Adlewyrchiad am trydydd ddydd Sul y Pasg a chlwb peldroed Wrecsam. 
 
“ yr Iesu ei hun hefyd a nesaodd, ac a aeth gyda hwynt. 16 Eithr eu llygaid hwynt a ataliwyd, fel nas adwaenent ef. 17 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pa ryw ymadroddion yw’r rhai hyn yr ydych yn eu bwrw at ei gilydd, dan rodio, ac yn wyneptrist?  
 
O Luc 24:13-35 
Beibl William Morgan 
Efengyl Heddiw. 
 
“Peth hudol yw cael Wrecsam ar eich rhestr “i wneud”.” 
Hebog y B.B.C. wrth gefnogwr Americanaidd y clwb, sy’n perthyn i ser Holywood Rob McElhenney a Ryan Reynolds. 
Arddangosiad cyntaf Iesu atgyfodedig yn efengyl Luc yw ar y ffordd i Emmaus, pryd mae E’n ymuno a ddau berson, Cleopas ac efallai ei wraig sy’n ddienw. 
Nid y disgyblion ofnus sydd wedi cilio i ffwrdd, yn ol yr efengylion eraill, ond toeddynt ddim yn adnabod yr Iesu. 
Maen’t wedi bod yn trafod y sefyllfa gwleidyddol, y croeshoeliad yn adlewyrchu hawlfraint honedig teyrnasol y Rhufeiniaid, a maen’t yn gwawdio’r Iesu: “ai ti yw’r unig ddieithryn yn Jerusalem sy’n anymwybodol o’r hyn a ddigwyddodd yno?” 
Maen’t yn sicr nad ydynt yn Ei adnabod a mae Luc yn dweud; “ Eithr eu llygaid hwynt a ataliwyd, fel nas adwaenent ef. ” 
Os na fedrant weld pwy sydd wedi dod atynt, efallai fod hyn oherwydd eu bon’t yn sicr fod yr Iesu wedi marw. 
“Cafodd Ei ddedfrydu i farwolaeth a’I groeshoelio”, meddant wrth eu cyd deithiwr newydd, “ond roeddem wedi gobeithio mae Efe oedd yr un” (p.20-21). 
Y gorffennol sy’n cael ei ddefnyddio, nid y presennol, tra maen’t yn sefyll yn llonnydd, yn edrych yn drist.(p.17). 
Ar ol Iddo sgwrsio gydant ynglyn a’r hyn a ddigwyddodd, maen’t yn Ei wahodd i ymuno a hwynt gan fod hi’n nosi, ac, ar ol Iddo fendithio, torri a rhannu’r bara, maen’t yn Ei adnabod yn uniongyrchol. 
Mae ystyr llythrennol “com” “ panio” – gyda bara, yn dangos iddynt Pwy ydi O, mor atgofiol ydi o o’r swper olaf, ac maen’t yn Ei adnabod yn syth. 
Er yr hwyr, maen’t yn dychwelyd at eu cyd-ddisgyblion i ddweud wrthynt be a ddigwyddodd a mae’r bennod yn cynnwys lawer o symudiad. 
Mae’r ddau “yn mynd”. (24:13) “Mae’r Iesu’n dod yn agos atynt a mynd gyda nhw” (24:15), maen’t yn agosau at Emmaus (24:28), mae’r Iesu “yn mynd o’u blaenau nhw” (24:28) “mae’n mynd i mewn i aros gyda hwynt”(24:29), “mae E’n diflannu o’u golwg.” (24:31), “maen’t yn codi ac yn dychwelyd i Jerwsalem” (24:33). Yn anhebyg i’r disgyblion a wnaeth guddio yn yr un lle mae rhain yn codi ac yn gweithio wrth i drafodaeth yr Atgyfodiad ledeunu hyd y ffordd. 
Yn gynharach yn efengyl Luc mae’r Iesu yn mynd ar daith o Galilea i Jerusalem (9:51 – 19:27) lle mae O’n cwrdd a pobol ar y ffordd ac yn llyfr Actau, ail lyfr Luc, gelwid y Cristnogion cynnar yn “pobol y ffordd” 
(Actau 9:2, 22:4, 22:14,22). 
Dilynasant yn olion traed yr Iesu a ma hyn i gyd yn digwydd mewn cyfnod wleidyddol a economaidd amhoblogaidd. 
Mae’r wythnos yma hefyd wedi gweld digwyddiadau amhoblogaidd, gyda ymddiswyddiad Dominic Raab, dirprwy prif weinidog, ysgrifennydd cyfiawnder a bwli yn ei waith. 
Mae yna lawer o drafod wedi bod am rymmoedd gwleidyddol tra fod costau byw a’r sefyllfa economaidd hefyd yn dwyn sylw. 
Hefyd mae heddiw yn gweld sain rhybuddiol ar ein ffonau symudol i’n rhybuddio rhag argyfyngoedd cymdeithasol, ond hefyd mae yna straeon o obaith hefyd. Un yw dyrchafiad clwb peldroed Wrecsam i gyngrair peldroed Lloegr gyda cymorth dau o actorion Holywood, er colled i clwb a chefnogwyr Boreham Wood. 
Mae’r sylw wedi rhoi Wrecsam ar y map i Americanwyr a mae’r hwb i dwristiaeth yn help economaidd i’r dre a’r ardal. Pwy fydde wedi meddwl am gysylltiad rhwng Wrecsam a Tinsletown, er fod y bendithion yn eglur! 
Beth bynag, ar y ffordd i Emmaus, roedd y ddau ddisgybl mor sicr fod yr Iesu wedi marw a phob obaith ynddo wedi mynd, nad oeddynt yn medru Ei weld o’u blaenau. Doth y trawsnewidiad drwy gwestiwn syml gan rhywun roeddent yn ystyried yn ddiarth; “be rydych yn ei drafod wrth i chi gerdded ymlaen?” 
 
Ar ba bynag siwrne rydym wedi bod arno yn ein bywydau, ydi’n bosib ein bod wedi methu presenoldeb yr Iesu gyda ni, oherwydd, fel y teithwyr i Emmaus, rydym yn ddiystyru ei ddylanwad ar y bywyd presennol? 
A ydym wedi colli gobaith a mynd ar goll, fel mae’r prydydd Americanaidd Emily Dickinson yn awgrymu “‘roedd E hefo fi wrth fynd am dro”? (O “the blunder is to estimate”.) 
Neu efallai y byddem yn gweld gobaith ffres yn ystod y Pasg yma, a medru llawenhau er mewn amgylchfyd o drueni ac anobaith? 
 
