Coronavirus

CORONAVIRUS – COVID19 CORONAFIRWS – COVID19

FURTHER PASTORAL GUIDANCE FROM THE BENCH OF BISHOPS OF THE CHURCH IN WALES

CANLLAWIAU BUGEILIOL PELLACH ODDI WRTH FAINC ESGOBION YR EGLWYS YNG NGHYMRU

EFFECTIVE UNTIL FURTHER NOTICE MEWN GRYM NES CLYWIR YN WAHANOL

Updated guidance

Since our pastoral guidance dated 31 March was distributed, Welsh Government Regulations regarding funerals have been amended. In light of this, we have also amended the “Funerals” section of our pastoral guidance, and this document contains the up-to-date version.

Canllawiau wedi’u diweddaru

Ers dosbarthu’n canllawiau bugeiliol sy’n ddyddiedig 31 Mawrth, mae Rheoliadau Llywodraeth Cymru ynghylch angladdau wedi cael eu diwygio. Yn sgil hyn, rydym ninnau hefyd wedi diwygio adran “Angladdau” ein canllaw bugeiliol, a’r ddogfen hon yw’r fersiwn gyfredol.

Church buildings

All church buildings remain closed until further notice. This means churches must not be open for public worship or solitary prayer.

Adeiladau eglwysig

Mae pob adeilad eglwysig yn parhau i fod ar gau nes bydd rhybudd pellach. Mae hyn yn golygu na ddylai eglwysi fod yn agored ar gyfer addoliad cyhoeddus nac ar gyfer gweddi bersonol.

Worship has been recorded and broadcast both commendably and effectively from parsonages over recent days. Whilst the Welsh Government Regulations now permit a cleric to record or broadcast a service (without a congregation) from church buildings, the desirability and advisability of doing so will vary between different contexts. Individual Bishops will advise further on this matter within their respective dioceses and any such events should be held only in strict accordance with those diocesan guidelines, or with the explicit permission of the diocesan Bishop.

Bu i addoliad clodwiw ac effeithiol gael ei recordio a’i ddarlledu o bersondai dros y dyddiau diwethaf. Tra bo Rheoliadau Llywodraeth Cymru yn awr yn caniatáu i glerig recordio neu ddarlledu gwasanaeth (heb gynulleidfa) o adeiladau eglwysig, bydd dymunoldeb a doethineb gwneud hynny yn amrywio rhwng gwahanol gyd-destunau. Bydd Esgobion unigol yn cynghori ymhellach ar y mater hwn yn eu priod esgobaethau a dylid cynnal unrhyw ddigwyddiadau o’r fath yn unol yn llwyr â’r canllawiau esgobaethol hynny, neu gyda chaniatâd penodol yr Esgob cadeiriol.

The Welsh Government Regulations also permit clergy to visit their churches, and for other church officers and volunteers to visit churches only to undertake a voluntary or charitable duty, where it is not reasonably practicable to undertake that duty from home. It is therefore possible for essential and urgent site inspections to be undertaken by clerics, or by another person nominated by the Incumbent, Ministry/Mission Area Leader, Area Dean or Archdeacon. We ask that such visits are kept to an absolute minimum.

Mae Rheoliadau Llywodraeth Cymru hefyd yn caniatáu i glerigion ymweld â’u heglwysi, ac i swyddogion a gwirfoddolwyr eglwysig eraill ymweld ag eglwysi i gyflawni dyletswydd wirfoddol neu elusennol yn unig, lle nad yw’n rhesymol ymarferol cyflawni’r ddyletswydd honno gartref. Felly mae’n bosibl i glerigion, neu berson arall a enwebwyd gan y Periglor, Arweinydd yr Ardal Weinidogaeth/Genhadaeth, Deon Bro neu Archddiacon, gynnal archwiliadau safle hanfodol a phan fo’u dwys angen. Gofynnwn i ymweliadau o’r fath ddigwydd mor anaml ag a ellir.

The use of church buildings for essential voluntary services (such as existing foodbanks, soup kitchens and homeless shelters) is permitted by the Welsh Government Regulations. Church buildings may also, upon the request of the Welsh Ministers or a local authority, be used to provide urgent public services. All reasonable measures should be taken to ensure that social distancing practices and other hygiene precautions are followed while those services are provided. Any new use of a church building for essential voluntary / public services should be expressly supported by the incumbent or Area Dean and the diocesan bishop.

