erbyn hyn dylai angladdau wrth lan y bedd
fod yn angladdau sydd fwy neu lai yn breifat gyda dim mwy na deg aelod o’r teulu agos neu ffrindiau yn
bresennol, a gyda phellter cymdeithasol yn cael ei arfer ymhlith galarwyr nad ydynt o’r un aelwyd. Gall
clerigion ac eraill sydd â thrwydded briodol lywyddu mewn angladdau mewn amlosgfeydd, lle rydym yn
disgwyl y bydd niferoedd yn cael eu cyfyngu’n llym gan awdurdodau’r amlosgfeydd, gyda rhagofalon hylendid
wedi’u nodi gan yr awdurdodau, a gyda phellter cymdeithasol yn cael ei arfer ymhlith galarwyr.
Priodas
Ni all priodasau na bendithio priodsas ddigwydd mewn eglwysi mwyach. Os yw cwpl yn dymuno priodi
oherwydd argyfwng bugeiliol eithafol, efallai y bydd yn bosibl cael Trwydded Arbennig Archesgob Caergaint
ar gyfer priodas y tu hwnt i’r eglwys, a dylai clerigion drafod y mater gyda’u hesgob cadeiriol cyn cysylltu â
Swyddfa Hawleb Archesgob Caergaint ar faculty.office@1thesanctuary.com.
Bedydd
Ni all bedyddiadau ddigwydd mwyach mewn eglwysi, a dim ond gartref a mewn ysbyty, hosbis neu leoliad
arall y dylid eu cynnal mewn argyfwng bugeiliol eithafol, lle gall bedydd gael ei weinyddu gan berson lleyg.
Mae’r drefn ar gyfer bedydd mewn argyfwng wedi’i atodi isod.
Gweddïo a thystiolaethu
Nid yw dyletswydd pobl Dduw i dystiolaethu i Grist wedi ei leihau un dim, na’r alwad ddwyfol i weddïo’n
ddi-baid dros ein cymunedau a phawb mewn angen. Rydym yn cymeradwyo popeth sy’n cael ei wneud yng
ngwasanaeth Duw i ofalu’n fugeiliol dros ein cymunedau, ac i alluogi addoliad, gweddi a defosiwn i barhau ar
yr aelwyd.
Rydym yn parhau i gynnal yn ein gweddïau bawb sy’n bryderus, pawb sy’n sâl, a phawb sy’n galaru, gan erfyn
ar i bresenoldeb y Crist atgyfodedig fod wastad gerllaw, yn rhoi inni fendithion sicrwydd, tangnefedd a nerth
yn y dyddiau poenus a phryderus hyn.
BEDYDDIO MEWN ARGYFWNG
Mewn argyfwng, onid oes gweinidog ordeiniedig ar gael, gall person lleyg weinyddu bedydd. Cyn bedyddio, dylai’r
gweinidog ofyn am enw’r plentyn / person sydd i’w fedyddio. Os oes amheuaeth, am ba reswm bynnag, ynglŷn â’r
enw, gellir gweinyddu’r bedydd heb enw (ar yr amod y gellir cofnodi’n gywir pwy yn union a fedyddiwyd).
Y mae’r ffurf a ganlyn yn ddigonol:
Y mae’r gweinidog yn tywallt dŵr ar y sawl sydd i’w fedyddio, gan ddweud
Yr wyf yn dy fedyddio di yn Enw’r Tad a’r Mab a’r Ysbryd Glân.
Amen.
Yna gall pawb ddweud Gweddi’r Arglwydd a’r Gras.
Rhaid i bwy bynnag a weinyddodd fedydd preifat mewn argyfwng wneud cofnod gofalus o ddyddiad a lleoliad y bedydd
ac o’r y person a fedyddiwyd. Dylid anfon y manylion at offeiriad y plwyf yn ddi-oed.
Cofnodir y bedydd yng nghofrestr y bedyddiadau yn y modd arferol.
Mainc yr Esgobion
31 Mawrth 2020