A felly mae cwestiwn yr Iesu yn dod atom heddiw, fel i’r ddau ar y ffordd i Emmaus;  
“Am be rydych yn trafod, wrth i chi gerdded ymlaen?”. 
 
Gyda fy ngweddion, 
Pob Bendith, 
Christine, 
Gwarcheidwad. 
 
 
 
 

Adlewyrchiad ar Ddydd Sul Isel a’r Pasg.

“19 Yna, a hi yn hwyr y dydd cyntaf hwnnw o’r wythnos, a’r drysau yn gaead lle yr oedd y disgyblion wedi ymgasglu ynghyd rhag ofn yr Iddewon, daeth yr Iesu, ac a safodd yn y canol, ac a ddywedodd wrthynt, Tangnefedd i chwi.”
O Ioan 20:19-31

“Mae ein Arglwydd wedi ysgrifennu gobaith yr atgyfodiad, nid yn unig mewn llyfrau, ond ym mhob ddeilen yn y gwanwyn.”
Martin Luther.

Yn draddodiadol enwid heddiw yn Sul Isel ar ol man uchel  holl adloniant y Pasg.

Ond, i’r disgyblion cynnar roedd yr adeg a enwid Dydd y Pasg yn adeg isel wrth iddynt guddio gyda’i gilydd yn y man lle roeddent wedi ymgasglu a chloi’r drysau o dan ofn.
Dywedwyd yn efengyl Ioan eu bon’t yn ofni’r Iddewon ond tra mae Iddewon oeddynt eu hunain, mae’n fwy tebygol mae’r arweinwyr crefyddol oeddynt yn eu ofni.

Fel dilynwyr Iesu Grist, yn credu fod Ef wedi marw a’i gladdu, mae’n debyg fod Ei ddisgyblion yn disgwyl cael eu herlyn hefyd. Mae hefyd yn bosib, gan eu bod wedi bradychu’r Iesu, fod ganddynt ofn Ohono. Felly mewn ofn, maen’t yn cuddio – ond tydi drysau caeedig ddim yn ddigonol!
Oherwydd mae’r Iesu yn sefyll gyda hwynt yn y fan o ofn, profedigaeth ac ansicrwydd ac yn anog nhw i fod mewn heddwch.
Mae E’n dangos iddynt clwyfau Ei gorff atgyfodi i brofi mae Ef sydd gyda nhw, gan fod eu ofn mor fawr – a mae hyn yn ddealladwy.

O safbwynt 2000 mlynedd yn ddiweddaraf rydym yn gwybod y stori ond roedd gweld eu Arweinydd, roeddynt yn meddwl oedd wedi marw, yn sefyll o’u blaenau, yn beth syfrdanol i’r disgyblion.

Tymor yw’r Pasg, nid yn unig diwrnod ac mae’n parhau nes y Dyrchafael ac mae’r cyfnod yn ein atgoffa o’r digwyddiadau ac amgylchiadau a oedd yn gwynebu’r Disgyblion cyntaf, wrth iddynt ddod i delerau a’r hyn roedd yn digwydd. O ddydd Gwener y Groglith tan ddydd Sul y Pasg, mae’n rhaid fod y Disgyblion yn teimlo fod yr Iesu wedi marw go iawn, ond nid hynny oedd yn wir, er barn Tomos (yr amheus)!

Efallai erbyn heddiw mae’n anodd disgwyl gyda gymaint yn digwydd, ar wib, a nifer o foddion cyfathrebu ar gael, ac anodd weithiau yw derbyn canlyniadau y cyfnod disgwyl.
Yn nghanol hyn oll mae llais yr Iesu yn dod a heddwch a gobaith, heb ddim dial am yr hyn a ddigwyddodd.

Fel y Disgyblion cynnar, efallai bydde’n well ganddom guddio neu gadael i ofn neu euogrwydd deyrnasu – ond mae’r Iesu yn mynegi “Fel a wnaeth y Tad fy ngyrru i, rydw i’n eich gyrru chi”
Mae’r ddynol ryw, pechadurus, wedi ei orchymyn i barhau’r atgyfodiad heddiw, fel yn y dyddie hynny – mor syfrdanol yw hyn tra fod adeg y Pasg yn parhau i ddangos cariad Duw o’r newydd,  fel yn ngeiriau Martin Luther, mewn bywyd yn ogystal a mewn llyfrau.
Ac, os oes rhywbeth sy’n anodd ei gredu neu ymrafael a fo – oes na bosibilrwydd ei fod yn wir!?

Gyda fy ngweddion,
Pob bendith,
Christine,
Gwarcheidwad.

Adlewyrchiad ar Ddiwrnod y Pasg.

“Nac ofnwch: canys mi a wn mai ceisio yr ydych yr Iesu, yr hwn a groeshoeliwyd. 6 Nid yw efe yma: canys cyfododd, megis y dywedodd.”

O Matthew 28:1-10.

“Atgyfodwyd y Crist”

“Mae E wedi atgyfodi yn wir’”

“Aleliwia!”

O Clod y Pasg.

“Tad, i Dy ddwylaw rwyf yn cymeradwyo fy ysbryd.” meddai’r Iesu fel Iddew gwyliadwy, yn union cyn iddo farw, yn ol efengyl Luc.

Dyma’r weddi a adroddwyd pob noson gan Iddewon Uniongred, rhag ofn iddynt farw, yn ymddiried yn Nuw yn ystod “marwolaeth bach” cwsg.

“Mae o drosodd” meddai’r Iesu, yn Ioan 19:30, yn fuan cyn iddo farw.

Mae’r efengylion i gyd yn son am Ilid Iddewi yn mynd a corff yr Iesu, mewn llieniau, i’w feddrod ei hun, wedi ei dorri allan o’r graig. Wedyn rowliodd garreg enfawr i geg y beddrod ond drannoeth gofynnwyd y brif Weinidogion a Pharisiiaid gan Pilate  i sicrhau fod y beddrod wedi ei gau yn gadarn, rhag i ddilynnwyr yr Iesu ddwyn ei gorff a honni ei fod wedi atgyfodi. Yn ol Matthew, caewyd geg yr ogof yn dynn gan y milwyr a gosodwyd gwarcheidwaid o flaen y beddrod.