Mae Rheoliadau Llywodraeth Cymru yn caniatáu defnyddio adeiladau eglwysig ar gyfer gwasanaethau gwirfoddol hanfodol (megis y banciau bwyd, ceginau cawl a llochesi i’r digartref sydd eisioes yn cael eu cynnal). Gellir hefyd defnyddio adeiladau eglwysig, ar gais Gweinidogion Cymru neu awdurdod lleol, i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus brys. Dylid cymryd pob mesur rhesymol i sicrhau bod arferion pellhau cymdeithasol a rhagofalon hylendid eraill yn cael eu dilyn wrth i’r gwasanaethau hynny gael eu darparu. Dylai unrhyw ddefnydd newydd o adeilad eglwysig ar gyfer gwasanaethau gwirfoddol / cyhoeddus hanfodol gael ei gefnogi’n benodol gan y periglor neu’r Deon Bro a’r esgob cadeiriol.

Further guidance on the care and use of church buildings is being issued by the officers of the Representative Body.

Mae swyddogion Corff y Cynrychiolwyr yn cyhoeddi arweiniad pellach ar ofal a’r defnydd o adeiladau eglwysig.

Pastoral visiting

Clergy and others duly licensed or commissioned should exercise their ordinary pastoral ministry from a distance, by phone and online. Pastoral visits should only be undertaken where essential; such visits should generally be to the doorstep and social distancing measures must be scrupulously observed. Individual Bishops may issue more detailed advice to their clergy on what they consider to be ‘essential’ visits and may be consulted by clergy in any cases of doubt.

Ymweld bugeiliol

Dylai clerigion ac eraill sydd wedi’u trwyddedu neu eu comisiynu’n briodol arfer eu gweinidogaeth fugeiliol arferol o bell, dros y ffôn ac ar-lein. Dim ond pan fo’n hanfodol y dylid cynnal ymweliadau bugeiliol; yn gyffredinol dylai ymweliadau o’r fath fod at stepen y drws a rhaid cadw’n llym at fesurau pellhau cymdeithasol. Gall Esgobion unigol gyhoeddi cyngor manylach i’w clerigion ar yr hyn y maent yn ei ystyried yn ymweliadau ‘hanfodol’ a gall clerigion ymgynghori â hwy pan fo amheuaeth.

Funerals

Funeral services should not take place in churches at the current time. In this case, we are going a step further than legally required, but we believe that the wellbeing of mourners, ministers and other church officers is best served by this additional precaution.

Angladdau

Ni all gwasanaethau angladd gymryd lle mewn eglwysi ar hyn o bryd. Yn yr achos hwn, rydym yn mynd gam ymhellach na’r hyn sy’n ofynnol yn gyfreithiol, ond credwn mai’r rhagofal ychwanegol hwn yw’r ffordd orau o amddiffyn lles galarwyr, gweinidogion a swyddogion eglwysig.

Funeral services at the graveside may continue. Clergy and others duly licensed may also preside at funerals in crematoria. However, the Bishops strongly urge ministers who fall into any of the UK Government’s categorisations of persons at increased risk of severe illness from coronavirus not to undertake such ministry personally, and to delegate to colleagues instead. The full list of such categories is available here.

Gall gwasanaethau angladd ar lan y bedd barhau i gymryd lle. Gall clerigion ac eraill sydd â thrwydded briodol hefyd lywyddu mewn angladdau mewn amlosgfeydd. Fodd bynnag, mae’r Esgobion yn annog yn gryf na ddylai gweinidogion sy’n perthyn i unrhyw un o ddosbarthiadau Llywodraeth y DU o bobl sydd mewn mwy o berygl o salwch difrifol yn sgil y coronafirws ymgymryd â gweinidogaeth o’r fath ar hyn o bryd, gan yn hytrach ei dirprwyo i gydweithwyr. Mae rhestr lawn o’r dosbarthiadau hyn ar gael yma.

