LOOSENING LOCKDOWN  LLACIO’R CYFNOD CLO

LOOSENING LOCKDOWN  LLACIO’R CYFNOD CLO

A PASTORAL LETTER FROM BISHOP GREGORY

for Thursday, 2nd July, 2020

LLYTHYR BUGEILIOL ODDI WRTH ESGOB GREGORY

ar gyfer dydd Iau, 2 Gorffennaf 2020

I think that we’ve all been surprised by the lockdown. When it began in mid-March, we were uncertain how long it would last, but it looked like a period of time with a definite start and a definite finish. One day the danger of the virus would be past, and we would resume life. Now we’re learning that the lockdown is going to be lifted step by step – rather like treading one’s way across a treacherous frozen lake, we’re having to test the ice ahead to see if it will bear us – whether this step can be taken safely, or whether we shall have to retreat if the virus surges once again.

Dwy’n meddwl ein bod ni i gyd wedi cael ein rhyfeddu gan y cyfnod clo. Pan ddechreuodd ganol Mawrth, doedden ni ddim yn sicr am faint y byddai’n parhau, ond roedd yn edrych y byddai’n gyfnod go hir, gyda dechrau pendant a gorffen pendant. Un diwrnod, byddai perygl y feirws y tu ôl i ni a ninnau’n ail gydio yn ein bywydau. Erbyn hyn, rydyn ni’n deall y daw’r cyfnod clo i ben gam wrth gam – rhywbeth yn debyg i droedio’n ofalus ar draws rhew twyllodrus ar lyn, mae’n rhaid i bob cam newydd fod yn ysgafn i ddechrau rhag ofn na fydd y rhew yn ein dal – a yw’n ddiogel cymryd y cam yma neu a fydd yn rhaid i ni gamu’n ôl os bydd y feirws yn codi ei ben eto.

So the rules change; in England one day the schools are returning, the next day they’re not. The rules in Wales are different from the rules in England. Is it two metres distance we must maintain, or one plus? One plus what? We can travel five miles – or more, if there’s good reason, but what would a good reason look like? Garden centres were amongst the first to open, barbers and hairdressers are taking bookings, but can they open yet? I must admit I’ve begun to get confused.

Felly, mae’r rheolau’n newid, yn Lloegr, un diwrnod mae’r ysgolion yn agor, y diwrnod nesaf maen nhw’n cau. Mae’r rheolau yng Nghymru’n wahaol i’r rhai yn Lloegr. Ai dwy fetr yw’r pellter y dylen ni gadw oddi wrth ein gilydd neu un plws? Un plws beth? Fe allwn ni deithio pum milltir, neu ymhellach os oes yna reswm da, ond sut beth yw rheswm da? Roedd canolfannau garddio ymysg y cyntaf i agor, mae barbwyr a thrinwyr gwallt yn cymryd archebion, ond a ydyn nhw’n cael agor eto? Mae’n rhaid i mi gyfaddef fy mod i’n dechrau cael fy nrysu.

Even the rules for the churches are changing frequently. One week we’re open for private prayer, but it looks as if the resumption of weddings are on their way, and new announcements are in the pipeline. The Sunday celebration of the Eucharist in our local churches for all God’s people seems a way off yet however.

Mae hyd yn oed y rheolau ar gyfer eglwysi’n newid yn aml. Un wythnos rydyn ni ar agor ar gyfer gweddïo’n breifat, ac y mae’n ymddangos y bydd priodasau’n cael eu cynnal cyn bo hir, a bod cyhoeddiadau newydd ar ei ffordd. Ond, mae’n ymddangos na fyddwn ni’n cael dathlu’r Ewcharist i holl bobl Dduw yn ein eglwysi lleol am sbel go lew eto.

We’re going to have to learn the rules of loosening lockdown, and live by them. However, the situation has become complicated, and the united front of commitment and resilience is under pressure. The beaches have become too appealing for some, the chance to renew friendships is too attractive for others, and yet many, if not most have become more cautious, we’ve learned to dance around the supermarket, weaving to preserve the two metre rule.

Bydd yn rhaid i ni ddysgu rheolau llacio’r cyfnod clo, a byw efo nhw. Ond, mae’r sefyllfa wedi dod yn gymhleth a’r ymrwymiad a’r cadernid unedig o dan bwysau. Aeth atyniad y traethau’n drech na rhai, denwyd rhai eraill gan y cyfle i adnewyddu cyfeillgarwch ac eto, mae llawer, os nad y rhan fwyaf, wedi dod yn fwy gofalus, rydyn ni wedi dysgu troedio’n ysgafn o gwmpas yr archfarchnad, gan droelli i gadw’r rheol dwy fetr.

What are the loosening lockdown rules of faith that apply in these times? How does God call upon us to relate to one another? Here are just three that are close to the top of my list.

Pa lacio ar reolau ffydd sydd yna yn y cyfnod clo? Sut mae Duw’n galw arnom ni i wneud efo’n gilydd? Dyma ddim ond tri o’r pethau sy’n agos at frig fy rhestr.