Mae o WEDI gorffen, gan fod yr Iesu wedi marw a’I gladdu, ond tydio ddim drosodd.

Amser o aros sy’n dilyn ar y ddydd Sadwrn sanctaidd ond ar ddydd Sul y Pasg, wrth i Fair Faglen a Mair arall ymlwybro at y beddrod mae St. Matthew yn son am ddaeargryn ac am angel yn rowlio’r garreg fawr o’r bedd gyda’r gwarcheidwyr yn syrthio ar lawr mewn ofn. Am eironi! Fod yr un sydd i fod yn farw yn y bedd rwan yn fyw a’r amddiffynwyr ar y tu allan, sy fod yn fyw – fel petaen’t wedi marw!

Nes ymlaen mae Matthew yn dweud fod yr amddiffynnwyr wedi derbyn llugrwobruon ac amodau diogelwch, i ddweud fod dilynwyr yr Iesu wedi dwyn ei gorff ymaith yn ystod y nos. Ni ddigwyddodd y canlyniadau oeddynt yn eu ofni – fel sy’n amal ddigwydd.

Mae’r angel yn dweud wrth y merchaid i beidio a poeni, sy’n golygu eu bod yn gwneud, ac wrth reswm.

Gofynnwyd iddynt fynd yno i weld fod yr Iesu wedi ymadael ac i fynd at Ei ddisgyblion a dweud Ei fod wedi atgyfodi a mi wnaiff gwrdd a nhw yn Galileia.

Hynny yw, ni wnaeth yr Iesu godi Ei hun o farwolaeth ar ol bod yn y feddrod am dridiau, ond codwyd Ef gan Dduw.

Mae’n nodedig mae merched a ofynnwyd i wneud hyn o achos, adeg hynny, nid oedd merched yn cael siarad mewn cwrt na fod yn dystion. Roeddynt yn cael eu trin fel pobol eilradd yn enwedig o gefndir Mair Faglen, a honnid o fod yn butain.

Drwy eu gorchymun yn y modd yma, mae Duw yn dewis pobol annisgwyl i drosglwyddo Ei neges o fywyd newydd ac o obaith – a mae hyn yn cynnwys chi a fi, pechawdwyr a tystion anhebyg, fel yr ydym, i ras gwarchodaidd Duw yn y byd heddiw.

Dim ond wythnos yn ol, ar ddydd Sul y Palmwydd, roedd y dorf yn dew o dystion i’r hyn roedd yn digwydd ond rwan dim ond y ddwy ferch sydd ar ol, gan fod y disgyblion yn cuddio rhag ofn be fase’n medru digwydd iddynt ar ol i’w arweinydd gael ei groeshoeli.

Mae St. Matthew yn daethom fod y merched yn llawen ac yn ofnus wrth iddynt ffoi o’r beddrod, a nes ymlaen mae’r Iesu ei Hun yn dweud wrthynt am beidio ac ofni.

Adlewyrchiad ar Ddydd Sul y Palmwydd ac ymweliad y brenin Charles a Paris.

“ Ac wedi ei ddyfod ef i mewn i Jerwsalem, y ddinas oll a gynhyrfodd, gan ddywedyd, Pwy yw hwn? ”

O Mathew 21:1-11 Efengyl y Palmwydd.

“Roedd ymweliad y brenin Charles a Paris a Bordeaux i fod i gychwyn ar ddydd Sul ond roedd y ddwy ddinas yn dioddef a milendra ers ddydd Iau, ymhlith y gwaetha ers i’r protestiadau ddechrau.” O newyddion y B.B.C.

Weithiau mae defnyddio gweddi i ofyn i Dduw ein gwaredu rhag adegau o brawf neu treial yn ein temtio, er mwyn osgoi anhawster, camdriniaeth, neu cael ein gwrthod.

Mae ddydd Sul y Palmwydd, beth bynnag, yn pwysleisio fod  yr Iesu yn gwynebu poendod a dioddefaint, ac yn rhodio ato, tra fod gymaint yn rhedeg i ffwrdd. Nes ymlaen mae ei ddisgyblion yn eu plith ond pwy fydde’n dychmygu fod mab saer coed ar gefn mul, gyda ychydig o bysgotwyr yn medru cael cystal dylanwad ar Jerusalem, y ddinas heddwch sydd mewn gymaint o dymhestl? Mwy na 2000 o flynyddoedd eisioes mae heddwch yn dal i fod ty hwnt i gyrraedd y ddinas yma, fel sawl un arall o gwmpas y byd.

Mae Paris a Bordeaux ymhlith y rhain, gyda aflonyddwch sifil a phrotestiadau yn erbyn newidiadau yr arlywydd Macron yn byrlymu drost Ffrainc.

Drwy ofyn yr arlywydd, mae’r ymweliad wedi ei ohirio nes fydd yr aflonyddwch wedi tawelu fel eu bod yn osgoi cael eu cynnwys yng ngwleidyddiaeth, a pherygl y sefyllfa.

Bydde eu ymweliad a’r ddinas, yn ogystal a gwledda yn Versailles, gyda’i atseiniau a’r wrthryfel Ffrengig a dienyddiad Louis XVI ddim o gymorth i’r sefyllfa presennol!

Yn gyferbynnol, mae cyrrhaeddiad yr Iesu ym mwrlwm Jerusalem wedi ei ddisgrifio fel “Buddugoliaeth”, wrth i’r ddorfa llawen ei groesawu gan osod canghennau palmwydd ar lawr, er y bydde’n cael ei groeshoeli dim ond pum diwrnod nes ymlaen. Y weithred syml o rodio mewn i Jerusalem ar gefn mul sy’n achosi y canlyniadau  gwleidyddol fwyaf yn weinidogaeth yr Iesu, efallai, fel bod yr awdurdodau Rhufeinig a chrefyddol yn ceisio cael ‘madael ac O, gyda Judas, un o ddisgyblion yr Iesu, yn eu cynorthwyo.