In accordance with the most recent Welsh Government Regulations, attendance at these funerals must now by limited to the person responsible for arranging the funeral and a small number of mourners (who may be accompanied by a carer if necessary) invited to attend by the person responsible for arranging the funeral. Our view remains that for funerals at the graveside the ‘small number’ should not exceed ten. Everyone attending a funeral must take all reasonable measures to stay two metres away from someone not of their household.

Yn unol â Rheoliadau diweddaraf Llywodraeth Cymru, rhaid cyfyngu presenoldeb yn yr angladdau hyn i’r person sy’n gyfrifol am drefnu’r angladd a nifer fach o alarwyr (a all fod yng nghwmni gofalydd os oes angen) sydd wedi eu gwahodd gan y person sy’n gyfrifol am drefnu’r angladd. Ein barn ni o hyd yw na ddylai’r ‘nifer fach’ mewn angladdau ar lan y bedd fod yn fwy na deg. Rhaid i bawb sy’n mynychu angladd gymryd pob mesur rhesymol i aros oleiaf dau fetr i ffwrdd oddi wrth rywun nad yw o’u haelwyd hwy.

We encourage clergy to communicate carefully with funeral directors, and to confirm that the funeral director will assume responsibility for compliance with the Regulations, including inviting mourners to be present and ensuring that social distancing measures are observed. The funeral should be kept brief, omitting optional parts of the funeral service.

Rydym yn annog clerigion i gyfathrebu’n ofalus â threfnyddion angladdau, ac i gadarnhau y bydd y trefnydd angladdau yn arddel y cyfrifoldeb o gydymffurfio â’r Rheoliadau, gan gynnwys gwahodd galarwyr i fod yn bresennol a sicrhau bod mesurau pellhau cymdeithasol yn cael eu dilyn. Dylai’r angladd fod yn fyr, gan hepgor rhannau dewisol o’r gwasanaeth angladd.

The Church in Wales permits fees due under Welsh Church (Burial Grounds) Act 1945 to be waived in exceptional circumstances. We are sure that clergy will be sensitive to the current circumstances, and clergy are reminded that they are permitted to waive their ministry fees if they consider it appropriate to do so.

Mae’r Eglwys yng Nghymru yn caniatáu hepgor, mewn amgylchiadau eithriadol, y ffioedd sy’n ddyledus o dan Ddeddf Eglwys Cymru (Claddfeydd) 1945. Rydym yn sicr y bydd clerigion yn sensitif i’r amgylchiadau presennol, ac atgoffir clerigion y caniateir iddynt hepgor eu ffioedd gweinidogaeth os ydynt o’r farn ei bod yn briodol gwneud hynny.

It is likely that Welsh Government Regulations regarding funerals will be further amended over coming weeks, in which case our guidance will be reviewed and amended. In due course we will issue guidance on services of remembrance for use once we are able to return to our church buildings.

Mae’n debygol y bydd Rheoliadau Llywodraeth Cymru ynghylch angladdau yn cael eu diwygio ymhellach dros yr wythnosau nesaf, ac os felly bydd ein canllawiau yn cael eu hadolygu a’u diwygio. Maes o law byddwn yn cyhoeddi canllawiau ar wasanaethau coffa i’w defnyddio unwaith y byddwn yn gallu dychwelyd i’n hadeiladau eglwysig.

Marriage

Marriages and marriage blessings can no longer take place in churches. If a couple wish to marry because of an extreme pastoral emergency, it may be possible to obtain an Archbishop of Canterbury’s Special Licence for a wedding outside of a church, and clergy should discuss the matter with their diocesan bishop before then contacting the Archbishop of Canterbury’s Faculty Office at faculty.office@1thesanctuary.com.

Priodas

Ni all priodasau na bendithio priodsas ddigwydd mewn eglwysi mwyach. Os yw cwpl yn dymuno priodi oherwydd argyfwng bugeiliol eithafol, efallai y bydd yn bosibl cael Trwydded Arbennig Archesgob Caergaint ar gyfer priodas y tu hwnt i’r eglwys, a dylai clerigion drafod y mater gyda’u hesgob cadeiriol cyn cysylltu â Swyddfa Hawleb Archesgob Caergaint ar faculty.office@1thesanctuary.com.

