A PASTORAL LETTER FROM BISHOP GREGORY LLYTHYR BUGEILIOL ODDI WRTH ESGOB GREGORY

ON THE FEAST DAY OF CATHERINE OF SIENA, 29th April 2020

AR DDYDD GŴYL CATRIN O SIENA, 29 EBRILL 2020

“I am going fishing” said Simon Peter.

“We will go with you”, [the other disciples] replied.” (John 21.3)

After all that had happened – three years of ministry with Jesus, the tumultuous events at Jerusalem, the betrayal of Jesus, the trials, the crucifixion, the tomb, the empty tomb, the resurrection appearances – at the end of it all, Peter says that he cannot think of anything better to do than to go fishing.

The story comes right at the end of the Gospel according to John, and Peter basically decides to go back to his old ways. It feels almost as if he’s said, “Right, that was exciting, but back to normality now everyone.” And we know what is going to happen in the story: the most life changing episode for Peter of all is just around the corner. (I’m not going to tell you; if you don’t know, go and read Chapter 21 of John’s Gospel.)

 “Rwy’n mynd i bysgota” meddai Simon Pedr.

“Rydym ninnau yn dod gyda thi”, atebodd [y disgyblion eraill].” (Ioan 21.3)

r ôl popeth oedd wedi digwydd – tair blynedd o weinidogaeth gydag Iesu, y digwyddiadau terfysglyd yn Jerwsalem, bradychu Iesu, y treial, y croeshoeliad, y bedd, y bedd gwag, ymddangosiadau’r atgyfodiad – ar ôl hyn i gyd, ddiwedd popeth, mae Pedr yn penderfynu na allai feddwl am unrhyw beth gwell i’w wneud na mynd i bysgota.

Mae’r hanes yn dod ar ddiwedd yr Efengyl yn ôl Ioan, ac, mewn gwirionedd, mae Pedr yn penderfynu mynd yn ôl i’w hen ffyrdd. Mae’n teimlo bron iawn fel petai’n dweud, “Oedd, roedd hynny’n gyffrous, ond yn ôl i fel yr oedd hi rŵan.” Ac fe wyddom beth sy’n mynd i ddigwydd yn y stori: mae’r digwyddiad a newidiodd fwyaf erioed ar fywyd Pedr ar fin digwydd. (Dydw i ddim yn mynd i ddweud wrthych chi; os nad ydych yn gwybod, ewch i ddarllen Pennod 21 o Efengyl Ioan)

We might be forgiven for wanting to go back to normality. We’ve had the strangest Easter of our lifetimes, and things may have been absolutely awful, and, for others, in some way perhaps a little bit exciting, but we’re probably all ready for lockdown to be over, and to get back to normality.

It is not going to happen. First of all, lives have been changed, scarred by tragedy, swayed by experience in caring for Covid patients, by the experience of isolation. Society, I think, will be more wary, and even when the Government lets us, we may not want to rush back into crowded rooms and occasions, especially if the virus is still lurking around somewhere. Secondly, the Church has changed. We’ve learned to hold meetings remotely; we’ve learned to worship and to pray differently. We’ve missed some things, but perhaps have unconsciously already let go of others. The diocese’s budget is completely thrown out, and for some, businesses are undermined, and work isn’t coming back.

Efallai y gellir maddau i ni am fod eisiau mynd yn ôl i’n hen ffyrdd, at normalrwydd. Rydym ninnau hefyd wedi cael y Pasg rhyfeddaf ein bywydau, ac efallai bod pethau wedi bod yn ofnadwy, ac, i eraill, mewn rhyw ffordd, ychydig bach yn gyffrous, ond mae’n debyg fod pob un ohonom yn barod i gael gwared ar y cyfyngiadau symud a mynd yn ôl at normalrwydd.

Ni fydd hynny’n digwydd. Yn gyntaf, mae bywydau wedi’u newid, wedi’u creithio gan drychineb, wedi’u siglo gan y profiad o ofalu am gleifion Covid, gan y profiad o ynysu. Bydd cymdeithas, rwy’n meddwl, yn fwy gwyliadwrus, ac hyd yn oed pan fydd y Llywodraeth yn caniatáu i ni, efallai na fyddwn innau eisiau rhuthro’n ôl i ystafelloedd ac achlysuron gorlawn, yn enwedig os yw’r feirws dal i lechu yn rhywle o’n cwmpas. Yn ail, mae’r Eglwys wedi newid. Rydym ni wedi dysgu cynnal cyfarfodydd o bell, rydym wedi dysgu addoli a gweddïo’n wahanol. Rydym wedi colli rhai pethau, ond, efallai, eisoes, yn ddiarwybod, wedi gollwng gafael ar bethau eraill. Mae cyllideb yr esgobaeth wedi mynd i’r pedwar gwynt ac i rai, mae eu busnesau wedi’u tanseilio ac nid yw gwaith yn dod yn ôl.

