Adlewyrchiad Ddydd Sul.

Adlewyrchiad am y nawfed Ddydd Sul ar ol y Drindod, a’r tywydd.

Yr Iesu yn Luwc 12:48-56

“54 Ac efe a ddywedodd hefyd wrth y bobloedd, Pan weloch gwmwl yn codi o’r gorllewin, yn y fan y dywedwch, Y mae cawod yn dyfod: ac felly y mae. 55 A phan weloch y deheuwynt yn chwythu, y dywedwch, Y bydd gwres: ac fe fydd. 56 O ragrithwyr, chwi a fedrwch ddeall wynepryd y ddaear a’r wybr: ond yr amser hwn, pa fodd nad ydych yn ei ddeall?”

“Does dim ffasiwn beth a tywydd drwg, dim ond dillad anaddas.”

Mae’r Prydeinwyr yn enwog am son am y tywydd a mae hyn i’w weld yn yr iaith.
Sonwyd am storm mewn cwpan de, bod ar y nawfed gwmwl, safio am ddiwrnod gwlyb, teimlo pwysau’r tywydd neu bod yn hirwyntog.

Mae hyn yn rhannog gan fod y tywydd ym Mhrydain yn anodd i’w ragweld gan fod Prydain ar groesffordd rhwng gwyntoedd Arctig o’r gogledd, gwyntoedd y tropics o’r de, gwyntoedd gwlyb o’r gorllewin a gwyntoedd sych o cyfandiroedd y dwyrain.
Creuwyd amgylchiadau newidiol yn y tywydd, mewn cyferbyniad i’r rhai mae Yr Iesu yn son amdanynt yn efengyl heddiw.

Yn Galilea byddai gwyntoedd o’r gorllewin yn dod a glaw tra fod gwynt o’r de yn dod a gwres orboeth.

Gyda pysgotwyr ymhlith y Disgyblion byddynt yn gwybod hyn, ond mae’r Iesu yn awgrymu eu bon’t yn ddall i arwyddion yr amseroedd nac yn medru gweld yr hyn sy’n digwydd o’u cwmpas.

Mae gweinidogaeth yr Iesu yn datblygu yng nghyd-destun meddiannaeth y Rhufeiniaid, cynllwyniau Herod Antipas, drwgdeimlad y boblogaeth, ffraeo rhwng yr arweinwyr crefyddol a’r anhawsterau y mae Ef yn eu gwynebu. Mae E’n rhybuddio am drychineb, tan, rhannu a beirniadaeth – tydi Ei neges ddim yn wleidyddol ond mae ganddo ganlyniadau gwleidyddol ac mae’r Tywysog Heddwch yn rhybuddio am gweryla ym mhlith teuluoedd o herwydd eu ymateb iddo.
Mae E’n galw’r torfeudd sy’n ei ddilyn yn ragrithwyr – pam na fedrant weld be sy’n digwydd?

O weld fod y tywydd poeth ar hyn o bryd yn achosi tannoedd gwyllt a sychder, gydag anrhefn cymdeithasol oherwydd costau byw, streiciau ac anghydfod gwleidyddol, mae’r hyn mae’r Iesu yn ei ddweud, o bwys.
Mae gofyn i bob genhedlaeth ddarllen arwyddion ehangach yr amseroedd ac ymateb iddynt – mae rhannu ac anghytundeb wastad yn dilyn, yn ogystal a newid a gwelliant.
Be sy’n bwysig ydi’r ymateb iddo a sut mae’n cael ei drin.

Heddiw, gyda Newid Hinsawdd yn cael ei amau, costau byw yn codi’n fawr, cynnyrch tatws a chnydau’n yn llai oherwydd diffyg glaw a hyd yn oed marchnatwyr caws yn rhybuddio y byddent yn methu cyflawni archebion, mae angen nid yn unig i ddarllen arwyddion yr amseroedd ond i wneud rhywbeth ynglyn a hwynt.
Yn y cyd destun yma, rhaid sylwi ar eiriau’r Iesu, a alwodd ei Hun y Bugail Da, felly mae geiriau cyfarwydd ynglyn a’r tywydd yn dod ac adlais newydd;
“Awyr coch yn y nos – llawennydd y bugail, awyr coch yn y bore – rhybudd y bugail.”

Gyda fy ngweddiau, Pob Bendith,
Chris, Gwarcheidwad.