Ond, er yn ymwybodol fod yr amgylchiadau yn berygl iawn iddo, mae’r Iesu yn camu ymlaen i’r lle sy’n cynnig ymraniad a goresgyniad, sibrydion a bygythiadau, o dlodni a chyfoeth, o rym gwleidyddol a chrefyddol. Mae’r Tywysog Heddwch yn herio hyn, dim ond drwy mynd i mewn i’r ddinas ar gefn ebol nid ar gefn stalwyn rhyfelwr neu brenin.

Drwy ddrysu a gwynebu’r Pharisiaid, Herod, milwyr a gwerin Jerusalem, bydd Brenin y Brenhinoedd yn cael ei groeshoeli ar orsedd  pren a choron drain.

Er mi fydd y bradychaeth, y dioddefaint creulon a’r marwolaeth ofnadwy yn arwain, mewn amser, at atgyfodiad a gobaith newydd, i’r rhai sy’n dilyn yn ol traed yr Iesu.

Ond, am rwan, wrth i wythnos y Pasg gychwyn a llywodraethau ac awdurdodau’r wlad wynebu herion, mae efengyl Mathew yn son am ddinas byrlymus a’r cwestiwn “Pwy yw hwn?”

Ym mwrlwm y byd fel y mae, mae’r un cwestiwn yn cael ei ofyn heddiw yn ystod wythnos y Pasg; “Pwy yw Hwn?” Be fydd ein ymateb?

“Nawr i llidiart fy Jerusalem inne, dinas sanctaidd, gwyllt fy nghalon, mae’r Gwaredwr yn dyfod, ond a wnaf Ei groesawu?”

O Dydd Sul y Palmwydd. “Sounding the Seasons”, gan Malcolm Guite, Canterbury Press 2012.

Gyda fy ngweddion,

Pob Bendith, Christine, Gwarcheidwad

Adlewyrchiad am Bumed ddydd Sul Y Grawys ac adeg y  Dioddefaint.

“ Bu llaw yr Arglwydd arnaf, ac a’m dug allan yn ysbryd yr Arglwydd, ac a’m gosododd yng nghanol dyffryn, a hwnnw oedd yn llawn esgyrn. 2 Ac efe a wnaeth i mi fyned heibio iddynt o amgylch ogylch: ac wele hwynt yn aml iawn ar wyneb y dyffryn; wele hefyd, sychion iawn oeddynt. 3 Ac efe a ddywedodd wrthyf, Ha fab dyn, a fydd byw yr esgyrn hyn?”

O Ezekiel 37:1-14, adroddiad heddiw o’r Hen Destament.

“Myfi yw’r atgyfodiad, a’r bywyd: yr hwn sydd yn credu ynof fi, er iddo farw, a fydd byw: 26 A phwy bynnag sydd yn fyw, ac yn credu ynof fi, ni bydd marw yn dragywydd. A wyt ti’n credu hyn? “ Ioan 11:1-45

“I lwyddo mewn bywyd, mae angen tri peth; asgwrn dymuniad, asgwrn cefn ac asgwrn doniol”. Reba McEntire, cantores gwerin o America.

Mae adroddiadau heddiw ynglyn a’r esgyrn sych a atgyfodi Lazarus yn rhai cyfarwydd ond yn cyseinio’n wahanol yma ym Mhennant Melangell, lle mae esgyrn sych ffesantod a defaid yn gorwedd o gwmpas y lle.

Bu esgyrn ddynol, a’u darganfuwyd yn ystod cloddio ym 1958 a 1979 wedi eu gosod yn y Shrin pan ei ailadeiladwyd yn y flwyddyn 1979.

Efallai fod y creiriau hyn yn perthyn i’r santes, neu ddim, ond dywedwyd iddynt fod yn perthyn i ddynes tua 5 troedfedd neu 1.52 medr o daldra.

Mae sawl pererin yn ymweld oherwydd y Shrin ond ni sylweddolais arwyddocad hyn yn llawn nes i mi fynd i mewn i’r eglwys yn fuan ar ol cymeryd y swydd, a gweld corff yn gorwedd ar lawr yn ymyl y Shrin.

Wrth i mi sefyll yno wedi syfrdanu, trodd y corff ataf a dweud “Bore Da!”, nes i mi ddallt mae Pererin Uniongred oedd yma’n addoli’r creiriau a mae’r  holl gardiau gweddi a symbolau o gwmpas y Shrin yn arddangos dylanwad Melangell ym mywydau bobol heddiw.

Efallai fod ei esgyrn sych yn gorwedd yma heddiw ond mae Melangell yn ymgorffori’r gwerthoedd o seintwar, gwellhad a croeso sy’n fyw yma yn ardal y Shrin.

Gofynwyd i Ezekiel “A feder yr esgyrn sych yma fyw?”

Yn y pen draw maen’t yn gwneud, a bywyd newydd yn dod i’r hyn sy’n sych ar ol colli gobaith.

Mae’r un peth yn wir pan gafodd yr Iesu wybod am farwolaeth Lazarus – mae E’n disgwyl deuddydd cyn mynd at Mair a Martha, sy’n drist gan fod yr Iesu heb ddod yn gynt.

Mae Martha hefyd yn pryderu am oglau, sy’n golygu fod Lazarus wedi marw ac nid yn unig ei fod yn anymwybodol.

Ta waeth, pryd mae’r Iesu yn gweld Mair a’r rhai o gwmpas yn wylo, mae Ef hefyd yn wylo.

Nid Duw estron yn defnyddio’r ddynol ryw fel y myn, mo hyn, ond Iesu ddynol yn dioddef colled, galar a phoen.

Wrth i Lazarus godi o’r beddrod, does dim arogl mae’n debyg – yn codi’n fyw o farwolaeth. Mae bywyd wedi adnewyddu ac mae geiriau’r Iesu i Martha yn cael eu defnyddio mewn angladdau Cristnogol hyd heddiw fel atgof o ailsefydlu gobaith wrth wynebu a trechu marwolaeth gan i’r Iesu gael ei atgyfodi nes ymlaen.

Gwelodd Ezekiel bywyd newydd yn tyfu wrth i anadl Duw ailfywiogi’r esgyrn sych, yn union fel i Lazarus ymateb i orchymun yr Iesu i godi o’r beddrod.

Wrth i adeg y Dioddefaint gychwyn, mae llawer sy wedi sychu neu marw mewn bywyd heddiw ac weithiau mae’n anodd ystyried lle fedr gobaith fod. Be sydd angen marw a pha esgyrn sych sydd angen anadl newydd i’w bywiogi, a sut?