The Easter message is really telling us not to look back. Jesus is in our future, not our past. (Well, he may have worked great miracles in our past, and changed lots, but he doesn’t stay there.) He beckons us onward, and says “Come and follow me, I am making all things new.” We have a great opportunity now, to look at our Church, and at the mission of our Churches, in a new way. What is really important? What does Jesus say about clinging onto “this” or letting go of “that”? We can look at our faith, and say, “Where now, Lord?” Almost certainly, it will be for us as it was for the disciples – not back to the same old ways.

Mae neges y Pasg mewn gwirionedd yn dweud wrthym i beidio ag edrych yn ôl. Mae Iesu yn ein dyfodol, nid yn ein gorffennol. (Wel, efallai ei fod wedi gweithio gwyrthiau mawr yn ein gorffennol, ac wedi newid llawer, ond nid yw’n aros yno.) Mae’n ein galw ymlaen, ac yn dweud “Tyrd a’m dilyn i, rwyf i’n gwneud popeth yn newydd.” Mae hyn yn gyfle gwych i ni edrych ar ein Heglwys ac ar genhadaeth ein Heglwysi mewn ffordd newydd. Beth sy’n wirioneddol bwysig? Beth mae Iesu’n ei ddweud am lynu wrth ”hwn” a gollwng y “llall”? Gallwn edrych ar ein ffydd a dweud, “Ble nawr, Arglwydd?” Mae bron yn sicr y bydd hynny’r un fath i ni ag yr oedd i’r disgyblion – dim mynd yn ôl i’r hen ffyrdd.

Catherine of Siena broke all the rules. A Dominican nun, she rebuked bishops and kings, and, in a man’s world, she held her own ferociously. She was simply amazing. She winkled the Pope out of exile in Avignon, and chivvied him back to Rome, brokered peace between the Pope and Florence, marshalled the Church and wrote a spiritual classic. She was among two women (with Theresa of Avila) who were the first to be recognised as Doctors of the Church – the top slot as a Christian teacher. She died on this day in 1380. Her vision was quite simply that the Church needed to be what Jesus wanted it to be – effective in witnessing to God’s truth and God’s love.

Roedd Catrin o Siena yn torri pob rheol. Yn lleian Ddominicaidd, roedd hi’n ceryddu esgobion a brenhinoedd ac, mewn byd o ddynion, roedd hi’n dal ei thir yn ffyrnig. Yn syml, roedd hi’n anhygoel. Fe lwyddodd i berswadio’r Pab i roi’r gorau i’w alltudiaeth yn Avignon a’i annog i fynd yn ôl i Rufain, bu’n gyfryngwr hedd rhwng y Pab a Florence, cafodd drefn ar yr Eglwys ac ysgrifennodd glasur ysbrydol. Roedd yn un o’r ddwy ddynes gyntaf (Theresa o Avila oedd y llall) i gael eu cydnabod fel Doethuriaid yr Eglwys – y pinacl i athro Cristnogol. Bu farw y dydd hwn ym 1380. Ei gweledigaeth oedd, yn syml, y dylai’r Eglwys fod yr union beth yr oedd Iesu eisiau iddi fod – tystiolaethu’n effeithiol wirionedd Duw a chariad Duw.

I take heart from Catherine because her indefatigability, and I pray that when the day comes for us to come out of lockdown, we won’t just want to go back to the old ways; to be tempted, like the disciples, to go back to fishing. “We are an Easter people, and Hallelujah is our song” said St Augustine.: Hallelujah is, of course, the Hebrew for “Let’s praise the LORD God”, and praise we must, not only with our lips, but in our (changed) lives.

Mae Catrin yn fy nghalonogi i oherwydd ei dycnwch, ac rwy’n gweddïo pan ddaw’r dydd y bydd y cyfyngiadau symud yn dod i ben na fyddwn ni ddim ond eisiau mynd yn ôl at yr hen ffyrdd; na fyddwn ni, fel y disgyblion, yn cael ein temtio i fynd yn ôl at bysgota. “Rydym yn bobl y Pasg, ac Haleliwia yw ein cân” meddai Awstin Sant.

Every blessing be with you,

Haleliwia yw, wrth gwrs “Molianwn yr ARGLWYDD Dduw” , mewn Hebraeg, a rhaid i ninnau foli, nid yn uni