Compassion. I’ve written before about the way in which we’ve put the vulnerable in the centre of our society at this time. Our churches have done humble but important things well in these days – checking up on the shielded, delivering medicines, cooking and delivering meals, ensuring support. As we loosen lockdown, how can we remain compassionate, and as the business of life resumes, how do we find the space for others? “Be merciful, even as your Father is merciful”, said Jesus (Luke 6.36), and this is one of the chief marks of a loving Christian community.

Trugaredd Rwyf wedi ysgrifennu o’r blaen ynghylch sut rydyn ni wedi rhoi pobl fregus yng nghanol ein cymdeithas yr adeg yma. Mae ein heglwysi wedi gwneud pethau eithaf wylaidd ond go bwysig hefyd y dyddiau hyn – cadw llygad ar y rhai sy’n ynysu, danfon meddyginiaethau, coginio a danfon prydau, sicrhau cefnogaeth. Wrth i ni lacio’r cyfnod clo, sut allwn ni ddal i fod yn dosturiol, ac wrth i ni ail gydio ym manion bywyd bob dydd, sut allwn ni gadw’r lle i bobl eraill? “Byddwch yn drugarog, fel y mae eich Tad yn drugarog” meddai Iesu (Luc 6.36) a dyma un o’r pethau pwysicaf sy’n dangos cymuned Gristionogol ofalgar.

Collaboration. One of the phrases I’ve heard frequently is that “We’re in this together”, but it has, it seems to me, become far more than words. We’ve been learning to co-operate. The things that we’ve done, the things that we’ve achieved, have often been because, like the Body of Christ, we’ve acted as a body. Too often we can make Christianity a religion of private faith: my prayers, my faith, my salvation. Yet there’s always a corporate dimension – it is when two or three are gathered that Christ is among us, and together we can do more. I hope that we’ll invest in the Church, as lockdown loosens. “In him you also are being built together into a dwelling place for God by the Spirit.” (Ephesians 2.22) What a vision for the Teulu Asaph, that God should at home among us.

Cydweithio Un o’r dywediadau rwy’n eu clywed yn aml yw “Rydyn ni i gyd yn hyn gyda’n gilydd”, ond mae hynny, mae’n ymddangos i mi, wedi dod yn fwy na geiriau. Rydyn ni wedi bod yn dysgu cydweithredu. Mae’r pethau rydyn ni wedi’u gwneud, ein llwyddiannau, wedi digwydd oherwydd ein bod ni, fel Corff Crist ,wedi gweithredu fel un corff. Rydyn ni’n gallu gwneud Cristionogaeth, yn rhy aml, yn ffydd breifat: fy ngweddïau, fy ffydd, fy iachawdwriaeth. Eto, mae yna ddimensiwn corfforaethol bob tro – pan mae dau neu dri wedi ymgynnull, dyna pryd y daw Crist i’n plith, a gyda’n gilydd, gallwn wneud mwy. Rwy’n gobeithio y byddwn ni’n buddsoddi yn yr Eglwys wrth i’r cyfnod clo lacio. “Ynddo ef yr ydych chwithau hefyd yn cael eich cydadeiladu i fod yn breswylfod i Dduw yn yr Ysbryd.” (Effesiaid 2.22). Dyna weledigaeth i Deulu Asaph, bod Duw gartref yn ein plith.

Courage. I’ve been amazed by the way that the Church family has been bold in facing the future. We’ve not put off decisions on finance, co-operation and evangelism. We’ve not abandoned worship or mission, as if these can wait for the future. And this commitment must continue, indeed, this must be accelerated as the lockdown loosens: what new things is Christ calling us to? “Be strong and of good courage; do not be afraid, nor be dismayed” God urged Joshua as he took over from Moses (Joshua 1.9), and I am sure that God speaks the same words to us today.

Dewrder. Rwyf wedi rhyfeddu pa mor ddewr mae teulu’r Eglwys wedi bod wrth wynebu’r dyfodol. Dydyn ni ddim wedi gohirio penderfyniadau ariannol, ar gydweithredu nac ar efengylu. Dydyn ni ddim wedi troi cefn ar addoli na chenhadu, fel petai’r rhain yn gallu aros tan yn nes ymlaen. Ac mae’n rhaid i’r ymrwymiad hwn barhau, yn wir bydd yn rhaid iddo gynyddu wrth i’r cyfnod clo lacio: at ba bethau newydd y mae Crist yn ein galw ni? “bydd wrol a dewr, paid ag arswydo na dychryn” oedd anogaeth Duw i Joshua wrth iddo gymryd yr awenau oddi wrth Moses (Joshua 1:9) ac rwy’n siŵr mai dyma eiriau Duw i ni heddiw hefyd.

These are big words – and yet I think it’s fair to say that they have already been true of us over the last three months. May they also be watchwords for our future: rules for loosening lockdown, and being faithful to Christ.

Mae’r rhain yn eiriau mawr – ac eto rwy’n credu ei bod yn deg dweud eu bod eisoes wedi dod yn wir i ni yn ystod y tri mis diwethaf. Bydded iddyn nhw hefyd fod yn arwyddair i’n dyfodol ninnau hefyd: rheolau ar gyfer llacio’r cyfnod clo, a bod yn ffyddlon i Grist.