Seiniwyd y cwestiynnau yma dros y blynyddoedd ac mae’n ymateb ni’n holl-bwysig; “A fedr yr esgyrn yma fyw?”, “Ydych yn credu hyn?”.

Gyda fy ngweddion,

Pob Bendith,

Christine, Gwarcheidwad.

Adlewyrchiad am y 4ydd Ddydd Sul Y Grawys. Sul y Mamau.

45 “A phryd na chawsant ef, hwy a ddychwelasant i Jerwsalem, gan ei geisio ef. 46 A bu, ar ôl tridiau, gael ohonynt hwy ef yn y deml, yn eistedd yng nghanol y doctoriaid, yn gwrando arnynt, ac yn eu holi hwynt.”
O Luc 2:43-51, Efengyl heddiw.

“Yn ogystal a gwryw a benyw, mae yna 72 o rywiau eraill”. MedecineNet.

Mae efengyl heddiw yn canolbwyntio ar gyfarfod yr Iesu a’i rieni gyda Anna a Simeon, yr henoed sydd yn sylweddoli pwy yw’r Iesu.
Mae Simeon yn dweud wrth Fair fod yr hyn a ddigwyddith yn mynd i fod yn boenus iddi a mae delweddau, fel Pieta Michaelangelo, yn dangos hi’n dal corff ei mab ar ol sefyll o flaen y groes yn ystod y croeshoeliad.
Yn ogystal mae yna ddelweddau o Fair dedwydd yn dal ei baban ac mae hyn yn adlewyrchu sefyllfa rhieni heddiw yn profi’r boendod a’r llawenydd o fagu plentyn.

Awgrymwyd yn y cyfryngau heddiw na ddylid ddefnyddio “mam” neu “tad” a bydde “rhiant” yn well air.
Mae’r ymateb wedi bod yn gymysg iawn ond, gyda Llywodraeth Cymru yn gosod tampons yn llefydd chwech y Senedd a’r awgrymiad fod yna 74 o rywiau, tydi hyn ddim yn adeg hawdd i fod yn riant nac yn blentyn tra mae’r materon yma’n cael eu trafod.

Adlewyrchid y dryswch yma yng weddill adroddiad heddiw, lle mae Joseff a Mair yn mynd i Jerusalem am y Pasg, ond, yn anymwybodol iddynt, yn dychwelyd heb yr Iesu. Maen’t yn meddwl ei fod gyda teulu arall ar yr orymdaith ond mae E wedi aros yn Jerusalem a chymerwyd diwrnod iddynt sylweddoli hynny.
Pryd dychwelasant i chwilio am yr Iesu, mae’n cymeryd tridie iddynt Ei ddarganfod gyda’r Athrawon yn y deml, ac, wrth gwrs maen’t yn poeni’n fawr amdano erbyn hynny. Ond, pryd mae Mair yn Ei holi, mae’n gofyn paham a wnaethont chwilio amdano canys y bydde bob tro yn nhy ei Dad.
Pa effaith cafodd hyn ar Joseff a Mair?
Yn ol Luc mae E’n dychwelyd i Nazareth gyda’i rieni ac yn ufydd iddynt ond mae Mair yn cadw hyn oll yn ddiogel yn ei chalon tra mae Ef yn tyfu yn gorphorol ac mewn doethineb.

Er nid yn hawdd ar Fair ar y pryd, heddiw mi fase cwestiynnau mawr yn cael eu gofyn o’r rhieni petai plentyn ar goll am bedwar diwrnod.
Er hynny, efallai medrwn gymeryd cysur wrth sylweddoli fod magu plentyn yn anodd yr adeg honno, i gymharu a chymlethdodau magu plentyn heddiw, ac o ystyried mae llysdad mewn effaith oedd Joseff i’r Iesu.
Yn ystod encil, des ar draws pen mop mewn caej, gyda gwres, bwyd a diod wedi eu darparu gan ofalwr. O dan y mop roedd cywion bach – eu mam wedi ei lladd gan lwynog – nid yn ddelfrydol efallai ond yn ddigonol nes i’r cywion medru byw bywyd anibynnol.

Gyda bywyd fel ffoadur yn yr Aifft am ddwy flynedd a Joseff, mewn effaith, yn lysdad iddo, yn dysgu sgiliau saer coed, mae’n amlwg fod teulu’r Iesu wedi gorfod gofalu dros eu hunain o bryd i bryd a bon’t yn ymgorphori rhai o’r heriau mae sawl teulu yn wynebu heddiw.
Serch hynny, a’i rieni wedi ei golli am gyfnod, ‘roedd magwraeth yr Iesu’n ddigonol Iddo, a mae’r un gobaith ganddom ninnau tra’n gwynebu holl amgylchiadau newidiol y dydd.
Nid oedd Mair a Joseff yn rieni perffaith a, tra fod Sul y Mammau hefyd yn cael ei adnabod fel Sul y Maeth, efallai medrwn ninnau gymeryd maeth i’n eneidiau drwy eu siampl!
.
Gyda fy ngweddion,
Pob Bendith,
Christine,
Gwarcheidwad.

Adlewyrchiad am 3’ydd ddydd Sul Y Grawys a hawl mynegi barn.

”39 Daeth llawer o’r Samariaid o’r dref honno i gredu yn Iesu drwy air y wraig..” O Efengyl heddiw Ioan 4:5-42

“Os yw rhyddid yn golygu unrhywbeth o gwbl, mae e’n golygu’r hawl i ddweud wrth bobol yr hyn nad ydynt eisiau clywed.”  George Orwell, awdur “1984” a chyn gynhyrchydd rhaglen “B.B.C. yn siarad”.

Mae trafodaeth heddiw rhwng yr Iesu a’r ddynes Samaraidd wrth ffynnon Iacob yn un hir, lle maen’t yn ymuno a chyfres o drafodaethau sy’n effeithio ar y ddau ohonynt.

Mae’r Iesu wedi blino, ac ar ben ei hun gan fod y Disgyblion wedi mynd i nol bwyd ac hefyd  mae’n andros o boeth am hanner dydd.