Baptism

Baptisms can no longer take place in churches, and should only take place at home, hospital, hospice or other location in case of an extreme pastoral emergency, where baptism may be administered by a lay person. The order for emergency baptism is appended below.

Bedydd

Ni all bedyddiadau ddigwydd mwyach mewn eglwysi, a dim ond gartref a mewn ysbyty, hosbis neu leoliad arall y dylid eu cynnal mewn argyfwng bugeiliol eithafol, lle gall bedydd gael ei weinyddu gan berson lleyg. Mae’r drefn ar gyfer bedydd mewn argyfwng wedi’i atodi isod.

Prayer and witness

The duty of the people of God to witness to Christ is not diminished at this time; neither is our obligation to pray without ceasing for our communities and all in need. We commend all that is being done in God’s service to care pastorally for our communities, and to enable worship, prayer and devotion to continue at home.

Gweddïo a thystiolaethu

Nid yw dyletswydd pobl Dduw i dystiolaethu i Grist wedi ei leihau un dim, na’r alwad ddwyfol i weddïo’n ddi-baid dros ein cymunedau a phawb mewn angen. Rydym yn cymeradwyo popeth sy’n cael ei wneud yng ngwasanaeth Duw i ofalu’n fugeiliol dros ein cymunedau, ac i alluogi addoliad, gweddi a defosiwn i barhau ar yr aelwyd.

We continue to hold all who are anxious, all who are unwell, and all who are grieving in our prayers, asking that the presence of the risen Christ may be near to us all and give us assurance, peace and strength at this painful and anxious time.

Rydym yn parhau i gynnal yn ein gweddïau bawb sy’n bryderus, pawb sy’n sâl, a phawb sy’n galaru, gan erfyn ar i bresenoldeb y Crist atgyfodedig fod wastad gerllaw, yn rhoi inni fendithion sicrwydd, tangnefedd a nerth yn y dyddiau poenus a phryderus hyn.

AN ORDER FOR EMERGENCY BAPTISM

In an emergency, if no ordained minister is available, a lay person may be the minister of baptism. Before baptizing, the minister should ask the name of the infant / person to be baptized. If, for any reason, there is uncertainty as to the infant / person’s name, the baptism can be properly administered without a name (so long as the identity of the person baptized can be duly recorded).

The following form is sufficient:

The minister pours water on the person to be baptized, saying

I baptize you in the Name of the Father, and of the Son, and of the Holy Spirit.

Amen.

Then all may say the Lord’s Prayer and the Grace.

BEDYDDIO MEWN ARGYFWNG

Mewn argyfwng, onid oes gweinidog ordeiniedig ar gael, gall person lleyg weinyddu bedydd. Cyn bedyddio, dylai’r gweinidog ofyn am enw’r plentyn / person sydd i’w fedyddio. Os oes amheuaeth, am ba reswm bynnag, ynglŷn â’r enw, gellir gweinyddu’r bedydd heb enw (ar yr amod y gellir cofnodi’n gywir pwy yn union a fedyddiwyd).

Y mae’r ffurf a ganlyn yn ddigonol:

Y mae’r gweinidog yn tywallt dŵr ar y sawl sydd i’w fedyddio, gan ddweud

Yr wyf yn dy fedyddio di yn Enw’r Tad a’r Mab a’r Ysbryd Glân.

Amen.

Yna gall pawb ddweud Gweddi’r Arglwydd a’r Gras.

Any person who has administered baptism privately in an emergency should make a careful record of the date and place of baptism and of the identity of the person baptised. He / she should forward details to the parish priest as soon as possible and without delay.

The parish priest should ensure that the customary record is entered in the baptismal register.

Rhaid i bwy bynnag a weinyddodd fedydd preifat mewn argyfwng wneud cofnod gofalus o ddyddiad a lleoliad y bedydd ac o’r y person a fedyddiwyd. Dylid anfon y manylion at offeiriad y plwyf yn ddi-oed.

Cofnodir y bedydd yng nghofrestr y bedyddiadau yn y modd arferol.

The Bench of Bishops Mainc yr Esgobion

Maundy Thursday, 9 April 2020 Dydd Iau Cablyd, 9 Ebrill 2020