Adlewyrchiad Ddydd Sul.

Adlewyrchiad am yr Wythfed Ddydd Sul ar ol y Drindod, a Gemau’r Gymanwlad.

““Peidiwch ag ofni, fy mhraidd bychan, oherwydd bod eich Tad yn hapus i roi’r Deyrnas ichi..
Gwisgwch ar gyfer gweithredu..
Fy’n rhaid i chi hefyd fod yn barod.”

Yr Iesu yn Luwc 12:32-40

“Tydi’r ffordd ddim wedi bod yn hawdd, rhwygodd f’apendics pum wythnos yn ol a thorrais fy’nhroed pythefnos yn ol ac er hynny medrais gerdded i ffwrdd o Gemau’r Gymanwlad gyda thri Wobr Aur. Dwi’n wirioneddol falch ‘mod i wedi cael y cyfle i wneud gwahaniaeth.” Joe Fraser, mabolgampwr.

Mae efengyl heddiw yn cychwyn gyda’r Iesu yn erfyn ar ei ddilynwyr i beidio a bod ac ofn, geiriau cefnogol wedi eu rhoi ar ddiwedd cyfres o ddysgeidiaethau i’w ddisgyblion a’r tyrfaoedd yn eu dilyn.

Mae O wedi erfyn arnynt i ystyried y lilis yn y caeau a’r adar yn yr awyr i atgoffa nhw am ofal Duw am y Creawd, a felly Ei eiriau am peidio ag ofni ac i ymddiried yn Nuw, beth bynnag a ddaw.

Mae’r Iesu yn rhoi cyngor ymarferol i gychwyn, mae ei ddisgyblion i werthu eu heiddo a rhoi elusen i’r tlawd – arwydd eu bon’t ddim yn dlawd eu hunain ac mewn sefyllfa i fedru gwerthu eu heiddo.
Mewn amser anodd economaidd heddiw gyda rhai teuluoedd yn honni na fyddent yn medru talu eu ffordd y gaeaf yma, mae hyn yn atgoffa ni a mi fydd yna ddewisiadau anodd o flaen nifer o bobol a bydd angen cefnogaeth arnynt gan eu cymdeithasau.
Mae’r Iesu yn son am Drysor yn y Nefoedd a, tra fydd llawer yn digaloni, mae Ei eiriau yn ein atgoffa fo’n rhaid i ninnau, fatha’r disgyblion cynnar, ymddiried yn Nuw ac yn ein gilydd.

Mae’r Iesu yn mynd ymlaen i ddweud fo’n rhaid i’w ddilynwyr fod wedi gwisgo ac yn barod, ar gyfer gweithredu – mae E’n crybwyll hanes y gweision a fuont yn barod ar gyfer dychweliad eu meistr, ar amser anhysbys iddynt.
Roedd y Golwg canol, ar ol hanner nos a’r olaf cyn y wawr, felly mae rhain yn weision da a ffyddlon sy’n barod am ei ddychwelud a mae’r meistr mor falch ei fod yn mynnu iddynt eistedd ac yn paratoi bwyd iddynt. Mor “wyneb i waered” mae gwerthoedd Teyrnas Nef!

Dywedodd Iesu wrth ei ddisgyblion eu bod hwythau, fel y gweithwyr caled, gorfod bod yn barod ar gyfer digwyddiad yr oedd Ef yn ei ddisgwyl ac yn ceisio eu paratoi ar ei gyfer.

Yn rhan amlwg o hyn mae dioddefaint, marwolaeth ac atgyfodiad yr Iesu, ond mae’r Beibl hefyd yn son iddo ddychwelyd fel Brenin ac Arglwydd. Mae sawl un yn ystyried y bon’t yn nesau at y cyfnod yma gyda digwyddiadau mor erchyll yn ein byd newidiol heddiw ond mae’r Iesu hefyd yn atgoffa ei ddilynwyr i beidio ac ofni ond i fod yn barod ar gyfer beth bynnag a ddaw.

Peidiwch ac ofni a byddwch wedi gwisgo ac yn barod – roedd hyn yn amlwg yn yr heriau oedd yn gwynebu mabolgampwr Joe Fraser. Mae o wedi enill tri medal aur yng Ngemau’r Gymanwlad er diodde pendics rhwyg a toriad yn ei droed – roedd o’n barod ac yn benderfynnol o wneud ei orau a gwneud gwahaniaeth er yr anhwylusderau yr oedd yn eu gwynebu.
Er gwaetha’r heriau rydym yn gwynebu, mae gofyn i ni wneud yr un peth ac, rhag ofn i rhywun feddwl a wnelo hyn ac oedran, cofiwch George Miller, yr Albanwr sydd newydd enill y fedal aur yn y mabolgampau am bowls cymysg, yn 75 mlwydd oed!

Fel y dywed Francis Thompson yn ei bennill The Kingdom of God:
“O world invisible, we view thee,
….upon thy so sore loss
Shall shine the traffic of Jacob’s ladder
Pitched betwixt Heaven and Charing Cross.
Yea, in the night, my Soul, my daughter,
Cry, – clinging Heaven by the hems;
And lo, Christ walking on the water
Not of Gennesareth, but Thames!”

Gyda fy ngweddiau; pob bendith,
Chris, Gwarcheidwad.