From Bishop Gregory Oddi wrth Esgob Gregory Ascension 2020

yPower from on High Nerth oddi Fry 

A Pastoral Letter for the Teulu Asaph, on the Eve of the Ascension 2020 

From Bishop Gregory 

Llythyr Bugeiliol i Deulu Asaph ar noswyl Dyrchafael 2020 

Oddi wrth Esgob Gregory 

The Ascension of Christ into Heaven – the feast which the Church keeps tomorrow – is a break point. It is the end of the earthly ministry of Jesus – the last time he was physically present to the disciples before he returned to the Father. This mysterious event is described in the scriptures as a literal ascent, but it is not quite like the space shuttle achieving the momentum to break free of Earth’s gravity in a literal way: it is rather a transfer from this temporal realm into the eternal, into the ubiquity of God’s presence. Although I say it is not a literal breaking free of Earth’s gravity, however, this phrase has a truth which actually makes for a magnificent metaphor.  

Mae Dyrchafael Crist i’r Nef – gŵyl y mae’r Eglwys yn ei chadw yfory – yn drobwynt. Mae’n ddiwedd gweinidogaeth ddaearol Iesu – y tro olaf yr oedd yn bresennol yn gorfforol gyda’i ddisgyblion cyn dychwelyd at y Tad. Mae’r digwyddiad dirgel hwn yn cael ei ddisgrifio yn yr ysgrythurau fel esgyniad llythrennol, ond nid fel gwennol ofod yn cyrraedd momentwm i dorri’r rhydd, yn llythrennol, o afael disgyrchiant y Ddaear ond, yn hytrach, trosglwyddiad sydd yma o’r deyrnas ddaearol hon i’r deyrnas dragwyddol, i bresenoldeb y Duw hollbresenol. Er fy mod yn dweud nad torri’n rhydd yn llythrennol o ddisgyrchiant y Ddaear sy’n cael ei ddisgrifio, mae gwirionedd yn yr ymadrodd sy’n ei wneud yn drosiant gwych. 

The gravity of Earth might be used to symbolise everything that holds us back from holiness, from the ability to enter into that fullness of life which God wills for us. In our own lives we see the failure to be all we’d like to be, and all that God would like us to be (which is what the Bible calls “sin”). In the world, we see mankind’s sin as a whole rolled out in the manifold injustices, oppressions and violence that can wrench our world out of kilter. In the Ascension, Jesus quite simply breaks free of all that, but also invites us to break free as well. In the Gospel according to Luke, almost his last words to the disciples are: “… wait patiently … until you are clothed with power from on high.” (Luke 24.49) This is an invitation to await the Holy Spirit, who will break in and empower the disciples at Pentecost to turn the world upside down, and to break free with the Gospel.  

Gellir defnyddio disgyrchiant y Ddaear fel symbol o bopeth sy’n ein cadw rhag sancteiddrwydd, sy’n ein rhwystro rhag mynd i mewn i lawnder y bywyd sef ewyllys Duw ar ein cyfer ni. Rydyn ni’n gweld yn ein bywydau ein hunain y methiant i fod yn bopeth yr hoffen ni fod, yn bopeth yr hoffai Duw i ni fod (sy’n cael ei alw’n “bechod” yn y Beibl). Yn y byd, rydyn ni’n gweld holl bechodau dynolryw yn y gwahanol anghyfiawnderau, gorthrymderau a thrais sy’n gallu taflu ein byd oddi ar ei echel. Yn y Dyrchafael, mae Iesu’n torri’n rhydd o hyn i gyd, ond mae hefyd yn ein gwahodd ninnau i dorri’n rhydd hefyd. Yn yr Efengyl yn ôl Luc, ei eiriau olaf, bron, i’w ddisgyblion yw: “… disgwyl yn amyneddgar … nes eich gwisgo chwi oddi uchod â nerth”. (Luc 24.49). Gwahoddiad yw hwn i ddisgwyl yr Ysbryd Glân a fydd yn ymddangos ac yn nerthu’r disgyblion adeg y Sulgwyn i droi’r byd wyneb i waered, ac i dorri’n rhydd gyda’r Efengyl. 

Even religion, however, can feel like gravity pulling us down at times. Weighed down with obligations, we struggle to keep going and to meet expectations. However, God simply doesn’t want faith to be like that. We are called to be a people who become acquainted with the Truth about life, embodied in the fullness of life lived and taught by Jesus and extended to us by invitation, and “the truth shall set you free” (John 8.32) 

Ond gall hyd yn oed crefydd deimlo fel disgyrchiant sy’n ein tynnu i lawr ar adegau. Llwyth o gyfrifoldebau’n pwyso arnom ni wrth i ni ymdrechu i ddal ati a chyfarfod y disgwyliadau. Ond, nid yw Duw eisiau i ffydd fod fel hyn o gwbl. Rydyn ni’n cael ein galw i fod yn bobl sy’n adnabod y Gwirionedd ynghylch bywyd, wedi ein hymgorffori yn llawnder y bywyd yr oedd Iesu’n ei fyw a’i ddysgu ac sydd wedi’i estyn i ni trwy wahoddiad, a ‘bydd y gwirionedd yn eich rhyddhau” (Ioan 8.32) 

I have written in previous weeks about how I believe that we in our own discipleship, and the nation in its life, cannot go back to old ways when we are released from lockdown. I believe that there is also a great deal of “gravity” which keeps the Church in a state of heaviness, from which we are called to break free in the power of the Spirit. The renewal of the Church will not be about going back to the glories of the past, but about finding a confidence for the future. The faith remains the same, but the Church which bears witness to it has to change. I would like to see a Church which is free of doing things the way we’ve always done them, to become a Church which reimagines worship and word and sacraments for what they are – channels enabling us to draw close to God, that he might fill us with his “power from on high”. I would like to see a Church which sees its job, not as maintaining buildings and services as they were for the last hundred years, but as building full lives, which are based on faith, on following Jesus, on serving the world in love. I would like to serve in a Church where the question on everyone’s lips is not: “How will we keep going?” but “How can we be more like Jesus?” 