Mae E’n fregys, fel hithe, oherwydd mae gorfod mynd at y ffynnon yng ngwres y dydd i nol dwr tra fydde’r rhan fwyaf yn cysgodi yn arwyddocau na tydi hi ddim mewn safon uchel yn y gymdeithas.

Er syndod iddi hi, gan fod yr Iddewon a’r Samariaid “ddim yn rhannu pethau yn gyffredin”, p9, mae’r Iesu yn croesi ffin rhwng y ddau gymdeithas wrth ofyn iddi am ddiod, rhywbeth na fydde byth yn digwydd yn ol arfer yr  adeg heb achosi problemau i’r ddau ohonynt.

Adeg hynny, hefyd, er tristwch, adeg yma, roedd yr amgylchiadau hiliol, crefyddol a chymdeithasol yn golygu fod gelyndra ac anesmwythdod yn parhau yno, er fod nol dwr yn ddisgwyliadwy o ferched.

Cynnigodd yr Iesu iddi Dwr Byw, ffres nid merllyd, sef “ffynhonnell o ddwr yn ffrydio i fywyd tragwyddol” p14 ond mae hithe yn herian arno nad oes ganddo fo fwced ac er y gwahaniaethau rhyngddynt, yn crybwyll “ein cyndaid Iacob”. Ar ol gosod y sail perthnasol rhyngddynt mae hi’n gofyn am y dwr yma ac galw’r Iesu yn brophwyd ar ol iddo son am ei phum gwr. Mae’r Iesu yn dweud wrthi mai’r Messeia ydi O, a’r ddynes yn gadael ac yn siarad yn gyhoeddus am eu trafodaeth fel bod lawer o Samariaid yn tyrru ato ac yn gofyn iddo aros gyda hwynt. Mae Ioan yn sgrifennu fod llawer yn credu yn yr Iesu ond tydi o ddim yn dweud os yw’r ddynes yn dod i’r Ffydd gydag Ef. Er, drwyddi hi, mae gwasanaeth Iesu yn ymledu i’r Samariaid fel y bon’t yn dweud mae “Efe yw gwir Achubwr y Byd”. P 42.

Yr eironi yw fod y  ddynes dibwys yma yn cael llawn sylw wrth iddi adrodd beth a ddigwyddodd.

Ar ol i hynny ddigwydd ailsefydlwyd y drefn cymdeithasol wrth i’r Samariaid ddweud “Nid drwyddoch’di ‘rydym yn credu bellach ond clywsom dros ein hunain.” p42.

Beth a ddigwyddodd iddi? A wnaeth y ddynes droi at y ffydd gyda’r Samariaid eraill neu a aeth yn ol i’r anialwch i geisio’r “dwr byw” ar ol ei phrofiad anghyffredin?

Efallai y bod ninnau yr un fath ar adegau, yn gwynebu amgylchiadau anodd ac annisgwyl ac yn achosi ymmyraeth gan eraill.

Efallai bydde Gary Lineker a’r B.B.C. yn cytuno wrth drafod hawl y cyflwynwr pel droed i leisio barn ar fateron amheus a’r angen i’r B.B.C. fod yn ddiduedd, er i lawer un mae hyn  yn achos am rhyddid i fynegi barn. Mae sylwadau Lineker ynglyn a ffoadurion a’r ymatebion llednaith ynglyn a’i sylwadau yn dal i fwydo trafodaeth, er nid bob tro yn briodol i’r pwnc; er engraifft y rhai sydd a ddim bwys am sylwadau Lineker ond yn cwyno am ddiffyg ddarpariaeth teleduol peldroed.

Pwy yw’r pobol rydym wedi cwrdd a nhw yn annisgwyl, yn ein bywydau neu ar y newyddion a pha effaith cawsant arnom a ninnau ar nhwythau? A oedd ffiniau cymdeithasol wedi eu croesi neu ailsefydlu ac i bwy roedd y canlyniad yn anweledig, fatha’r ddynes Samaraidd a effeithiodd ar fywydau gymaint o bobol?

Wrth i daith Y Grawys barhau, a yw’n bosib fod sgyrsiau annisgwyl a phrofiadon “anialwch” wedi cael effaith bell-gyrhaeddol ar ddatblygiad  Deyrnas Nef yma ar y Ddaear?

Gyda fy ngweddion,

Pob Bendith,

Christine,

Gwarcheidwad.

Adlewyrchiad am Ail Ddydd Sul Y Grawys ac uniondeb yn y bywyd cyhoeddus.

“Sut a fedr y pethau yma fod?”
Nicodemus yn efengyl heddiw, Ioan 3:1-17.

“Dwi’n dda iawn yn beth dwi’n wneud. Dwi’n gwneud straeon o ddiddordeb cyhoeddus a dwi’n gwneud penderfyniadau.”
Y gohebydd Isabel Oakshott ar rhoi negeseuon Wattsapp cyfrinachol Matt Hancock i’r Daily Telegraph i’w cyhoeddi.

Mae Efengyl heddiw yn cymeryd lle ar ol y newid o dwr yn win gan yr Arglwydd yn y briodas yn Cana a’r Iesu yn glanhau y deml, pryd wnaeth sawl un gredu yn ei enw drwy weld arwyddion o’r hyn a wnaeth. P23.

Doth Nicodemus, arweinydd yr Iddewon, at Yr Iesu i’w holi ynglyn a hyn, ond yn ystod y nos, sef, o bosib ei fod eisiau i’w ymweliad fod yn gyfrinachol.
Tra’n derbyn fod gweithredion Yr Iesu yn gysylltiedig a weithredion Duw, tydi Nicodemus ddim yn rhoi ei gefnogaeth llwyr i’r achos.
Mae trafodaeth yn cychwyn ynglyn a “genedigaeth o’r Nefoedd”, lle mae’r Iesu yn herio Nicodemus, sy’n ymateb “ Sut fedr y pethau yma fod?” P9

Mae llawer yn digwydd heddiw i achosi i ni ofyn yr un cwestiwn. “Sut fod gymaint o achosion gwledig yn bodoli sy’n achosi ffwndr a dryswch, boed o’n ddiffyg tanwydd, streiciau, prinder bwyd mewn archfarchnadoedd
neu gweinidogion y Llywodraeth yn dweud clwyddau?”
Tra fod Isabel Oakshott yn amddiffyn ei phenderfyniad i gyhoeddi 100,000 o negeseuon cyfrinachol drwy honni eu bod o ddiddordeb cyhoeddus, mae Matt Hancock yn ei chyhuddo o fradychu ei ymddiriaeth, ac ef ei hun mewn perthynas a oedd yn chwalu ymddiriaeth mewn ddau briodas.

