Adlewyrchiad dydd Sul

Adlewyrchiad am y 16 ed ddydd Sul ar ol y Drindod.

“Dywedodd yr apostolion wrth yr Arglwydd; “Cynydda ein Ffydd”.

o Lewc 17:5-11, NRSV.

CHARLES III DGREXFD Ysgrifen Lladin sef – Y Brenin Charles III, wrth ras Duw, Gwarchodwr y Ffudd – ar yr arian yr argraffwyd ar hyd ei Frenhinaeth.

Yn Efengyl heddiw, mae ei ddisgyblion yn gofyn i’r Iesu gynyddu eu ffydd, a hyn ar adeg pryd mae popeth mae’n ei wneud a’n ei ddeud yn cael sylw craff. Mae’r straeon mae’n eu adrodd yn ddyrys a mae’r disgyblion yn anesmwyth ar ol rhybydd i gymeryd ofal. Pryd gofynnent am fwy o ffydd , mae’r Iesu’n awgrymu fod ffydd dim ond o faint haden fwstad yn ddigonol – yr hyn maen”t ei angen yw ffydd, nid ynddynt eu hunain, ond mewn Duw enfawr. Ar ol canlyniadau bler polisiau ariannol y llywodraeth ar yr economi yr wythnos yma, ar adeg pryd roedd pryderon yn barod yn codi am gostau byw dros y gaeaf, dyma adeg pryd mae angen ffydd yn y dyfodol ond mae llawer un mor ddryslyd heddiw ag oedd y disgyblion adeg hynny.

Soniodd y Brenin newydd am ei ffydd Anglicaidd yn ei araith i’r wlad ar ol ei esgyniad; “Yn y ffydd hwnnw a’r gwerthoedd mae’n ysbrydoli, cefais fy magu i werthfawrogi cyfrifoldeb tuag at eraill, ac i barchu’n fawr y traddodiadau gwerthfawr, rhyddid a chyfrifoldebau o’n hanes unigryw a’n strwythr o lywodraeth seneddol.” Fel gyda phob brenin, ers i’r Pab Leo X enwebu Harri VII gyda’r teitl, mi fydd yr arian yn ystod brenhinaeth Charli wedi eu argraffu gyda “F.D.” – sef Fidel Defensor – a roddwyd i Harri am amddiffyn Catholigaeth Rhufeinig cyn iddo ymbellhau ym 1530. Cychwynodd hyn mewn oes cythryblus iawn ac efallai dysgwn wersi oddiwrth hanes, yn ein oes chwildroadol ninnau.

Adeg hynny, fel yn awr, anogodd yr Iesu iddynt ddefnyddio y ffydd yn Nuw roedd eisioes gyda nhw, yn eu atgoffa fod mymryn bach o ffydd yn medru cael effaith rhyfeddol. Prynte gennym ffydd yn Nuw neu beidio, mae “ffydd” yn ei amryw ystyr, yn y newyddion y penwythnos yma, gyda’r papur Sul Observer yn honni i bleidleiswyr adael y Toriaid wrth i ffydd yn eu gallu economaidd ostwng. Mae’n amlwg fod fwy o ansicrwydd a helbul o’n blaenau a mi fydd angen ffyddlondeb ac amynedd beth bynag a ddaw, boed e’n ffydd crefyddol neu’n ffydd seciwlar. Mae hynny’n herio ni gyd ac efallai fod geiriau Mam Theresa yn addas; “ mi wn na fydd Duw yn rhoi i mi yr hyn na fedraf dderbyn, ond erfynaf arno beidio ac ymddiried ynof gymaint.”

Ta waeth, yng nghalon Cristnogaeth yw’r Un a drigodd gyda’r Ddynol Ryw ac a brofodd yr holl mae hynny’n ei olygu. Roedd hyd yn oed yr Iesu yn dioddef angau ysbrydol, meddyliol a chorfforol yng ngardd Gesthemane, pryd, yn wynebu yr hyn oedd o’i flaen, aeth ei chwys yn debyg i ddiferion mawr o waed yn syrthio i’r ddaear (Lewc 22;44) Gan ei fod yn ystod y nos, cafodd hyn ei achosi, nid gan gwres ond gan ofn oeraidd, ac, drwy ddioddef panig, mae’r Iesu hefyd wedi profi yr hyn mae rhai mor ofnus hefyd yn dioddef heddiw. Yn hwyrach, ar ol yr atgyfodiad, mi ddatblygodd ffordd newydd o fyw a bod ac efallai fydd hyn yn wir

i ninnau os y medrwn ddarganfod y ffydd i gredu a mi ddaw. Mae Duw ar waith ymhlith yr holl ofnau sy’n codi a na fethith ffydd ynddo Ef, beth bynnag mae gwersi hanes a’r sefyllfa heddiw yn dysgu ni am y Ddynol Ryw – er, o bosib, bydd yn anodd cael gafael ar hadau mwstad os fydd y duedd presennol yn parhau!

Gyda fy’ngweddiau,

Pob Bendith,

Christine, Gwarcheidwad.