Rwyf wedi sôn yn yr wythnosau a aeth heibio sut rwy’n credu na allwn ni, yn ein disgyblaeth ein hunain, nac ym mywyd y genedl, fynd yn ôl at yr hen drefn pan fyddwn wedi cael ein rhyddhau o’r cyfyngiadau symud. Rwy’n amau hefyd fod yna lawer iawn o “ddisgyrchiant” sy’n cadw’r Eglwys mewn cyflwr o drymder, a’n bod ni’n cael ein galw i dorri’n rhydd yn nerth yr Ysbryd. Nid drwy fynd yn ôl i ogoniant y gorffennol y mae adnewyddu’r Eglwys, ond drwy ganfod hyder wrth wynebu’r dyfodol. Mae’r ffydd yn aros yr un fath, ond mae’n rhaid i’r Eglwys sy’n tystiolaethu iddo newid. Hoffwn weld Eglwys sydd wedi’i rhyddhau o wneud pethau yr un ffordd ag o’r blaen, ac yn Eglwys sy’n ailddarganfod addoliad a’r gair a’r sagrafennau am yr hyn ydyn nhw mewn gwirionedd– sianelau sy’n ein galluogi ni i nesau at Dduw, fel ei fod yn gallu ein llenwi gyda’i “nerth oddi fry”. Hoffwn weld Eglwys sy’n gweld ei gwaith, nid fel cynnal a chadw adeiladau a gwasanaethau yr un fath ag yr oedden nhw gan mlynedd yn ôl, ond sy’n adeiladu bywydau llawn, yn seiliedig ar ffydd, ar ddilyn Iesu, ar wasanaethu’r byd mewn cariad. Hoffwn wasanaethu mewn Eglwys ble nad y cwestiwn ar wefusau pawb yw: “Pa mor hir fyddwn ni’n cadw i fynd?” ond “Sut allwn ni fod yn fwy fel Iesu?” 

When Jesus said to his disciples “I came that you might have life, and life in all its abundance” (John 10.10), I am sure that he saw faith as life giving, joy imparting, strength inducing, peace communicating. When I was a student in Cambridge, I remember a church which had a big notice on the way in: “In this Church we believe the fundamentals of the Christian Faith, i.e. the Authorised Version of the Bible and the 1662 Book of Common Prayer.” I can’t help feeling that that particular Church was confusing the medium with the message. The King James Bible can be a magnificent medium, and a quiet Prayer Book Communion can still nourish my soul, but they won’t do that for everyone, and Jesus told us to go out, and bring the joy of faith to others. 

Pan ddywedodd Iesu wrth ei ddisgyblion “Yr wyf i wedi dod er mwyn i ddynion gael bywyd a’i gael yn ei holl gyflawnder”(Ioan 10.10), rwy’n siŵr ei fod yn gweld ffydd fel rhywbeth bywiol, yn rhoi llawenydd, yn cynhyrchu nerth, yn cyfathrebu tangnefedd. Pan oeddwn i’n fyfyriwr yng Nghaergrawnt, rwy’n cofio eglwys gydag arwydd ar y ffordd i mewn iddi: “Yn yr Eglwys hon rydym yn credu yn hanfodion y Ffydd Gristnogol, h.y. y Fersiwn Awdurdodedig o’r Beibl a’r Llyfr Gweddi Cyffredin 1662.” Alla i ddim peidio â 

theimlo fod yr Eglwys honno’n cymysgu rhwng y cyfrwng a’r neges. Mae Beibl y Brenin Iago’n gallu bod yn gyfrwng mawreddog, ac mae Cymun tawel y Llyfr Gweddi’n dal i allu bwydo fy enaid, ond nid pawb sy’n teimlo fel hyn a dywedodd Iesu wrthyn ni i fynd allan a dod â llawenydd y ffydd i eraill. 

People want to see how things make a difference in the modern world. If faith leaves people as grumpy and as staid as ever, then people leave the faith. It’s as simple as that.  

Mae pobl eisiau gweld sut mae pethau’n gwneud gwahaniaeth yn y byd heddiwOs yw ffydd yn gadael pobl mor bigog ac mor sidȇt ag erioedyna bydd pobl yn gadael y ffydd. Mae mor syml a hynny! 

If I am honest with you, Clare and I need to declutter in Esgobty. When our Church buildings reopen, we will all need to declutter our discipleship, and seek “power from on high”, so that God will help us break free from the gravity of all that holds us back, and be caught up in a vision of the heaven which beckons us onward. 

A dweud y gwir, fe ddylai Clare gael gwared ar lawer o stwff o’r Esgobty. Pan fydd adeiladau ein Heglwys yn ail agor, fe ddylem ninnau gael gwared o’r “stwff” yn ein disgyblaeth a chwilio am “nerth oddi fry”, er mwyn i Dduw ein helpu i dorri’n rhydd o’r disgyrchiant sy’n ein dal yn ôl, a chael ein cadw yn y weledigaeth o’r nef sy’n ein galw ymlaen. 

May you have an amazing Ascensiontide, and a powerful Pentecost, 

Boed i chi Ddyrchafael dihafal a Sulgwyn syfrdanol