Mae’r negeseuon yn llewyrchu goleuni ar arbrofi mewn cartrefi gofal, polisi ar gyfer ysgolion, amharch at swyddogion undeb athrawon ac yn gwawdio’r rhai a oedd yn gorfod talu biliau gwesty yn ystod y pandemig, er fod y negeseuon, cyfartal a thri beibl St. Iago, hefyd yn dangos y pwysau aruthrol ar ysgwyddau gweinidogion ar y pryd.
Polisi’r llywodraeth yn cael ei wneud ar y cyd – sut fedr hyn fod? Ond wedyn sut fedr fod fel arall a Covid yn ein arwain i feusydd diathr?

Mae cwestiwn Nicodemus yn adlewyrchu un Fair yn Leuc 1:3-4 “Sut fedr hyn fod?”
Ateb yr Iesu i Nicodemus yw; “sut dy fod ddim yn deallt y pethau ‘ma a tithe yn weinidog crefydd ymhlith pobol Israel?”

Cafodd hyn oll effaith mawr ar Nicodemus, ac yntau yn ceisio amddiffyn Yr Iesu wrth i’r erlynaeth gynhyddu (7:50, 11:47)  a hefyd yn dod a pherlysiau
i’r beddrod ar ol y croeshoelio. (Ioan 19:39).
Drwy wynebu’r Gwir a gwneud penderfyniadau anodd mae Nicodemus cuddiedig yn dangos dewrder drwy gefnogi’r Iesu yng ngwyneb ei erlyniaeth gan yr awdurdodau crefyddol – a fydd yr un yn wir am ein gwleidyddion wrth i ganlyniadau Covid ymlwybro ‘mlaen?

Wrth i daith Y Grawys barhau, pa bethau yn ein bywyd personol ninnau fydde’n well ganddom gadw’n gyfrinachol ac efallai fydd gennym gwestiynnau anodd i ofyn am ein ymddygiad ninnau yn ystod adegau o brofi?
Sut fedr y pethau ‘ma fod, a beth fedrwn ni wneud, yn gyhoeddus, ynglyn a nhw?

Pob Bendith.
Gyda fyng ngweddion,
Christine, Gwarcheidwad.

Adlewyrchiad am Ddydd Sul cyntaf Y Grawys – Temtasiwn.

“  Yna yr Iesu a arweiniwyd i fyny i’r anialwch gan yr Ysbryd, i’w demtio gan ddiafol. 2 Ac wedi iddo ymprydio ddeugain niwrnod a deugain nos, ar ôl hynny efe a newynodd. O Mathew 4: 1-11. Efengyl heddiw.

“Nid yn unig mae Duw yn creu ffordd yn yr anialwch, ond yr anialwch yw’r ffordd.” Gideon Heugh. yn “Open”, llyfryn Tear Fund ar gyfer Y Grawys.

Mae’r gair Groegaidd am “temtasiwn” hefyd yn golygu prawf, ac efallai y bydde’n hawdd i gredu mae un waith yn unig mae’r Iesu yn goroesi temtasiwn yn yr anialwch wrth iddo ystyried y gweledigaethau a gafodd yn ystod Ei fedyddio.
Hefyd mae hyn yn dylanwadu ar y dyfodol.
Mae’r Iesu yn gwrthod y temtasiwn i droi’r cerrig gwastad, tebyg i pitta o’I gwmpas yn yr anialwch, yn fara, i fwydo Ei hun, ond yn y pen draw bydd yn dysgu ei Ddisgyblion i weddio am eu bara beunyddiol (Matt 6:11) a bwydo miloedd gyda ychydig o dorthau y physgod. (Matt. 14:17-21; 15:33-38).

Yn yr un modd a mae’r diafol yn dweud wrth Yr Iesu i lychio Ei hun oddiar uchelbwynt y deml, gan obeithio i angylion Dduw ei ddal, mae O hefyd yn dioddef gwawd gan Ei fod yn gwrthod achub Ei hun a dod lawr o’r Groes (Matt 27:38-44,46).
Hefyd, mae’n gwrthod cynnig y diafol i
lywodraethu dros deyrnasoedd y Ddaear ond yn son yn amal am Deyrnas y Nef wrth y rhai sy’n fodlon dilyn Ei arwaeniaeth Ef.
Nid yn unig dioddefaint i’w orchfygu yw’r temtasiynnau ond hefyd profion, sy’n Ei baratoi am bopeth a ddaw, yn sail I’w gysylltiadau a’r rhai sy’n llwgu, yn sal, ac mewn angen; gyda’r rhai fel y Pharasiaid a’r Sadusiaid, sydd yn defnyddio eu cysylltiadau grymus nes ymlaen I’w brofi (Matt 16:1, 19:3 etc); neu gyda’r rhai sy’n rhoi ormod o bwyslais ar fesurau materol o lwyddiant, ei ddilynwyr Ei hun yn eu plith (Matt 18:1-5).
Yn sicr, yr anialwch yw’r ffordd.
Yn gyson, mae’r Iesu yn crybwyll achlysuron tebyg o ysgrythur yr Hen Destament.

Mae’r 40 diwrnod yn yr anialwch yn adlewyrchu’r cyfnod a dreuliwyd yno gan Israel ar ol yr Exodus a mae Ei son am fara yn dod o’r adeg hwnnw yn  Deuteronomy 8:3.

Mae’r diafol ei hun yn crybwyll yr ysgrythur yn Salm 91 a temptio’r Iesu i lychio Ei hun oddiar uchafbwynt y deml ond mae’r Iesu yn gwrthod gyda’r ateb o Deuteronomy 6:16 pryd mae Moses yn atgoffa ei bobol am syt roeddynt wedi profi Duw ynglyn a’u sychder yn Massa, hyd yn oed ar ol iddo eu bwydo gyda manna.

Yr un peth sydd ar waith yn y temtasiwn olaf  – yr Iesu yn dibynnu ar yr ysgrythur am atebion i amgylchfeydd tebyg, sef Deuteronomy 6;13.

Fel yn ein siwrne ni, hyd Y Grawys, wrth ystyried be sydd wedi digwydd i ni, byddem yn gweld lle rydym wedi gorchfygu neu wedi plygu i temtasiwn. Be gafodd ei ddysgu ac ydyw wedi ein paratoi am ddigwyddiadau nes ymlaen?

Mi aeth yr Iesu o ddyfroedd yr Iorddonen i sychder yr anialwch, o swn y dorf i ddistawrwydd, o agoriad y Nefoedd i brofi ymosodiadau ysbrydol uffernol ond yr oedd yr Ysgrythur yn allweddol i’r hyn a wynebodd.

Wrth i ni wynebu profiadon tebyg yn ein bywydau heddiw, boed yn prinder bwyd yn yr archfarchnadoedd, grym dros rhannau o’r Byd, neu addoli grymmoedd eraill – mae’n debyg fod “cyfeillion y teulu” satanaidd yn recriwtio ar hyn o bryd!

Yn union fel a grybwyllodd yr Iesu yr Ysgrythur; yn ystod temtasiynau corfforol neu ysbrydol heddiw, pa ysgrythuron a byddem ni yn eu defnyddio?

Gyda fy ngweddion,
Pob Bendith,
Christine, Gwarcheidwad.

Adlewyrchiad ar y Ddydd Sul cyn Y Grawys a’r Gweddnewidiad.

“ Chwe diwrnod yn ddiweddarach, fe gymerodd Iesu Pedr, Iago ac Ioan, ei frawd, a’u harwain i ben mynydd uchel ar eu pennau eu hunain; ac yno yn eu gŵydd fe newidiwyd ei wedd, ei wyneb yn disgleirio fel yr haul, a’i ddillad yn wyn fel y goleuni.”
O Matthew 17:1-9k

“Rwy’n eich gweld – yn ystyried os mae dim ond tryloywder breuddwyd yw Duw”
O ‘Rumours of Light’ gan Gideon Heugh.

Mae Efengyl heddiw, ynglyn a’r Gweddnewidiad, yn digwydd ar ol i Seimon Pedr sylweddoli mae’r Iesu yw’r Messeia, yr hyn sydd yn groes i
fyrddallter yn ei ddealltwriaeth fod hyn yn mynd i arwain at Ei farwolaeth cyn Ei Atgyfodiad.
Ar yr un llaw mae Seimon Pedr yn gwneud naid mawr mewn ffydd, cyn gael ei alw yn Satan gan Yr Iesu am fod yn faen tramgwydd.
Diolch i Dduw am nam ddisgyblion, y sydd, ta waeth, yn cael eu galw a’u defnyddio gan Dduw er Ei wasanaeth, pobol cyffredin y medrwn uniaethu gydant.

Dim ond Pedr, Iago a Ioan sy’n dilyn Yr Iesu i fynny’r mynydd – tydi hyn ddim yn brofiad ar gyfer pob disgybl, oherwydd nid yw pob peth gan Dduw yn addas ar gyfer pob credadwr.
Mae Mathew yn daethom fod yr Iesu wedi gweddnewid o’u blaenau, ei wyneb yn tywynnu fel yr Haul a’i ddillad yn bur wyn. Gydag Ef mae Moses ac Eleias, yn cynrychioli y Gyfraith a’r Prophwydion ond, wrth i hyn ddigwydd, mae Pedr, tra bod yn ymarferol, eisiau nodi’r achlysur. Wrth iddo son am godi tri pabell dyma gwmwl gloyw’n taflu’i gysgod drostyn nhw, a llais yn dod o’r cwmwl: “Dyma fy Mab, fy anwylyd, sydd wrth fy modd; gwrandewch arno.”

Mae’n wir, amdan Pedr ac efallai amdanom ni, ein bod yn rhuthro drwy materon pwysig yn lle eu llawn profi – efallai hefyd fod yna adegau lle dylem wrando fwy a siarad llai.
Does dim yn cael ei ddeud am ymateb Iago a Ioan ond, wrth i’r goleuni rhyfeddol dywynnu, maen’t yn syrthio i’r llawr mewn ofn.
Mae’r Iesu yn dod atynt ac yn dweud wrthynt i beidio ac ofni, yn eu cyffwrdd yn gefnogol – yn ymateb i’w gofynnion nhwythau ac nid Ef ei Hun.
Wedyn mae’n eu gorchymun i beidio a son am hyn eto, ac mae’r pedwar ohonynt yn dychwelyd o’r mynydd, Yr Iesu yn gwella plentyn gydag epilepsi.
Mae’r profiad godidog yma yn arwain at wasanaethu y cyhoedd, mae llewyrch a’r Groes yn cymysgu, fel mae anffurfiad a thrawsnewidiad.
Efallai, wrth i ni sefyll ar drothwy Y Grawys, y dylem ninnau ystyried dylanwad y gyfraith a phrophwydion yn ein bywydau a’n cymunedau, ar adeg lle mae awdurdod o dan fygythiad o sawl cyfeiriad.
Yr wythnos yma, mae heddlu Sir Gaerhirfryn wedi cyfeirio eu hunain at ymchwiliad i’w trefniadau mewn achos Nicola Bulley, ac mae argyfwng yn yr Eglwys ynglyn a phriodasau unrhyw.
Mae gymaint dan her ac yn bryderus ond, yng nghanol y Trawsnewidiad mae’r Iesu yn sefyll, yn calonogi a chefnogi y rhai a fydd, yn y pen draw, yn ffoi rhagddo yn ystod Ei arest ond a fydd yn amlwg yn lledaenu’r Efengyl ar ol ei atgyfodiad.
A felly y mae i ninnau, boed yn ystod adegau “ar ben mynydd” yn ein bywydau neu “i lawr yn y dyfnderoedd”, mae’r Trawsnewidiad yn ein atgoffa i wrando am lais Yr Iesu ac i helpu’r rhai rydym yn cwrdd, fel a wnaeth Ef.
Mae adeg Y Grawys yn gyfle i ni edrych ar yr anialwch yn ein bywydau ac i edrych allan am ogoniant Duw a’i gyffwrdd mewn gweddi i ddangos i ni sut mae goleuni a gobaith yn trechu ofn – os yr ydym yn gadael iddynt.

Gyda fyng ngweddion;
Pob Bendith,

Christine,
Gwarcheidwad.